Neidio i'r prif gynnwys
Celtci Challenge

Yr Her Geltaidd i ddychwelyd gyda mwy o gemau

Bydd yr Her Geltaidd yn digwydd eto fis Rhagfyr – yn fwy ac yn well nac erioed.

Rhannu:

Yr un chwe thîm fydd yn cymryd rhan ond bydd gan bob un o’r timau 10 o gemau’r tro hwn gan gynnig mwy o amser ar y meysydd i chwaraewyr wrth iddynt baratoi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn Lloegr yn 2025.

Pum gêm gartref a phum gornest arall oddi-cartref fydd yn wynebu’r chwe thîm, gyda’r tymor yn dod i ben fis Mawrth 2025 – mewn digon o bryd i baratoi ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025.

Yn dilyn y cynllun peilot llwyddiannus ddwy flynedd yn ôl, cafwyd tymor cadarnhaol iawn yn yr Her Geltaidd eleni. Fe gymrodd 68 o chwaraewyr ran yn y gystadleuaeth cyn cynrychioli eu gwledydd ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 – gan gynnwys 8 o gapiau newydd dros y gwahanol wledydd.

Cadarnhad clir bod y gystadleuaeth rhwng y timau o’r Alban, Iwerddon a Chymru’n creu cyfleoedd gwych i chwaraewyr addawol ddatblygu eu doniau.

Gwelwyd cynnydd yn nhorfeydd y gemau yn ystod y tymor diwethaf a datblygwyd partneriaethau darlledu gyda’r BBC yn Yr Alban a Chymru a Theledu Rugby Pass yn ogystal. Darlledwyd holl gemau’r Her Geltaidd y tymor diwethaf gan ehangu apêl y gemau a’r gystadleuaeth.

Yr Her Geltaidd yw’r gystadleuaeth gyntaf ar gyfer Menywod sydd wedi ei threfnu ar y cyd gan yr Undebau yn Iwerddon, Yr Alban a Chymru – gyda chymorth World Rugby. Bwriad clir y gystadleuaeth yw pontio’r bwlch rhwng gemau domestig a rhyngwladol y tair gwlad.

Dywedodd Gillian McDarby, Pennaeth Perfformiad a Datblygu Rygbi Menywod yn Iwerddon:

“Y tymor diwethaf, fe roddodd y gystadleuaeth gyfleodd gwych i dalentau ifanc chwarae gemau cystadleuol – sy’n rhan bwysig iawn o’n cynlluniau i ddatblygu camp y Menywod yn ein gwlad a’n tîm rhyngwladol hefyd wrth gwrs.”

Ychwanegodd Nigel Walker Cyfarwyddwr Rygbi, Undeb Rygbi Cymru:”Mae’r Her Geltaidd yn rhan allweddol o’n strategaeth i ddatblygu a hyrwyddo rygbi Menywod yma yng Nghymru. ‘Ry’n ni eisoed wedi gweld Gwennan Hopkins, Sian Jones, Molly Reardon, Catherine Richards a Molie Wilkinson yn ennill eu capiau cyntaf yn ystod y Chwe Gwlad.

“Mae’r gystadleuaeth yn werthfawr o safbwynt datblygu perfformiadau ac mae’r holl chwaraewyr a hyfforddwyr yn gweld yr Her Geltaidd yn rhan allweddol o’r llwybr i gyrraedd y llwyfan rhyngwladol.

“Mae gennym ffydd mawr yn y gystadleuaeth ac ‘ry’n ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld Gwalia Lightning a Brython Thunder yn creu argraff gadarnhaol iawn y tymor nesaf.”

Dywedodd Gemma Fay, Pennaeth Strategaethol Rygbi Merched a Menywod Undeb Rygbi’r Alban: “Roedd yr Her Geltaidd y tymor hwn yn arbennig o werthfawr i ni yn Yr Alban. Mae 35 o’n chwaraewyr bellach wedi symud o’n cynlluniau datblygu i chwarae dros Gaeredin neu Glasgow.

“Bu chwech o’r rheiny’n ymarfer gyda’r garfan genedlaethol yn ystod Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness – gan gynnwys Alex Stewart enillodd ei chap cyntaf.

“Bydd ehangu’r gystadleuaeth a chynnig mwy o gemau’r tymor nesaf yn ein galluogi ni i osod targedau datblygu penodol – o safbwynt cynnydd chwaraewyr, denu mwy o dorfeydd a sylw’r cyfryngau – heb angofio am sicrhau canlyniadau ffafriol ar y cae hefyd.”

 

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Yr Her Geltaidd i ddychwelyd gyda mwy o gemau
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Yr Her Geltaidd i ddychwelyd gyda mwy o gemau
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Yr Her Geltaidd i ddychwelyd gyda mwy o gemau
Rhino Rugby
Sportseen
Yr Her Geltaidd i ddychwelyd gyda mwy o gemau
Yr Her Geltaidd i ddychwelyd gyda mwy o gemau
Yr Her Geltaidd i ddychwelyd gyda mwy o gemau
Yr Her Geltaidd i ddychwelyd gyda mwy o gemau
Yr Her Geltaidd i ddychwelyd gyda mwy o gemau
Yr Her Geltaidd i ddychwelyd gyda mwy o gemau
Amber Energy
Opro
Yr Her Geltaidd i ddychwelyd gyda mwy o gemau