Neidio i'r prif gynnwys
Wales Women v France

S4C i ddarlledu gêm ail gyfle Menywod Cymru yn erbyn Sbaen

Gall Undeb Rygbi Cymru gadarnhau y bydd y gêm allweddol i dîm y Menywod yn erbyn Sbaen – er mwyn sicrhau lle yn y WXV2 – bellach yn dechrau am 5.35pm ar Barc yr Arfau, ddydd Sadwrn y 29ain o Fehefin.

Rhannu:

Bydd y gêm – fydd yn cael ei dangos yn fyw ar S4C – yn penderfynu pa dîm fydd yn chwarae yn y WXV2 yn Ne Affrica, tra bydd y collwyr yn cystadlu’n y WXV3 yn Dubai.

Yn eu gêm ddiwethaf – fe enillodd Cymru o 22-20 yn erbyn Yr Eidal ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness – o flaen record o dorf o 10,592 yn Stadiwm Principality ddiwedd Ebrill.

Bydd Hannah Jones a’i thîm yn dychwelyd i Barc yr Arfau ar gyfer ymweliad Sbaen – maes sydd wedi datblygu i fod yn rhyw fath o gartref ysbrydol i’r garfan dros y blynyddoedd diwethaf. Hyd nes y record o dorf y erbyn Yr Eidal eleni – ‘roedd yr 8,500 wyliodd yr ornest yn erbyn Lloegr ar Barc yr Arfau yn 2023 yn record i Fenywod Cymru. Ym Mhencampwriaeth eleni – denwyd mwy o dorf nac erioed o’r blaen i wylio’r gemau penodol yn erbyn Yr Alban a Ffrainc hefyd.

Y tro diwethaf i Sbaen a Chymru herio’i gilydd oedd ym mis Tachwedd 2019. Sbaen aeth â hi o 29-5 bryd hynny – ac fe enillon nhw eu gêm brawf ddiwethaf ym Mhencampwriaeth Ewrop o 53-0 yn erbyn Sweden.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru Ioan Cunningham: “Mae’r gêm ail-gyfle hon yn erbyn Sbaen ar Barc yr Arfau yn mynd i fod yn dipyn o brawf i ni ac mae’n beth braf bod S4C yn cydnabod pwysigrwydd yr ornest i’r tîm ac i’r genedl wrth ei dangos yn fyw ddiwedd mis Mehefin.

“Daeth 10,592 o bobl i wylio’n gêm ddiwethaf ni – ac ‘roedd cefnogaeth y record o dorf honno’n hwb anferthol i’r tîm wrth i ni faeddu’r Eidal o 22-20. Mae’n rhaid i ni adeiladu ar y perfformiad hwnnw’n erbyn Sbaen.

“Fe enillodd chwech o chwaraewyr eu capiau cyntaf yn ystod Chwe Gwlad eleni – sydd wedi cryfhau’r dyfnder yn ein carfan yn sylweddol wrth i ni edrych ymlaen at Gwpan y Byd y flwyddyn nesaf.

“Mae creu’r dyfnder hwnnw a rhoi’r cyfle i’r chwaraewyr ifanc brofi amodau ac awyrgylch gemau prawf, yn sicr o gynyddu’r gystadleuaeth o fewn y garfan a chodi’n safonau wrth i ni barhau i gryfhau a gwella fel tîm yn y dyfodol.

“Mae chwarae gartre’ a chael gwisgo’r crys coch yn fraint enfawr – ac ‘rwy’n gwybod bod pob un aelod o’r garfan yn hollol ymwybodol o hynny. Mae cynrychioli’ch gwlad o flaen eich cefnogwyr eich hun yn rhywbeth arbennig – ac yn rhywbeth i’w drysori hefyd.

“Gyda’r fraint honno – daw cyfrifoldeb hefyd – ac ‘rwy’n gwybod bod ein carfan yn gwybod yn iawn pa mor ffodus ŷ’n nhw i gynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
S4C i ddarlledu gêm ail gyfle Menywod Cymru yn erbyn Sbaen
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
S4C i ddarlledu gêm ail gyfle Menywod Cymru yn erbyn Sbaen
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
S4C i ddarlledu gêm ail gyfle Menywod Cymru yn erbyn Sbaen
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
S4C i ddarlledu gêm ail gyfle Menywod Cymru yn erbyn Sbaen