Neidio i'r prif gynnwys
Hannah Jones

Hannah Jones will captain Wales against Spain

Cunningham yn enwi carfan Cymru ar gyfer y gêm allweddol yn erbyn Sbaen

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham wedi enwi ei garfan ar gyfer yr ornest allweddol yng nghystadleuaeth y WXV yn erbyn Sbaen ar Barc yr Arfau, ddydd Sadwrn y 29ain o Fehefin (5.35pm).

Rhannu:

Yn y garfan o 32 o chwaraewyr mae Cunningham wedi dewis 16 o olwyr ac 16 blaenwr. Bydd y garfan yn dod at ei gilydd yn llawn wedi i Fryste a Chaerloyw-Hartpury herio’i gilydd yn Rownd Derfynol Uwch Gynghrair Lloegr ddydd Sadwrn yr 22ain o Fehefin.

Y canolwr Hannah Jones sydd wedi ei dewis yn gapten unwaith yn rhagor – a hynny ar garfan sy’n cynnwys y bachwr Rosie Carr a’r prop Jenni Scoble sef yr unig ddau chwaraewr sydd eto i ennill capiau. Mae Meg Webb (canolwr) a Carys Williams Morris (asgellwr) yn dychwelyd i’r garfan ar gyfer her y Sbaenwyr.

Enillodd Jenny Hesketh (cefnwr), Sian Jones (mewnwr), Molly Reardon (bachwr) a Gwennan Hopkins (wythwr) eu capiau cyntaf yn ystod Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness eleni – ac maent i gyd wedi eu henwi yn y garfan ddiweddaraf hon.

Er bod Sbaen a Chymru wedi sicrhau eu lle yng nghystadleuaeth y WXV – bydd enillwyr yr ornest hon ar Barc yr Arfau yn hawlio’u lle yn WXV2 fydd yn cael ei gynnal yn Ne Affrica. Taith i Dubai i gystadlu yn y WXV3 fydd yn wynebu’r collwyr.

Enillodd Cymru eu gêm gystadleuol ddiwethaf ddiwedd Ebrill trwy drechu’r Eidal yn y Chwe Gwlad – a hynny o flaen record o dorf o 10,592 yn Stadiwm Principality.

Fe gafodd Sbaen y gorau ar Gymru y tro diwethaf i’r ddwy wlad gwrdd ym mis Tachwedd 2019 pan enillon nhw o 29-5. Yn eu gêm gystadleuol ddiwethaf fe drechon nhw Sweden o 53-0 ym Mhencampwriaeth Ewrop.

Gallwch brynu tocynnau yma

Bydd S4C yn darlledu’r gêm bwysig hon rhwng Cymru a Sbaen yn fyw.

Dywedodd Ioan Cunningham: “Mae pob aelod o’r garfan, yr hyfforddwyr a’r staff yn gwybod yn iawn pa mor bwysig yw’r gêm hon yn erbyn Sbaen gan bo’r canlyniad yn cael effaith mawr ar y WXV a Chwpan y Byd yn Lloegr y flwyddyn nesaf.

“Bydd y garfan o 33 yn gyflawn ar y dydd Llun wedi i Fryste a Chaerloyw-Hartpury wynebu ei gilydd yn Ffeinal Uwch Gynghrair Lloegr a bydd angen i ni fod ar ein cryfaf ac ar ein gorau gan y bydd Sbaen yn cynnig her gwirioneddol i ni.

“Maen nhw eisoes wedi paratoi ar gyfer dod i Gaerdydd drwy chwarae dwy gêm yn erbyn Tîm A Canada – ac maen nhw’n benderfynol o greu argraff sylweddol pan fyddan nhw’n dod i Barc yr Arfau.

“Mae’n syml – mae’n rhaid i ni guro Sbaen ac mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r hyder ddaeth o guro’r Eidal er mwyn ein hysbrydoli i ennill y gêm ar y 29ain.

“Ry’n ni wedi bod yn canolbwyntio ar ein cryfderau ac wedi talu sylw arbennig i wella pob manylyn o’n chwarae – a’r gobaith yw y bydd hynny’n talu ar ei ganfed yn y gêm brawf bwysig hon yn erbyn Sbaen.”

Carfan Cymru v Sbaen:

Olwyr: Jenny Hesketh, Courtney Keight, Nel Metcalfe, Lisa Neumann, Carys Williams Morris, Hannah Jones (capten), Kerin Lake, Catherine Richards, Meg Webb, Carys Cox, Hannah Bluck, Lleucu George, Niamh Terry, Robyn Wilkins, Keira Bevan a Sian Jones

Blaenwyr: Abbey Constable, Gwenllian Pyrs, Molly Reardon, Carys Phillips, Rosie Carr, Sisilia Tuipulotu, Donna Rose, Jenni Scoble, Abbie Fleming, Kate Williams, Bryonie King, Alisha Butchers, Alex Callender, Georgia Evans, Bethan Lewis, Gwennan Hopkins

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cunningham yn enwi carfan Cymru ar gyfer y gêm allweddol yn erbyn Sbaen
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cunningham yn enwi carfan Cymru ar gyfer y gêm allweddol yn erbyn Sbaen
Cunningham yn enwi carfan Cymru ar gyfer y gêm allweddol yn erbyn Sbaen
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cunningham yn enwi carfan Cymru ar gyfer y gêm allweddol yn erbyn Sbaen
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cunningham yn enwi carfan Cymru ar gyfer y gêm allweddol yn erbyn Sbaen