Cyn yr ornest, fe alwodd Ryan Woodman, capten Cymru, am welliant ar y golled o bwynt yn unig (27-26) ddioddefodd ei dîm yn erbyn y Crysau Duon yn y gystadleuaeth y llynedd. Yn anffodus dim ond 5 munud gymrodd hi cyn i Dylan Pledger groesi am y cyntaf o chwe cais crysau gwynion Seland Newydd.
Er i gais Huw Anderson bedwar munud yn ddiweddarach a gôl gosb Harri Wilde gau’r bwlch i ddeubwynt – fe ddangosodd Seland Newydd eu cryfder a’u menter wedi hynny.
Gyda chwarter awr o’r cyfnod agoriadol ar ôl – dynodwyd cais cosb i dîm y Kiwi – a bu’n rhaid i Osian Thomas dreulio 10 munud yn y cell cosb am dynnu’r sgarmes i’r tir.
Fe gymrodd carfan Jono Gibbes fantais o’r dyn ychwanegol wrth i’r canolwr a’r îs-gapten Xavi Taele o’r Blues ymestyn ei gorff i dirio yng nghysgod y pyst ac ymestyn mantais ei wlad ymhellach.
Dewrder a dawn y Cymry ifanc gafodd y gair olaf cyn yr egwyl, wrth i bas hir a hyfryd Harri Wilde greu cais i’r penfelyn potel Louie Hennessey – gan gau’r bwlch rhwng y timau wrth droi i 11 pwynt.
Hanner Amser: Seland Newydd 24 Cymru 13.
Wedi i Taele sgorio’i ail gais i sicrhau pwynt bonws i’w dîm wedi dim ond tri munud o’r ail gyfnod – ac wedi i’r blaenasgellwr Tai Cribb fanteisio ar symudiad celfydd ymlaen y lein 7 munud wedi hynny – ‘roedd mantais Seand Newydd yn 23 pwynt – a doedd dim ffordd nôl i’r Cymry os bosib?
Croesodd Louie Hennessey am ail gais hynod gofiadwy yn dilyn pas hyfryd Morgan Morse – ond yn union wedi’r ail-ddechrau – danfonwyd Morse i’r cell cosb am dacl anghyfreithlon.
Fe gymrodd Seland Newydd fantais o’r dyn ychwanegol wrth sgorio cais neilltuol o dda – gwblhawyd gan y chwaraewr 7 bob ochr Xavier Tito-Harris.
Ond fe ddangosodd y Cymry wir ddawn a chymeriad yn ystod y 7 munud olaf wrth hawlio dau gais hwyr eu hunain.
Yn dilyn cic bwt hyfryd Harry Beddall – fe fanteisiodd eilydd arall – Seff Emanuel yn gampus i sicrhau pwynt bonws i Gymru – ar achlysur ei gap cyntaf i’w wlad ar y lefel yma – ac yntau’n dal ond yn 17 oed.
Er na lwyddwyd i ddal i fyny’n llwyr gyda sgôr Seland Newydd – fe sicrhaodd cryfder ang ongl Macs Page bod Cymru o fewn 9 pwynt i’w gwrthwynebwyr yn yr eiliadau olaf. O ganlyniad i ail drosiad hwyr Harri Ford – fe hawliodd y Cymry ail bwynt bonws am eu hymdrechion.
Canlyniad: Seland Newydd 41 Cymru 34
Yn gynharach yn y dydd, fe enillodd Ffrainc – sydd wedi ennill y gystadleuaeth hon deirgwaith yn olynol – yn gyfforddus yn erbyn Sbaen yng ngêm arall Grŵp A.
Dyma oedd ymddangosiad cyntaf erioed y Sbaenwyr ym Mhencampwriaeth y Byd. Fe sgoriodd Ffrainc saith o geisiau yn eu buddugoliaeth o 49-12. Bydd carfan Richard Whiffin yn dychwelyd i Stadiwm Athlone yn Cape Town ddydd Iau i herio Sbaen yn y gobaith o efelychu llwyddiant Ffrainc yn eu herbyn.
Dywedodd Ryan Woodman, Capten Cymru: “Roedd honno’n gêm galed ac agos iawn. ‘Roedd methu dal lan ‘da nhw’n anodd iawn i’w gymryd ond o leiaf fe gaethon ni ddau bwynt bonws.
“Llongyfarchiadau i Seland Newydd, fe gymron nhw eu cyfleoedd yn dda heddiw ac fe ddangoson nhw lawer o ddawn hefyd – ond fe allen ni fod wedi eu curo nhw heddiw.
“Mae’n rhaid i ni edrych ymlaen at gêm Sbaen ddydd Iau nawr. Fe chwaraeon nhw’n dda yn erbyn Ffrainc ond mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ennill y gêm honno.”