Bydd y gyfres drwyddi draw yn gweld timau Hemisffer y Gogledd yn cynnal 21 o gemau yn erbyn timau gorau’r byd. Bydd y gemau i’w gweld yn fyw yn y Deyrnas Gyfunol ar TNT Sports a Discovery+.
Bydd Ffiji yn ymweld â Chaerdydd am y tro cyntaf ers 2021, ddydd Sul y 10fed o Dachwedd – gwta 14 mis ers i’r ddau dîm wynebu’i gilydd mewn clasur o ornest yng ngemau grŵp Cwpan y Byd yn Ffrainc y llynedd. Bydd y gic gyntaf am 13.40.
Bydd tocynnau ar gael am £20,£30 & £40 gyda thocynnau hanner pris ar gyfer y rhai o dan 18 oed. Mae’r cynllun prisio newydd hwn ar gael ar gyfer y tair gêm – ac ar gyfer unrhyw sedd – ac felly bydd modd i deulu o bedwar wylio’r ornest hon am £60.
Wythnos yn ddiweddarach bydd Cymru’n croesawu’r ‘Wallabies’ i’r Brifddinas am 16.10, fisoedd yn unig wedi i garfan Warren Gatland chwarae dwy gêm brawf yn Awstralia ym mis Gorffennaf.
Prisiau ar gyfer y tocynnau yma fydd £30, £40 & £60 sy’n golygu y gall teulu o bedwar wylio’r gêm am £90.
Pencampwyr presennol y Byd, De Affrica fydd gwrthwynebwyr olaf Cymru o’r gyfres am 17.40, ddydd Sadwrn y 23ain o Dachwedd. Bydd y Crysau Cochion eisoes wedi wynebu’r ‘Springboks’ yr haf hwn wedi i Gymru dderbyn gwahoddiad i’w herio yn Twickenham fis Mehefin.
Bydd bechgyn Warren Gatland yn croesawu De Affrica i Stadiwm Principality chwarter canrif wedi iddynt chwarae yn y gêm gyntaf erioed yng nghartref newydd Rygbi Cymru. Y Crysau Cochion enillodd yr ornest gyntaf honno ar y 26ain o Fehefin 1999 ac felly bydd eu herio 25 mlynedd wedi hynny’n uchafbwynt arbennig a hanesyddol i Gyfres yr Hydref eleni.
Prisiau’r tocynnau ar gyfer yr ornest hon fydd £50, £70 a £90 fel y gall teulu o bedwar fod yno’n cefnogi Cymru am £150.
Mewn datblygiad newydd arall, bydd deiliaid tocynnau tymor y Rhanbarthau’n cael cyfle i brynu tocynnau cyn iddynt fynd ar werth i’r cyhoedd ar y 6ed o Fehefin. Cofiwch mai’r lle gorau i brynu’ch tocynnau yw yn eich clwb rygbi lleol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi Gweithredol URC, Nigel Walker: “Mae Cyfres yr Hydref yn mynd i fod yn arbennig o gyffrous i Gymru gyda thair gêm yn erbyn tri o dimau gorau Hemisffer y De o fewn cyfnod o dair wythnos.
“Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at estyn croeso i Ffiji, Awstralia a De Affrica wrth i ni ddathlu pen-blwydd y Stadiwm yn chwarter canrif. Mae’n addas hefyd mai’r Springbok’s fydd yn cloi’r gyfres yn ystod y flwyddyn arbennig hon – o ystyried mai nhw oedd ein gwrthwynebwyr cyntaf yn ôl ym 1999.”
Gall cefnogwyr gofrestru eu diddordeb yma er mwyn derbyn gwybodaeth am y tocynnau. Mae gwybodaeth bellach hefyd ar gael: https://faq.principalitystadium.wales/
Bydd Pecynnau Lletygarwch Swyddogol Undeb Rygbi Cymru ar gael yn fuan. Gall pobl gofrestru eu diddordeb yma er mwyn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf.
Bydd TNT yn dangos pob un o gemau’r gyfres gyfan yn y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon eleni a bydd modd i gefnogwyr y gamp ddilyn holl gyffro gemau Ffrainc ar TF1 gyda beIN SPORT yn dangos gemau am yn ail. Sky Italia fydd cartref rygbi’r Eidal o safbwynt darlledu Cyfres Hydref 2024.
Bydd manylion y darllediadau byd eang y tu hwnt i’r trefniadau uchod yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Dywedodd Prif Weithredwr y Chwe Gwlad Tom Harrison: “Mae Cyfres yr Hydref yn mynd i fod yn brofiad gwych ar y cae ac oddi arno hefyd gan y bydd yn tynnu cefnogwyr rygbi o bedwar ban byd at ei gilydd mewn dathliad o’r gorau sydd gan y gamp i’w gynnig.
“Mae’r ffaith bod TNT Sports wedi ymuno gyda’n teulu darlledu yn ddatblygiad arwyddocaol wrth i ni barhau gyda’n ymrwymiad i gynnig y gwasanaeth a’r profiad gorau i gefnogwyr rygbi.”
Ychwanegodd Trojan Paillot ar ran Warner Bros a Discovery Sports yn Ewrop: “Ein dyhead yw sicrhau y bydd TNT Sports yn cael ei gysylltu’n ddiamheuol gyda digwyddiadau chwaraeon gorau’r byd. Bydd ychwanegu Cyfres yr Hydref at ein darpariaeth a’n gwasanaethau yn ein galluogi i fod wrth galon y byd chwaraeon trwy gydol mis Tachwedd.
“Bydd gweld chwaraewyr gorau Hemisffer y De yn herio’u gwrthwynebwyr o Hemisffer y Gogledd yn un o uchafbwyntiau calendr y byd chwaraeon eleni – ac ‘ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at gysylltu cefnogwyr rygbi’r byd gyda’u harwyr ac adrodd yr hanesion a’r digwyddiadau pwysig hyn trwy gydol y gyfres.”
GEMAU CYFRES YR HYDREF 2024
Sul 10 Tachwedd: Cymru v Ffiji
Stadiwm Principality
13:40 GMT
Sul 17 Tachwedd: Cymru v Awstralia
Stadiwm Principality
16.10 GMT
Sadwrn 23 Tachwedd: Cymru v De Affrica
Stadiwm Principality
17:40 GMT
Gallwch ychwanegu manylion y gemau at eich calendr personol yma fel na fyddwch yn colli unrhyw gêm.