Mae Morgan yn dychwelyd i garfan y Gweilch bythefnos wedi i’r cyd-gapten arall Dewi Lake chwarae dros y rhanbarth unwaith eto yn dilyn ei anaf ef.
Fe gollodd Jac Morgan holl ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth Che Gwlad Guinness 2024 o ganlyniad i anaf i’w benglin – ond mae’n dychwelyd i’r Gweilch – sydd yn parhau â chyfle i gymryd rhan yn rownd wyth olaf y gemau ail-gyfle. Maen nhw ar hyn o bryd yn y degfed safle – bedwar pwynt y tu ôl i Ulster.
Dywedodd Prif Hyffordwr y Gweilch, Toby Booth:” Mae’n grêt cael Jac yn ôl ac mae ei bresenoldeb wrth ymarfer yn ddiweddar wedi cael effaith bositif ar yr holl garfan.
“Mae’n anodd iawn i unigolion ddelio gydag anafiadau hir-dymor – ac ‘ry’n ni fel rhanbarth wedi cael mwy na’n siar o’r rheiny’r tymor yma.
“Mae Leinster yn un o’r gwir gewri yng nghyd-destun rygbi yn Ewrop ac fe fydd hi’n anodd iawn yn Nulyn. Wedi dweud hynny. ‘ry’n ni wedi cystadlu’n dda’n eu herbyn yn y gorffennol a’n bwriad yw gwneud hynny unwaith eto.”
Bydd Warren Gatland yn gobeithio y bydd Jac Morgan a Dewi Lake ar gael i herio De Affrica yn Twickenham fis Mehefin cyn teithio i Awstralia dros yr haf – yn enwedig felly gan na fydd Adam Beard ar gael iddo.