Cynrychiolodd Turnbull ei wlad 11 o weithiau ac mae bellach wedi chwarae cyfanswm o 334 o gemau dros y Scarlets a Chaerdydd dros gyfnod o 16 mlynedd.
Fe symudodd Josh Turnbull, sydd bellach yn 36 oed, o’r Scarlets i’r Brifddinas yn 2014 a bu’n amlwg iawn wrth iddyn nhw ennill Cwpan Her Ewrop yn 2018. Fe enillodd wobr Peter Thomas am Chwaraewr y Tymor yn 2021/22 a gwta fis yn ôl – fe wnaeth ei 200fed ymddangosiad dros y clwb yn erbyn Leinster.
Dywedodd Josh Turnbull: “Mae fy nghyrfa wedi hedfan heibio ac felly mae’r penderfyniad i roi’r gorau iddi wedi bod yn anodd. Wedi dweud hynny – dyma’r penderfyniad iawn i fi a fy nheulu.
“Roedd cyrraedd y garreg filltir o 200 o gemau dros Gaerdydd wedi bod yn symbyliad mawr i mi’n ddiweddar ac ‘roedd cael gymaint o fy ffrindiau a fy nheulu yno ar y diwrnod yn sbeshial iawn.
“Mae fy nghyrfa rygbi wedi cynnig gymaint o brofiadau anhygoel i mi. ‘Rwyf wedi teithio’r byd, gwneud ffrindiau arbennig ac wedi mwynhau fy amser gyda’r Scarlets a Chaerdydd hefyd.
“Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi fy helpu ar hyd y ffordd – athrawon, hyfforddwyr, staff, cefnogwyr a fy nheulu hefyd wrth gwrs.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fy her newydd ac ‘rwy’n gobeithio y bydd fy mhrofiad o chwarae bron i 350 o gemau proffesiynol yn profi’n werthfawr yn fy rôl gyda’r academi.
“Hoffwn ddiolch i Gaerdydd am gynnig y cyfle hyn i mi. Mae talent mawr yma i’w ddatblygu ac ‘rwy’n edrych ymlaen yn fawr at rannu fy mhrofiad a chynnig fy help i’r chwaraewyr ifanc.”
Dim ond John Muldoon sydd wedi gwneud mwy o ymddangosiadau na Josh Turnbull ym Mhencampwriaeth Unedig BKT ac oni bai am anaf i’w gefn – mae’n debygol y byddai’r record honno bellach ym mhoced Turnbull.
Mae ganddo brofiad hyfforddi wrth gynorthwyo gyda Chastell Newydd Emlyn, Tîm o dan 18 y Scarlets ac o fewn llwybr datblygu Caerdydd. Ar hyn o bryd mae’n hyfforddi amddiffyn a leiniau Cwins Caerfyrddin ac yn ddiweddar teithiodd gyda thîm hyfforddi o dan 18 Cymru ar gyfer Gŵyl y Chwe Gwlad yn Parma.
Mae Prif Hyfforddwr Caerdydd Matt Sherratt wedi gweithio gyda’r blaenwr amryddawn a di-gyfaddawd ers pum mlynedd ac mae’n hynod o falch y bydd Josh Turnbull yn ymuno gyda’r system academi.
“Mae Josh wedi gwneud cyfraniad anferth i’r clwb – ar y cae ac oddi-arno hefyd. Mae wastad wedi rhoi’r tîm yn gyntaf ac bydd yn gosod yr un safonau i’r bois ieuenctid.
“Mi all Josh a’i deulu fod yn arbennig o falch o’r hyn y mae wedi ei gyflawni fel chwaraewr ac ‘ry’n ni fel clwb yn edrych ymlaen yn fawr at weld beth all ei gyflawni fel hyfforddwr yn ei rôl newydd.”