Bydd y chwaraewyr gorau o’r Chwe Gwlad yn dod at ei gilydd yn ninas Parma er mwyn chwarae tair gêm yr un rhwng 4-14 Gorffennaf.
Fe gafodd carfan Liza Burgess ragflas o’r gemau y gallan nhw ei ddisgwyl allan yn Yr Eidal y penwythnos diwethaf pan herion nhw Loegr ym Mryste. Y Saeson aeth â hi o 45-5.
Cynnig mwy o brofiadau ar y llwyfan rhyngwladol yw bwriad y gystadleuaeth newydd hon gan gryfhau’r llwybr datblygu rhwng y timau o dan 18 ac o dan 20.
Cynhaliwyd Pencampwriaeth Chwe Gwlad o dan 18 y Menywod ym Mae Colwyn fis Ebrill gyda chystadleuaeth y Dynion yn Parma yn ystod yr un cyfnod.
Bydd y gemau yr haf hwn yn cynnig y cyfle i rai menywod fethodd â chwarae yn y gystadleuaeth o dan 18 o ganlyniad i gyfyngiadau oedran, i brofi rygbi rhyngwladol.
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnig y cyfle i hyfforddwyr a dyfarnwyr o’r Chwe Gwlad i ddatblygu eu sgiliau ynghŷd â’r chwaraewyr.
Bydd y gemau’n digwydd ar Orffennaf y 4ydd, 9fed a’r 14eg a bydd gan bod gwlad yr hawl i ddewis hyd at dri chwaraewyr o dan 23 oed.
Dywedodd Julie Paterson, Pennaeth Rygbi Menywod y Chwe Gwlad: “Mae’r gystadleuaeth newydd hon yn cynnig y cyfle i chwaraewyr, hyfforddwyr a dyfarnwyr fel ei gilydd i ddatblygu eu doniau ar y llwyfan rhyngwladol.
“Mae hyn yn rhan allweddol o strategaeth y Chwe Gwlad a’r chwe Undeb i gefnogi a hyrwyddo camp y Menywod.
“Dros y tair blynedd ddiwethaf mae’r Gwyliau o dan 18 yng Nghymru wedi bod yn hynod o werthfawr o safbwynt datblygu – ac mae’r gystadleuaeth dros yr haf yn gam arall i gyflymu a chryfhau datblygiad y chwaraewyr ifanc ac addawol hyn.
“Mae perfformiadau Lloegr a Ffrainc yn Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness eleni yn profi gwerth buddsoddi mewn cynlluniau datblygu talent – sydd hefyd wedi cryfhau eu cynghreiriau domestig yn ogystal.
“Ry’n ni’n gobeithio y bydd y gystadleuaeth dros yr haf yn gymorth i ddatblygu nifer o chwaraewyr elît fydd yn perfformio’n gyson ar y llwyfan mawr yn y dyfodol.”
Bydd Cyfres Haf Chwe Gwlad y Menywod ar gael i’w gwylio ar sianeli You Tube y Chwe Gwlad gyda chefnogaeth a sylw pellach ar gyfryngau cymdeithasol y gwahanol undebau.