Cafodd y chwaraewyr eu henwebu gan eu rhanbarthau ar gyfer yr ail sesiwn yn y gyfres. Canolbwyntiwyd yn benodol ar yr achlysur hwn ar dechneg sgrymio a leiniau.
Richard Whiffin, Hyfforddwr tîm o dan 20 Cymru gafodd y syniad o greu’r digwyddiadau hyn – gyda chefnogaeth lawn y rhanbarthau.
‘Roedd Whiffin ei hun yn arwain agweddau o‘r hyfforddi gyda chymorth staff yr academïau a James Hook, Bradley Davies, Josh Turnbull, Richie Pugh, Rob Howley, Jonathan Humphreys a Warren Gatland ei hun.

29.04.24 – Rob Howley yn arwain agweddau o’r gweithgareddau.
Dywedodd Huw Bevan, Cyfarwyddwr Perfformiad Undeb Rygbi Cymru:”Mae cydweithio a chreu llwybr datblygu clir yn allweddol i greu llwyddiant.
“Unwaith i Richard gynnig y syniad – fe gawsom ni gefnogaeth lwyr gan y rhanbarthau ac mae’r cydweithio wedi bod yn gampus.
“Mae’n wych gweld yr Undeb a’r rhanbarthau yn cydweithio a gweld y chwaraewyr yn gwella ac elwa o’r broses.”