Neidio i'r prif gynnwys
Cymru i herio Sbaen yng ngêm ail-gyfle’r WXV ym Mharc yr Arfau

Bydd Menywod Cymru'n herio Sbaen ar Barc yr Arfau

Cymru i herio Sbaen yng ngêm ail-gyfle’r WXV ym Mharc yr Arfau

Bydd Cymru’n croesawu Sbaen i’r Brifddinas ddydd Sadwrn y 29ain o Fehefin – gyda’r gic gyntaf am 2pm.

Rhannu:

Mae’r ddau dîm eisoes wedi sicrhau eu lle yng nghystadleuaeth fyd eang y WXV ond bydd y buddugwyr ddiwedd Mehefin yn hawlio’u lle yn WXV2 yn Ne Affrica – tra chwarae yn WXV3 yn Dubai fydd tynged y collwyr.

Yn eu gêm ddiwethaf, llwyddodd tîm Ioan Cunningham i drechu’r Eidal o 22-20 yn Stadiwm Principality o flaen record o dorf i’r Menywod (10,592).

Y record flaenorol oedd 8,500 yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y llynedd a bydd Hannah Jones a’i charfan yn dychwelyd i Barc yr Arfau ar gyfer ymweliad Sbaen.

Y tro diwethaf i’r ddwy wlad gyfarfod, y Sbaenwyr aeth â hi o 29-5 ym mis Tachwedd 2019 ac fe drechodd Sbaen Fenywod Sweden o 53-0 yn eu gêm ddiwethaf ym Mhencampwriaeth Ewrop.

Bydd cefnogwyr Rygbi Cymru’n gallu mwynhau dwy gêm am bris un tocyn ar y 29ain o Fehefin. Yn dilyn y gêm ryngwladol bydd gornest elusennol arbennig rhwng Arwyr y Llewod ac Arwyr y Lluoedd Arfog (5pm).

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham: “Mae hon yn gêm brawf arbennig o bwysig i ni – gan y bydd yn penderfynu pa adran o’r WXV y byddwn yn cystadlu ynddi ddiwedd y flwyddyn. Mae’r garfan, yr hyfforddwyr a’r staff yn hollol ymwybodol o arwyddocâd y gêm yn erbyn Sbaen.

“Mae’r fuddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal wedi gosod sylfaen hyderus i ni wrth i ni anelu at Gwpan y Byd yn Lloegr y flwyddyn nesaf.

“Ry’n ni’n gwybod bod yn rhaid i ni gryfhau dyfnder ein carfan a chreu mwy o gystadleuaeth mewn gwahanol safleoedd. ‘Ry’n ni wedi dechrau ar y daith honno trwy gyflwyno chwech o gapiau newydd yn ystod y Chwe Gwlad eleni.

“Bydd Sbaen – sydd wedi bod yn dîm cryf yng nghamp y Menywod dros y blynyddoedd – yn teithio yma’n llawn hyder.

“Fe fyddan nhw’n benderfynol o geisio tawelu ein cefnogwyr ar ein tomen ein hunain. Ein gwaith ni yw gwneud yn siwr na fydd hynny’n digwydd.”

Bydd gêm elusennol Arwyr y Llewod yn erbyn Arwyr y Lluoedd Arfog yn cynnwys nifer o gyn-chwaraewyr adnabyddus gan gynnwys Mike Phillips a Ceri Sweeney – gyda’r gic gyntaf am 5pm.

Bydd Rock2Recovery yn elwa’n ariannol o’r digwyddiad er mwyn hyrwyddo eu gwaith o gefnogi cymunedau y Gwasanaethau Brys a’r Lluoedd Arfog. Mae’r elusen yn darparu cymorth a hyfforddiant ymarferol i ymdopi gyda straen.

Dywedodd Charlie Hobson ar ran Rock2Recovery: “Ein bwriad bob tro yw newid – ac achub – bywydau.

“Mae’n holl hyfforddiant am ddim ac ar gael am gyfnod amhenodol. Gall £600 gynorthwyo teulu cyfan i wella eu byd a’u bywydau wrth geisio delio gyda straen a’i sgîl-effeithiau.

“Mae cael y cyfle i rannu’r achlysur arbennig hwn gyda gêm bwysig Menywod Cymru ym Mharc yr Arfau yn arbennig iawn. Y gobaith yw y bydd y cefnogwyr yn mwynhau gwledd o rygbi gyda rhai o fawrion presennol y gamp a rhai o’r mawrion o’r gorffennol hefyd.”

Tocynnau ar gael nawr https://www.eticketing.co.uk/principalitystadium/

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru i herio Sbaen yng ngêm ail-gyfle’r WXV ym Mharc yr Arfau
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru i herio Sbaen yng ngêm ail-gyfle’r WXV ym Mharc yr Arfau
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru i herio Sbaen yng ngêm ail-gyfle’r WXV ym Mharc yr Arfau
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cymru i herio Sbaen yng ngêm ail-gyfle’r WXV ym Mharc yr Arfau