Neidio i'r prif gynnwys
Wainwright yn dychwelyd at ei wreiddiau

Aaron Wainwright a Dai Flanagan yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Wainwright yn dychwelyd at ei wreiddiau

Bydd Aaron Wainwright yn teimlo’n gartrefol iawn yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Ddydd y Farn ar ôl bod yn rhan o academi Clwb Pêl-droed Caerdydd am bum mlynedd.

Rhannu:

Pêl-droed oedd cariad cyntaf wythwr y Dreigiau a Chymru pan oedd yn tyfu i fyny ac roedd yn ddigon da i chwarae gydag academi’r Adar Gleision pan oedd yn 10 oed hyd nes ei fod yn 16eg.

Rhoddodd y profiadau hynny sylfaen dda iddo ar gyfer dod yn gampwr proffesiynol – ond rygbi aeth â’i fryd yn y pendraw.

Patrick Vieira, oedd ei arwr ym myd y bêl gron – ond mae Aaron Wainwright wedi gwneud ei farc ar fyd y campau’n bendant ei hun hefyd –  wrth chwarae mewn dau Gwpan y Byd a bod yn aelod allweddol o garfan Cymru enillodd y Gamp Lawn yn 2019. Do wir – fe elwodd rygbi ar golled pêl-droed.

Dywedodd Aaron Wainwright: “Ro’n i’n chwarae yng nghanol y cae i ddechrau ond symud yn ôl i gyfeiriad yr amddiffyn fu fy hanes. Mae gen i nifer o luniau gyda’r gwahanol dimau rhwng 10-16 ac ‘rwy’n dal i’w trysori.

“Fe ddes i drwodd gyda chwaraewyr fel Regan Pool a Mark Harris, ac roedd Rabbi Matondo flwyddyn ar ein hôl ni. Maen nhw i gyd wedi gwneud yn dda iawn yn eu gyrfaoedd.

“Roedd rhannu’r cyfleusterau ymarfer gyda’r prif dîm yn brofiad gwerthfawr iawn i mi gan ei fod yn agoriad llygad go iawn ar yr hyn sydd ei angen i fod yn chwaraewr proffesiynol.

“Cael fy rhyddhau oedd fy hanes yn y diwedd – ac fe benderfynais ganolbwyntio ar fy ngwaith ysgol – cyn deall mod i’n gallu chwarae rygbi’n reit dda.”

Mae Wainwright eisoes wedi bod i Stadiwm Dinas Caerdydd unwaith y tymor hwn i wylio’r Adar Gleision yn chwarae Caerlŷr. Nawr mae’n gobeithio arwain y Dreigiau at eu hail fuddugoliaeth dros y Scarlets y tymor hwn a hefyd ail-adrodd eu buddugoliaeth syfrdanol dros fois Parc y Scarlets ar Ddydd y Farn y llynedd.

Dywedodd Prif Hyfforddwr y Dreigiau, Dai Flanagan: “Roedd Dydd y Farn 2023 yn wych – yn dangos y gorau o rygbi Cymru. ‘Roedd yr awyrgylch yn arbennig hefyd. Os oes unrhyw ddiwrnod all ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i fwynhau rygbi rhanbarthol – Dydd y Farn yw hwnnw.

“Gan i ni golli yn erbyn y Gweilch y penwythnos diwethaf – byddai’n braf gorffen y tymor ar nodyn uchel yn erbyn y Scarlets. Byddai hynny’n rhoi hwb i bawb wrth i ni edrych ymlaen at yr haf a’r tymor newydd.

“Ein perfformiad yn erbyn y Scarlets y llynedd oedd ein gorau o’r holl dymor ac fe roddodd hynny hwb i’r holl garfan. Gobeithio y gallwn ail-adrodd y perfformiad a’r canlyniad hwnnw.”

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Wainwright yn dychwelyd at ei wreiddiau
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Wainwright yn dychwelyd at ei wreiddiau
Wainwright yn dychwelyd at ei wreiddiau
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Wainwright yn dychwelyd at ei wreiddiau
Rhino Rugby
Sportseen
Wainwright yn dychwelyd at ei wreiddiau
Wainwright yn dychwelyd at ei wreiddiau
Wainwright yn dychwelyd at ei wreiddiau
Wainwright yn dychwelyd at ei wreiddiau
Wainwright yn dychwelyd at ei wreiddiau
Wainwright yn dychwelyd at ei wreiddiau
Amber Energy
Opro
Wainwright yn dychwelyd at ei wreiddiau