Bydd Cymru’n chwarae dwy Gêm Brawf yn erbyn y Wallabies yn Sydney a Melbourne cyn cwblhau’r daith wrth wynebu’r Queensland Reds yn Brisbane.
Dewi Lake fydd yn gapten ar y garfan – sydd eisoes wedi ennill 597 o gapiau rhyngddynt ar y llwyfan rhyngwladol hyd yn hyn.
Mae tri o chwaraewyr sydd eto i ennill cap wedi eu dewis yn y garfan – sy’n cynnwys 19 o flaenwyr a 15 olwr. Y bachwr Efan Daniel (Caerdydd) a’r asgellwyr Regan Grace (Caerfaddon) a Josh Hathaway (Caerloyw) yw’r tri hynny.
Mae anafiadau i gefn Keiron Assiratti a phigwrn Elliot Dee’n golygu na fyddan nhw’n teithio i Awstralia. Ni fydd Henry Thomas ar yr awyren chwaith wrth iddo barhau i wella o anaf i’w droed.
Dywedodd Warren Gatland: “Mae’r garfan yma’n fy nghyffroi.’Ry’n ni’n gwybod fod Awstralia’n lle anodd i fynd iddo i chwarae rygbi – ond ‘ry’n ni wir yn edrych ‘mlaen at y daith a’r her honno.
“Bydd y ddwy gêm brawf yn ffyrnig o gystadleuol ac ‘ry’n ni hefyd yn falch iawn o’r cyfle i allu chwarae trydedd gêm yn erbyn y Queensland Reds.
“Ry’n ni’n canolbwyntio ar wella a chryfhau fel grŵp.
“Mae’r garfan hon yn ifanc o hyd ac yn dal i ddysgu am chwarae ar y lefel yma. ‘
“Roedd llawer o agweddau cadarnhaol o’r gêm dros y penwythnos – ac fe allwn ni weithio’n galed iawn dros yr wythnosau nesaf i adeiladau ar y pethau positif hynny.”
CARFAN CYMRU AR GYFER Y DAITH I AWSTRALIA
Blaenwyr (19)
Corey Domachowski (Caerdydd – 10 cap)
Kemsley Mathias (Scarlets – 3 chap)
Gareth Thomas (Gweilch – 31 cap)
Efan Daniel (Caerdydd – heb gap)
Dewi Lake (Gweilch – 13 chap) – Capten.
Evan Lloyd (Caerdydd – 3 chap)
Archie Griffin (Caerfaddon – 1 cap)
Dillon Lewis (Harlequins – 57 cap)
Harri O’Connor (Scarlets – 2 gap)
Ben Carter (Dreigiau – 12 cap)
Cory Hill (Secom Rugguts – 32 cap)
Dafydd Jenkins (Caerwysg – 17 cap)
Matthew Screech (Dreigiau – 2 gap)
Christ Tshiunza (Caerwysg – 10 cap)
James Botham (Caerdydd – 11 cap)
Mackenzie Martin (Caerdydd – 4 cap)
Taine Plumtree (Scarlets – 3 chap)
Tommy Reffell (Caerlŷr – 18 cap)
Aaron Wainwright (Dreigiau – 49 cap)
Olwyr (15)
Ellis Bevan (Caerdydd – 1 cap)
Gareth Davies (Scarlets – 77 cap)
Kieran Hardy (Scarlets – 21 cap)
Sam Costelow (Scarlets – 13 chap)
Mason Grady (Caerdydd – 12 cap)
Eddie James (Scarlets – 1 cap)
Ben Thomas (Caerdydd – 2 gap)
Nick Tompkins (Saraseniaid – 36 chap)
Owen Watkin (Gweilch – 39 cap)
Rio Dyer (Dreigiau – 20 cap)
Regan Grace (Caerfaddon – heb gap)
Josh Hathaway (Caerloyw – heb gap)
Liam Williams (Kubota Spears – 90 cap)
Jacob Beetham (Caerdydd – 1 cap)
Cameron Winnett (Caerdydd – 6 chap)
TREFN GEMAU – TAITH AWSTRALIA 2024
Sadwrn 6 Gorffennaf: Awstralia v Cymru
Allianz Stadium, Sydney
KO 10.55h BST / 19.55h amser lleol
Sadwrn 13 Gorffennaf: Awstralia v Cymru
Parc AAMI, Melbourne
KO 10.55 BST / 19.55h amser lleol
Gwener 19 Gorffennaf: Queensland Reds v Cymru
Stadiwm Suncorp, Brisbane
KO 10.55 BST / 19.55h amser lleol