Gwnaeth y cyntaf o’i 209 ymddangosiad dros y Scarlets yn grwtyn 18 oed yn erbyn Northampton yn 2006. Daeth yn chwaraewr allweddol dros y rhanbarth – ac un o’r uchafbwyntiau amlwg oedd cipio Pencampwriaeth PRO 12 Guinness yn 2017 trwy guro Munster mewn gornest fythgofiadwy yn Stadiwm Aviva yn Nulyn.
Enillodd y cyntaf o’i 96 chap dros Gymru yn erbyn Canada yn Toronto yn 2009 – ac fe sgoriodd ei ddau gais cyntaf dros ei wlad yn erbyn yr Unol Daleithiau ar achlysur ei ail gap.
Fe ddechreuodd 48 o gemau rhyngwladol yn y canol gyda Jamie Roberts – sy’n record yn ei hun ac fe chwaraeon nhw un gêm brawf gyda’i gilydd dros y Llewod hefyd.
Cynrychiolodd Jonathan Davies y Llewod mewn chwe Gêm Brawf yn olynol – ar y teithiau i Awstralia yn 2013 a Seland Newydd yn 2017 – ac ef gafodd ei ddewis yn chwaraewr y gyfres ar yr ail daith honno.
Ym mis Tachwedd 2013 – fe ymunodd gyda Clermont Auvergne yn Ffrainc – a bu ond y dim iddynt ennill Cwpan Pencampwyr Ewrop yn 2015. Yn anffodus i Davies a’i gyd-chwaraewyr, colli yn y Rownd Derfynol fu eu hanes yn erbyn Toulon yn Twickenham.
Dywedodd Jonathan Davies: “Rwy’n mynd i weld eisiau bois y Scarlets yn fawr. ‘Dyw ymarfer da’r garfan ddim yn teimlo fel gwaith.
“Mae chwarae dros y tîm ‘rwyf wedi eu cefnogi erioed am gyfnod mor hir – wedi bod yn anhygoel. Mae gennyf atgofion melys iawn – ond mae’n rhaid i bopeth da ddod i ben.
“Rwy’n cofio fy niwrod cyntaf gyda’r Academi ac yn rhannu ystafell newid gyda Vernon Cooper, Matthew Rees, Iestyn Thomas ac Alix Popham. Nhw oedd yn rheoli’r ystafell newid! ‘Roedd yn rhaid i chi ennill eu parch er mwyn cael eich derbyn – ac ‘roedd hynny’n ffordd dda i grwtyn ifanc ddysgu sut i ffito mewn.”
“Roedd ennill y PRO 12 yn Nulyn yn bendant yn uchafbwynt mawr – ac ‘roedd cael y cyfle i chwarae gyda fy mrawd James yn ystod y cyfnod yn rhywbeth i’w drysori hefyd.
“Rwyf mor ddiolchgar bod y Scarlets wedi cynnig blwyddyn dysteb i mi – ond mae fy amser ar Barc y Scarlets bron ar ben. Fe hoffwn i ddal ymlaen i chwarae – ac fe fydden i’n ystyried chwarae dramor eto os y daw’r cyfle iawn i wneud hynny.”
Fe chwareodd Prif Hyfforddwr y Scarlets, Dwayne Peel yn ngêm gyntaf Jonathan Davies dros y rhanbarth ac felly wedi cael y fraint o gyd-chwarae gydag un o wir arwyr y Scarlets – a’i hyfforddi hefyd.
Dywedodd Dwayne Peel: “’Roedd tipyn o sôn am y crwt ifanc o Fancyfelin – a doedd dim syndod – oherwydd pan gwrddes i fe am y tro cyntaf ‘roedd hi’n amlwg ei fod yn chwaraewr arbennig o addawol. ‘Roedd e’n gryf, yn gyflym ac ‘roedd ei awydd i wella’n amlwg i bawb.
“Bydd diwedd ei gyfnod gyda’r Scarlets siwr o fod yn emosiynol iawn iddo – sy’n hollol naturiol – gan ei fod wedi bod yn rhan enfawr o’r clwb ers blynyddoedd bellach.”
Fe enillodd Jonathan Davies ddwy Gamp Lawn gyda Chymru a dwy Bencampwriaeth arall hefyd. Cynrychiolodd ei wlad mewn dwy gystadleuaeth Cwpan y Byd hefyd yn Seland Newydd (2011) a Siapan (2019) pan orffenodd Cymru’n bedwerydd ar y ddau achlysur hwnnw.