Mae Undeb Rygbi Cymru yn ystyried diogelu data cefnogwyr yn flaenoriaeth ac mae’r Undeb yn y broses o gynnal ymchwiliad trylwyr i’r honiadau sydd wedi eu gwneud ac yn cydweithio’n llwyr gyda gofynion cyflwyno gwybodaeth i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Mae URC yn credu bod yr honiadau’n berthnasol i un o’i darparwyr gwasanaethau allanol – sydd hefyd yn y broses o gynnal eu hymchwiliad eu hunain i mewn i’r honiadau.
Bellach mae’r holl ddata wedi ei ddileu o’r ffynonnell ar-lein o dan sylw – a gellir cadarnhau nad oes unrhyw gyfrineiriau na gwybodaeth am daliadau wedi eu heffeithio.
Yn dilyn proses drylwyr – nid oes unrhyw weithgareddau amheus eraill wedi eu darganfod yn systemau URC.
Gall Undeb Rygbi Cymru sicrhau eu haelodau a chwsmeriaid y byddant yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa ac yn parhau i ddilyn cyngor arbenigol ei phartneriaid diogelu data er mwyn sicrhau bod arfer da yn parhau i gael ei weithredu yng nghyd-destun diogelu data.
Bydd Undeb Rygbi Cymru yn rhannu unrhyw ddiweddariad pellach am ddatblygiadau yn y cyd-destun hwn. Diolch.