Neidio i'r prif gynnwys
Gwennan yn dal i wenu

13.04.24 - Gwennan Hopkins ar achlysur ei chap a'i chais cyntaf dros Gymru.

Gwennan yn dal i wenu

Dim ond pum munud gymrodd hi i Gwennan Hopkins wneud ei marc ar y maes rhyngwladol.

Rhannu:

Does dim llawer o bobl ifanc yn eu harddegau yn sgorio yn eu gêm brawf gyntaf, ond dyna’n union wnaeth Gwennan Hopkins, sy’n 19eg oed, yng Nghorc y penwythnos diwethaf – gan sgorio unig bwyntiau ei gwlad yn ystod y prynhawn yn y broses.

Daeth ei chais o fe pum munud iddi ddod i’r maes yn lle Abbie Fleming gyda Chymru ar ei hôl hi o 36-0. ‘Roedd ei 20 munud ar y maes yn un o’r ychydig uchafbwyntiau o safbwynt tîm Cymru ar brynhawn digalon ar y cyfan i brif hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham a’i garfan.

Mae doniau Gwennan Hopkins wedi eu meithrin trwy lwybr datblygu merched Cymru ac mae’n falch o fod yn un o lwyddiannau’r broses honno. Mae hi hefyd yn awchu i greu argraff bellach yn y crys coch yn y dyfodol agos.

Ar ôl gwneud ei marc ar dir Iwerddon, mae hi nawr yn gobeithio cael cyfle i gynrychioli ei gwlad yn ei dinas enedigol, Caerdydd, pan ddaw Ffrainc i Barc yr Arfau y penwythnos hwn.

Y penwythnos canlynol bydd Yr Eidal yn teithio i’r Brifddinas wrth i Stadiwm Principality gynnal y gêm ryngwladol a thair ffeinal fydd yn benllanw i ddigwyddiadau’r ‘Ffordd i’r Principality 2024’. Tair rownd derfynol a gêm ryngwladol hefyd. Bydd dydd Sadwrn y 27ain o Ebrill yn ddathliad o rygbi menywod yma yng Nghymru.

‘Roedd Ioan Cunningham wedi ei blesio gan yr hyn a welodd gan Gwennan Hopkins yn Stadiwm Virgin Media yng Nghorc gan bod ei pherfformiad am chwarter ola’r ornest yn egnïol, cyflym, pwerus ac angerddol. Hyn oll yng nghyd-destun y ffaith bod Cymru o dan y lach yn sylweddol tan iddi gamu i’r cae. Ar ôl cael blas ar rygbi rhyngwladol, mae Hopkins yn bendant yn awchu am fwy!

“Roedd y profiad a’r diwrnod ychydig yn chwerw-felys oherwydd y canlyniad, ond mae wastad wedi bod yn freuddwyd genna’i i chwarae dros Gymru. Er ein bod wedi colli – ‘dwi wedi gwireddu fy mreuddwyd o chwarae dros Gymru a bydd y balchder hwnnw’n aros gyda fi am byth.

“Byddai wedi bod yn braf ennill ar fy ymddangosiad cyntaf, ond doedd hynny ddim i fod yn anffodus.‘Ro’n i’n meddwl fy mod i’n mynd i fod yn llawer mwy nerfus nag oeddwn i, ond ‘roedd bod ar y maes yn cynrychioli fy ngwlad yn anhygoel.

“Roedd sgorio cais ar fy ymddangosiad cyntaf yn arbennig iawn – fel breuddwyd i ddweud y gwir – alla i ddim credu’r peth.

Fe sgoriodd Hopkins ei chais lai na phum munud wedi iddi ddod i’r maes.

“Roedd gweld fy nheulu yn y dorf yn hynod o emosiynol i mi. Dyna oedd yr eiliad fwyaf sbeshial i mi. Maen nhw wedi bod mor gefnogol i mi ac wedi fy ngyrru filoedd o filltiroedd ym mhob tywydd i ymarfer a chwarae’r gêm ‘rwy’n ei charu.

“Dechreuais chwarae pan oeddwn i’n bedair neu bump oed yn Llandaf a chael lot o hwyl ac amser wrth fy modd mewn awyrgylch hynod o gefnogol yno.

“O’n i wastad yn dweud fy mod i’n mynd i fod yn chwaraewr rygbi ac wrth i’r freuddwyd honno ddod yn nes at gael ei gwireddu – mae’r pwysau arnaf wedi cynyddu. ‘Dydw i ddim yn broffesiynol eto, ond mae hynny’n rhywbeth ‘dwi’n gobeithio ei gyflawni’n y dyfodol – ac mae llawer o waith i’w wneud o hyd i geisio gwireddu hynny.”

Mae Gwennan Hopkins bellach yn astudio ym Mhrifysgol Hartpury ond yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd y daeth hi i sylw’r dewiswyr cenedlaethol o dan adain cyn brop Cymru Catrin Edwards – gynrychiolodd ei gwlad ar 70 achlysur.

Bu Hopkins yn gapten ar ferched o dan 18 Caerdydd wrth iddyn nhw ennill y teitl rhanbarthol – a hi gafodd ei dewis yn Chwaraewr y Flwyddyn yn rhanbarth y Brifddinas yn yr odran hwnnw hefyd. Yn ystod yr un flwyddyn aeth hi ymlaen i arwain ei gwlad o dan ddeunaw a chwaraeodd dros dîm Saith Bob Ochr Cymru hefyd. Wedi hynny gwisgodd grys coch ei gwlad o dan 20 cyn camu i’r prif lwyfan rhyngwladol y penwythnos diwethaf.

Mae’n amlwg bod Ioan Cunningham a Warren Gatland fel ei gilydd yn hyderus i ddangos ffydd mewn chwaraewyr ifanc addawol. Fe gafodd y pedwarawd o Gaerdydd Cam Winnett, Evan Lloyd, Alex Mann a Mackenzie Martin eu capiau cyntaf yn ystod Chwe Gwlad eleni, ac mae’r genhedlaeth nesaf o fenywod gan gynnwys Gwennan Hopkins,Sian Jones a Mollie Reardon yn mynnu eu lle yng nghynlluniau Ioan Cunningham hefyd.

“Mae’r rhain yn ferched rydw i wedi bod yn chwarae gyda nhw ers blynyddoedd ac mae’n gyffrous iawn ein gweld ni i gyd yn dod drwodd ar yr un pryd. ‘Ry’n ni’n deall ein gilydd yn dda ar y maes ac ‘ry’n ni gyd eisiau chwarae gêm gyffrous a chyflym,” ychwanegodd Hopkins.

“Mae’n gam sylweddol o’r gemau oedran penodol at y llwyfan rhyngwladol mawr – ond mae torri mewn i’r prif dîm gyda’n gilydd yn beth arbennig iawn ac yn gwneud pethau’n haws ar y cae hefyd gan ein bod yn deall ein gilydd.

“Mae ‘na lot o bwysau yn y Chwe Gwlad achos mae’n Bencampwriaeth enfawr i ni. Ond y peth pwysig i ni ar hyn o bryd yw ein bod ni’n dod yn agosach at ein gilydd.

Gwennan Hopkins mewn cynhadledd i’r wasg.

“Ry’n ni’n brifo wedi’r penwythnos diwethaf, ond ‘ry’n ni’n mynd i ddefnyddio’r boen honno i danio ein hysbryd a’n perfformiad yn erbyn y Ffrancwyr. Mae’n mynd i fod yn her gorfforol – yn her a hanner.

“Ond dyma’r math o bwysau ‘dwi wedi breuddwydio amdano – ac mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ei gallu i gynrychioli’n gwlad yn falch. Fyddwn ni ddim yn cymryd cam yn ôl yn erbyn Ffrainc.

“Ry’n ni wedi ymarfer yn hynod o galed yr wythnos hon ac ‘ry’n ni’n garfan agos gyda theimlad o undod.

“Dwi’n dod o Gaerdydd ac felly byddai gallu chwarae gêm ryngwladol ym Mharc yr Arfau neu Stadiwm Principality yn anhygoel.

“Dwi wedi cael ambell gyfle i chwarae ym Mharc yr Arfau yn barod – ond byddai cynrychioli fy ngwlad yno’n rhywbeth arbennig iawn.

“Tydw i ddim yn gwybod beth y gallaf ei gyflawni yn ystod fy nghyrfa – ond dwi’n benderfynol o roi o fy ngorau er mwyn rhoi pob cyfle i mi lwyddo – a’r tîm hefyd wrth gwrs.

“Dwi wedi bod wrth fy modd yn chwarae dros Gwalia Lightning yn yr Her Geltaidd, gan bo’r safon wedi bod yn arbennig eleni er bo’r gystadleuaeth yn gymharol newydd. ‘Dwi hefyd wedi wedi chwarae i Brifysgol Hartpury a chlwb Hartpury-Caerloyw yn Uwch Gynghrair Allianz a dwi wrth fy modd â hynny hefyd.

“Y peth gwych i mi fel rhywun ifanc yw bod yna opsiynau ar gael nawr. ‘Dwi mor ddiolchgar i Ioan a’i dîm hyfforddi, yn ogystal â’r merched o’m cwmpas, am roi’r cyfle yma i mi ddysgu a chwarae ar y lefel uchaf.

“Dyma oedd fy mreuddwyd ers blynyddoedd ac mae’r ffaith bod cymaint o chwaraewyr addawol yn curo ar y drws bellach yn argoeli’n dda i’r gamp yma yng Nghymru.

“Mae Alaw Pyrs o’r tîm dan 18 oed wedi bod yn ymarfer gyda’r brif garfan yn ddiweddar ac mae hi’n un o fy ffrindiau gorau yn Hartpury. Mae ymarfer gyda’n gilydd a dod i ddeall ein gilydd yn siwr o dalu ar ei ganfed yn y pendraw.

“Dwi wedi bod mor lwcus i gynrychioli timau Cymru dan 18, 20 a chystadlu yn yr Her Geltaidd. Wrth dyfu i fyny ro’n i’n gorfod chwarae gyda’r bechgyn a doedd dim llawer o sylw i gêm y merched. Doedd gen i ddim llawer o fodelau rôl, ac felly penderfynais fy mod i’n mynd i chwarae yn fy ffordd fy hun.

“Nawr mae gweld y gemau yn cael eu darlledu a’r sylw yn y cyfryngau yn anhygoel mewn cymhariaeth.

“Un o fy arwyr heb os yw Catrin Edwards fy nghyn-athrawes. Mae gennyf lun gyda hi pan oedd hi newydd chwarae dros Gymru rai blynyddoedd yn ôl. Dwi’n gobeithio cael llun gyda hi ar ôl un o Gemau Cymru – pan fydda i wedi chwarae – fel y gallwn gwblhau’r cylch!”

 

 

 

 

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gwennan yn dal i wenu
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Gwennan yn dal i wenu
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gwennan yn dal i wenu
Rhino Rugby
Sportseen
Gwennan yn dal i wenu
Gwennan yn dal i wenu
Gwennan yn dal i wenu
Gwennan yn dal i wenu
Gwennan yn dal i wenu
Gwennan yn dal i wenu
Amber Energy
Opro
Gwennan yn dal i wenu