Sgoriodd y Cymry ifanc bum cais – un yn llai na’r Ffrancod yn ngêm olaf Gŵyl y Chwe Gwlad yn Yr Eidal.
Ar ddiwedd yr ŵyl, mae’r Cymry wedi colli dwy ornest ond wedi curo Portiwgal gan ddangos cryn addewid.
Y gwŷr mewn glas ddechreuodd gryfaf a’r clo cydnerth Baptiste Veschambre diriodd y cais cyntaf cyn i drosiad Luka Keletaona ymestyn mantais ei dîm i 7-0 yn gynnar.
Wedi i ganolwr y Ffrancwyr Adrien Drault weld cerdyn melyn am daro’r bêl i’r tir yn fwriadol fe grëodd hyrddiad cryf Deian Gwynne gais i Will Evans ac yn dilyn trosiad Carwyn Jones ‘roedd hi’n gyfartal wedi 20 munud o chwarae.
Gyda Drault dal yn cynhesu cadair y cell cosb – derbyn y cynnig am gic rydd syml wnaeth Keletaona er mwyn hawlio triphwynt a’r flaenoriaeth unwaith eto.
Taro’n ôl unwaith eto fu hanes bechgyn Richie Pugh wrth i gyd-chwarae Lewis Edwards a’i gapten Steffan Emanuel arwain at gais i Emanuel ei hun. Trosodd Jones unwaith yn rhagor i agor bwlch o bedwar pwynt o blaid y Crysau Cochion.
Doniau dawnsio Melvyn Rates a throsiad Keletaona gipiodd y flaenoriaeth yn ôl o safbwynt y Ffrancod ac yn dilyn cais Ethan Tia – ‘roedd Cymru ar ei hôl hi o 22-14 wrth droi.
Yn anffodus o safbwynt Cymreig, Ffrainc ddechreuodd yr ail gyfnod gryfaf ac wedi i Marceau Marzullo fanteisio i’r eithaf ar sgarmes symudol, ‘roedd y Ffrancod ar y blaen o 15 pwynt yn dilyn trosiad cywir arall.
Llithro ymhellach ar ei hôl hi wnaeth y Cymry wedi i Carwyn Jones ollwng y bêl – Merci Beaucoup oedd ymateb Charly Mignot hawlio’i gais.
Bydd Richie Pugh yn hapus gydag ymdrech ac ymroddiad ei garfan ac wedi i Gwynne guro tri amddiffynnwr cyn tirio – ‘roedd llygedyn o obaith o hyd o safbwynt Cymru gyda’r sgôr yn 36-21.
Ond fe dynnodd Gabriel Elissalds y gwynt o hwyliau’r Cymry pan ddathlodd ei gais yn orfoleddus – wnaeth drosiad y cefnwr Gabin Lecoste yn hawdd.
‘Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel ym mhoced y Ffrancod i bob pwrpas wedi hynny – ond unwaith yn rhagor fe ddangosodd y Cymry nad oedd ildio i fod a pharchuswyd y sgôr yn sylweddol yn dilyn cais cofiadwy Joseff Jones a sgôr hwyr Alex Ridgway. Trosiad campus Steffan Jac Jones o’r ystlys oedd digwyddiad olaf yr ornest.