Mae’n anodd credu mai 19 oed yw Morse o hyd gan fod ei berfformiadau diweddar dros y Gweilch wedi bod mor gofiadwy.
Datblygwyd ei ddoniau trwy gynllun datblygu’r rhanbarth a chyn hynny yng Nghlwb Rygbi Cwmtwrch ac Ysgol Ystalyfera.
Gwnaeth Morgan Morse ei ymddangosiad cyntaf dros y Gweilch yn erbyn Sale fis Tachwedd ac mae bellach wedi cynrychiol’r rhanbarth ar 10 achlysur. ‘Roedd un o’r rheiny yn Ellis Park pan fanteisiodd ar ryng-gipiad i sgorio cais yn erbyn y Lions ar y maes chwedlonol.
Ei gais arall dros y Gweilch oedd ei rediad cofiadwy yn y mwd ar Faes y Bragdy ym Mhenybont Ddydd Calan, sicrhaodd y fuddugoliaeth iddynt dros Gaerdydd.
Gwnaeth Morse ei ymddangosiad cyntaf dros dîm o dan 20 Cymru yn 17 oed pan ddaeth i’r maes fel eilydd yn erbyn Yr Alban. Fe sgoriodd gais y prynhawn hwnnw ac mae bellach wedi ennill 19 o gapiau o dan 20 ac wedi bod yn gapten ar y tîm o dan 18.
Dywedodd Morgan Morse: “Mae’n grêt gwybod fy mod yn aros ‘da’r Gweilch. ‘Rwy’n prowd iawn eu bod yn dangos eu ffydd ynof ac ‘rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld faint y gallaf ddatblygu fel chwaraewr yma.
“Fi wir wedi mwynhau’r tymor yma. Mae pethe’n teimlo’n bositif iawn yn y Gweilch ar hyn o bryd ac ‘rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y dyfodol.”
Ychwanegodd Toby Booth, Prif Hyfforddwr y Gweilch:”Mae gweld datblygiad Morgan wedi rhoi pleser mawr i bawb yma’n y Gweilch.
“Mae ganddo ddawn arbennig wrth gwrs – ond mae ei agwedd tuag at ei waith yn gampus hefyd. ‘Ry’n ni gyd yn gyffrous am yr hyn sydd ar y gorwel i Mogan ac i ni fel rhanbarth hefyd.”