Bydd y ddwy ornest draddodiadol sy’n cynnwys y pedwar rhanbarth yn cau’r llen ar y tymor – oni bai y bydd y Gweilch yn llwyddo i sleifio i mewn i’r gemau ail-gyfle.
Bydd Warren Gatland, Richard Whiffin a Filo Tiatia yn gwylio o eisteddle Stadiwm Dinas Caerdydd gyda’r tri ohonyn nhw â’u prif ddiddordeb yn y perfformiadau yn hytrach na’r canlyniadau.
Dyma fydd y cyfle olaf i chwaraewyr ddal llygad Warren Gatland cyn iddo enwi ei garfan ar gyfer y gemau dros yr haf – fydd yn cael ei henwi ar y 3ydd o Fehefin. Bydd Cymru’n teithio i Twickenham ar yr 22ain o Fehefin i wynebu De Affrica cyn hedfan i Awstralia i chwarae dwy gêm brawf ac un ornest yn erbyn talaith Queensland.
O safbwynt Hyfforddwr o dan 20 Cymru, Richard Whiffin, fydd yn teithio i Dde Affrica fis nesaf ar gyfer Pencampwriaeth o dan 20 y Byd – bydd y ddwy ornest ddydd Sadwrn yma yn cynnig y cyfle iddo asesu ffitrwydd a datblygiad chwaraewyr fel Ryan Woodman, Lucas de la Rua, Morgan Morse a Macs Page.
Bydd Whiffin yn arbennig o falch bod capten y llynedd, Woodman, yn ôl yn holliach bellach wedi iddo ddioddef anaf i’w fawd.
Dywedodd Richard Whiffin: “Mae’n beth braf i weld nifer o’r chwaraewyr wedi ennill eu lle’n y gwahanol dimau rhanbarthol ac ‘roedd hi’n wych gweld Ryan yn gwneud cymaint o argraff yn erbyn y Gweilch yr wythnos ddiwethaf mor fuan wedi iddo ddychwelyd o’i anaf.
“Roedd hi’n anodd iddo orfod methu’r Bencampwriaeth o dan 20 eleni – ond fe roddodd hynny’r cyfle iddo ddatblygu’n gorfforol a gweithio ar ei ffitrwydd hefyd. Mae’n barod i greu tipyn o argraff yn Ne Affrica.
“Mae Macs wedi chwarae’n dda iawn y tymor yma ac mae wedi dysgu llawer gan fechgyn profiadol Llanymddyfri.
“Erbyn diwedd y tymor – fe oedd eu prif arf ymosodol – ac yn naturiol – mae hynny’n argoeli’n dda i ni dros yr haf.”
Mae’r chwaraewyr fydd yn cymryd rhan yng ngemau Dydd y Farn – sy’n dal yn gymwys i gynrychioli Cymru o dan 20 eisoes wedi eu cynnwys yng ngharfan ymarfer Richard Whiffin sy’n cynnwys 44 o chwaraewyr. 30 fydd yn teithio i Dde Affrica yn y pendraw ac fe gaiff y garfan derfynol ei henwi o fewn y mis.
Y tymor nesaf bydd Filo Tiatia yn dychwelyd i Gymru fel hyfforddwr ammddiffyn y Dreigiau ac felly bydd ganddo ddiddordeb mawr yn y ddwy gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn.
Dechreuodd ei daith hyfforddi gyda’r Gweilch cyn iddo ddychwelyd at ei gyn-glwb Toyota Verblitz yn Siapan. Bu’n brif hyfforddwr yno – felly hefyd gyda’r Sunwolves yn y Super Rugby. Daeth yn is-hyfforddwr gyda thîm cenedlaethol Siapan ac mae hefyd wedi gofalu am flaenwyr Moana Pasifika ac Auckland.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Dreigiau Dai Flanagan :“Er nad ydi dod i Ddydd y Farn yn rhan swyddogol o waith Filo bydd yn gyfle arbennig iddo weld safon y chwaraewyr sydd gennym ar hyn o bryd.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth all Filo ei gynnig i ni – o safbwynt hyfforddiant ond hefyd o ran gosod safonau hefyd.
“Mae wedi arfer ennill – a bydd yn disgwyl i’n bechgyn ni gael yr un meddylfryd hefyd.
“Mae’n ddyn teulu da sy’n gwybod sut i ddelio gyda phobl – ond mae hefyd yn credu’n gryf bod yn rhaid i chi haeddu llwyddiant er mwyn ei gael.
“Bydd yr agwedd honno a’r safonau y bydd yn eu hawlio gan y chwaraewyr yn siwr o’n cryfhau fel carfan.”