Neidio i'r prif gynnwys
Booth yn barod am am y chwarteri

Toby Booth

Booth yn barod am am y chwarteri

Bydd Munster yn wynebu tîm sydd wedi dechrau dod i’r arfer o ‘ddod o hyd i ffordd i ennill’ yn rownd wyth olaf y Bencampwriaeth Rygbi Unedig nos Wener wedi i’r Gweilch grafu eu ffordd i mewn i’r wyth uchaf ar ddiwrnod olaf y tymor arferol.

Rhannu:

Roedd hi’n ymddangos bron â bod yn amhosib i fois Toby Booth i gyrraedd y gemau ail gyfle cyn dechrau gemau Penwythnos 18 gan eu bod yn yr 11eg safle.

Dechreuodd pethau’n dda iddyn nhw nos Wener pan enillodd Leinster yn erbyn Connacht yn Nulyn. Yna curwyd y Lions gan y Stormers ac yn olaf cafodd Caeredin eu chwalu ar faes Benetton.Hyd yn oed wedi hynny ‘roedd yn rhaid i’r Gweilch guro Caerdydd gyda phwynt bonws ar Ddydd y Farn – ac fe lwyddon nhw i wneud hynny yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn.

O ganlyniad, taith i Barc Thomond sy’n eu hwynebu – a hynny’n erbyn tîm gorau’r Cynghrair y tymor hwn.

‘Dyw’r canlyniadau diweddar yn Limerick ddim wedi bod yn arbennig o ffafriol o safbwynt y Gweilch a’r tro diwethaf iddynt ennill gêm yno oedd ar y 27ain o Fedi 2014.

“Mae teithio i Barc Thomond yn wobr am ba mor gystadleuol yr y’n wedi bod y tymor yma. ‘Ry’n ni wedi ennill mwy o gemau eleni sy’n rhoi pleser mawr i mi.” meddai Prif Hyfforddwr y Gweilch Toby Booth.

Ychwanegodd: “Mae’n daith anodd ond ry’n ni’n gwybod bod gennym lawer i’w gynnig.

“Mae chwarae yn Munster wastad yn anodd ond pwy fydd yn perfformio orau ar y noson aiff â hi.

“Dwi’n berson hyderus gwydr hanner llawn – ac mae gennym y ddawn a’r crebwyll i ddod o hyd i ffordd o ennill.

“Ry’n ni eisiau bod yn un o’r timau y mae pawb yn disgwyl eu gweld yn rhan ucha’r tabl yn gyson. Mae pobl yn meddwl fy mod i’n wallgof pan dwi’n dweud hynny, yn enwedig gyda’r heriau ariannol sydd o’n blaenau – ond mae gennym lawer iawn o ddawn yn y garfan ar hyn o bryd.”

Mae’r ffaith bod cyd-gapteiniaid Cwpan y Byd, Dewi Lake a Jac Morgan, wedi dychwelyd wedi anafiadau hirdymor wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i dîm Booth, ond mae dylanwad a phrofiad y capten bytholwyrdd Justin Tipuric  – sydd bellach yn 34 oed – wedi bod yn anferthol hefyd.

Mae’n gwybod yn iawn sut mae ennill gemau mawr ar dir yr Ynys Werdd gan iddo ddechrau yn y fuddugoliaeth am deitl Cynghrair Magners yn 2012 pan enillodd y Gweilch yn erbyn Leinster.

Dywedodd Toby Booth: “Mae Tips wedi parhau i fod yn wych ac mae ei gysondeb a’i ddylanwad yn arbennig. Fe ddywedom ein bod am ddatblygu ein chwaraewyr ein hunain all gynrychioli gwerthoedd ein cefnogwyr ac ‘rwy’n credu ein bod yn gwneud hynny’n dda.

“Mae chwaraeon yn galed ac mae’n gallu bod yn greulon weithiau hefyd. Ond wrth weithio’n galed a gonest ‘ry’ch yn rhoi’r cyfle gorau i chi’ch hunain i bethau fynd o’ch plaid. Dwi’n credu ein bod ni wedi gwneud hynny’n dda iawn y flwyddyn hon.

“Ry’n ni yn yr wyth tîm uchaf am y tro cyntaf ers i mi fod yma ac mae hynny’n glod i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r broses a’r ymgyrch ac mae pawb yn gallu gweld y gwelliant hwnnw.”

Dyma fydd y pumed tro i’r ddau dîm gyfarfod yn rowndiau terfynol y Bencampwriaeth, gyda’r tîm cartref yn fuddugol bob tro hyd yn hyn. Fellu fu pethau hefyd pan wynebodd y ddau dîm ei gilydd yn chwarteri Cwpan Heineken yn 2009.

Munster v Gweilch

2009: Munster 43-9 Gweilch (rownd wyth olaf Cwpan Heineken)
2011: Munster 18-11 Gweilch (rownd gynderfynol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig)
2012: Gweilch 45-10 Munster (rownd gynderfynol y BRU)
2015: Munster 21-18 Gweilch (rownd gynderfynol y BRU)
2017: Munster 23-3 Gweilch (rownd gynderfynol y BRU)

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Booth yn barod am am y chwarteri
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Booth yn barod am am y chwarteri
Booth yn barod am am y chwarteri
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Booth yn barod am am y chwarteri
Rhino Rugby
Sportseen
Booth yn barod am am y chwarteri
Booth yn barod am am y chwarteri
Booth yn barod am am y chwarteri
Booth yn barod am am y chwarteri
Booth yn barod am am y chwarteri
Booth yn barod am am y chwarteri
Amber Energy
Opro
Booth yn barod am am y chwarteri