Neidio i'r prif gynnwys
Tri chais Tudur yn trechu tîm o dan 18 Portiwgal

Tudur Jones oedd arwr buddugoliaeth Cymru yn erbyn Portiwgal (Llun gan Federico Zovadelli/Actionpress)

Tri chais Tudur yn trechu tîm o dan 18 Portiwgal

Yn dilyn eu colled hwyr a chreulon yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn, tarodd bechgyn o dan 18 Richie Pugh yn ôl trwy drechu Portiwgal o 35-10 yng Ngŵyl y Chwe Gwlad yn Parma.

Rhannu:

Tudur Jones oedd Seren y Gêm wrth i’r mewnwr o Fôn dirio deirgwaith dros ei wlad.

Portiwgal ddechreuodd gryfaf – ac ‘roedden nhw’n credu y dylent fod wedi cael cais cosb wrth i Jack Harrison daclo Martin Bento yn y gornel – ond nid fel yna y gwelodd y dyfarnwr Robbie Jenkinson bethau.

Cymru sgoriodd gyntaf wedi 12 munud o chwarae. Yn dilyn dwylo da gan y blaenwyr a’r olwyr fe groesodd y canolwr Lewis Edwards i dirio cais fyddai wedi cael ei ddathlu yn Ysgol Gyfun Gŵyr a rhanbarth y Gweilch fel ei gilydd. Trosodd Steffan Jac Jones yn gelfydd.

Ond dim ond am bum munud y parodd mantais crysau gwynion Cymru wrth i gapten Portiwgal Miguel Romero ddangos ei sgiliau a’i gryfder i groesi yn y gornel. Llwyddodd Tomas Marques gyda’i drosaid o’r ystlys i wneud y sgôr yn gyfartal.

Cyfuniad o’r Jonesiaid sicrhaodd bod Cymru’n ad-ennill y fantais gydag 8 munud o’r 35 agoriadol yn weddill. Bylchodd y blaenasgellwr Ryan yn ardderchog cyn dadlwytho’n wych i Tudur – y mewnwr o Fôn – a Steffan Jac drödd y pum pwynt yn saith.

Fe gafodd mentergarwch bechgyn Richie Pugh ei gosbi yn eiliadau olaf y cyfnod cyntaf. Yn hytrach na chicio’r bêl i’r ystlys gyda’r cloc eisoes wedi troi’n goch – fe chwiliodd y Cymry am eu trydydd cais. Collwyd y meddiant ac arweiniodd hynny at gic gosb i Marques – olygodd mai dim ond 4 pwynt oedd yn gwahanu’r timau wrth droi.

Hanner Amser: Cymru 14 Portiwgal 10

Penderfynodd y ddau dîm ledu’r bêr ar ddechrau’r ail gyfnod a bu ond y dim i rediad Joseff Jones o’i ddwy ar hugain ei hun dalu ar ei ganfed. Amddifadwyd ef gan amddiffyn Portiwgal yn agos at eu llinell gais ac amddifadwyd yr eilydd o fachwr Tom Howe o gais wedi chwarter awr o’r ail gyfnod pan ‘roedd hi’n ymddangos iddo dirio’r bêl yn gywir. Nid felly y gwelodd y dyfarnwr bethau ar yr achlysur hwn.

Serch hynny ‘doedd ddim yn rhaid aros yn hir tan i’r cyntaf o’r 21 pwynt yn yr ail gyfnod gyrraedd i’r crysau gwynion.

Daeth trydydd cais y Cymry dri munud yn ddiweddarach wrth i’r mewnwr Tudur Jones ddangos ei wybodaeth o reolau’r gamp yn wych wrth dirio’r bêl oedd wrth fôn sgarmes Portiwgal y tu ôl i’w llinell gais eu hun. Dim camsefyll felly a diolch yn fawr meddai’r mewnwr o Langefni wrth dirio’i ail gais o’r prynhawn.

Dim ond am dri munud arall y bu’n rhaid iddo aros am ei drydydd cais o’r ornest wrth iddo ryng-gipio pas Marques i garlamu o dan y pyst a sicrhau’r fuddugoliaeth i’w dîm.

Wrth i’r cloc droi’n goch fe redodd yr eilydd Steffan Emanuel yn gryf i dirio pumed cais Cymru ac fe gaeodd Carwyn Jones ben y mwdwl gyda’r trosiad.

Canlyniad pwysig a haeddiannol i garfan Richie Pugh. Bydd eu gêm olaf o’r ŵyl yn erbyn Ffrainc ddydd Sul y 7fed o Ebrill am 12.15 ein hamser ni.

Canlyniad Cymru 35 Portiwgal 10.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tri chais Tudur yn trechu tîm o dan 18 Portiwgal
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tri chais Tudur yn trechu tîm o dan 18 Portiwgal
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tri chais Tudur yn trechu tîm o dan 18 Portiwgal
Rhino Rugby
Sportseen
Tri chais Tudur yn trechu tîm o dan 18 Portiwgal
Tri chais Tudur yn trechu tîm o dan 18 Portiwgal
Tri chais Tudur yn trechu tîm o dan 18 Portiwgal
Tri chais Tudur yn trechu tîm o dan 18 Portiwgal
Tri chais Tudur yn trechu tîm o dan 18 Portiwgal
Tri chais Tudur yn trechu tîm o dan 18 Portiwgal
Amber Energy
Opro
Tri chais Tudur yn trechu tîm o dan 18 Portiwgal