Bydd Cymru’n teithio oddi-cartref i wynebu De Affrica yn Twickenham ar yr 22ain o Fehefin cyn teithio i Awstralia ar y 26ain o’r mis er mwyn chwarae dwy gêm brawf yn erbyn y Wallabies ac un ornest yn erbyn y Queensland Reds.
Bydd cadarnhad o’r 34 fydd yn teithio i Awstralia’n cael ei wneud maes o law yn dilyn yr ornest yn erbyn De Affrica.
Mae pedwar o chwaraewyr sydd heb eto ennill cap wedi eu dewis ymhlith y garfan sy’n cynnwys 22 o flaenwyr a 15 o olwyr. Ellis Bevan (mewnwr), Jacob Beetham (cefnwr), Keelan Giles (asgellwr) a Josh Hathaway (cefnwr) yw’r pedwar chwaraewr hynny.
Mae Ben Carter, Dewi Lake, Jac Morgan, Taine Plumtree a Christ Tshiunza yn dychwelyd i garfan Cymru wedi iddynt fethu â chwarae’u rhan ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness eleni o ganlyniad i wahanol anafiadau.
Yn dychwelyd hefyd mae’r bachwr Sam Parry, y prop pen tynn Henry Thomas, Cory Hill a Matthew Screech yn yr ail reng a’r olwr amryddawn Liam Williams. Oedran cyfartalog y garfan yw 25 oed.
Gwnaed penderfyniad bwriadol i gynnig saib o chwarae i Josh Adams, Ryan Elias a Will Rowlands dros yr haf ac felly nid ydynt wedi cael eu dewis yn y garfan am y rheswm hwnnw.
Dywedodd Warren Gatland: “Ry’n ni wedi dewis carfan fwy na’r arfer gan nad yw’r chwaraewyr sydd gyda clybiau’n Lloegr ar gael ar gyfer yr ornest yn erbyn De Affrica. Byddwn felly yn gostwng nifer y garfan i 34 cyn teithio i Awstralia.
“Mae pawb yn deall ein bod yn adeiladu tuag at Gwpan y Byd yn 2027. Fe ddangoson ni wir addewid mewn mannau yn ystod y Chwe Gwlad gan osod ein gwrthwynebwyr o dan bwysau. Wedi dweud hynny ‘roedd angen i ni fod yn fwy cywir yn ein chwarae yn amlach.
“Mae’n rhaid i ni fod yn gyson am gyfnodau hirach gan weu perfformiad 80 munud at ei gilydd yn y pendraw. Bydd ein hyder yn tyfu wrth wneud hynny a bydd y buddugoliaethau yn siwr o ddilyn wedyn.
“Mae angen i ni barhau i weithio’n galed a bydd y ffaith bod cryn dipyn o brofiad ar gael i ni unwaith eto’n helpu hynny.
“Mae angen i ni wella’n rheolaeth o gemau yn ogystal â’n goruchafiaeth yn y gwrthdrawiadau – boed hynny wrth ymosod neu amddiffyn.
“Ry’n ni’n creu mwy o ddyfnder yn y garfan a gall hynny ond bod yn beth da.”
O safbwynt y gapteiniaeth, dywedodd Gatland: “Pan ddaw’r garfan at ei gilydd fe wnawn ni asesu’r sefyllfa honno gan fod yr elfen arweiniol honno’n bwysig iawn wrth edrych tua’r dyfodol.
“Mae’n debygol y gwnawn ni enwi capten ar gyfer yr ornest yn erbyn De Affrica cyn enwi pwy fydd yn ein harwain ar y daith.”
CARFAN CYMRU AR GYFER GEMAU HAF 2024
Blaenwyr (22)
Corey Domachowski (Caerdydd – 10 cap)
Kemsley Mathias (Scarlets – 2 gap)
Gareth Thomas (Gweilch – 30 cap)
Elliot Dee (Dreigiau – 51 cap)
Dewi Lake (Gweilch – 12 cap)
Evan Lloyd (Caerdydd – 2 gap)
Sam Parry (Gweilch – 7 cap)
Keiron Assiratti (Caerdydd – 6 chap)
Archie Griffin (Caerfaddon – 1 cap)
Dillon Lewis (Harlequins – 57 cap)
Harri O’Connor (Scarlets – 1 cap)
Henry Thomas (Castres Olympique – 4 cap)
Ben Carter (Dreigiau – 11 cap)
Cory Hill (Secom Rugguts – 32 cap)
Dafydd Jenkins (Caerwysg – 17 cap)
Matthew Screech (Dreigiau – 1 cap)
Christ Tshiunza (Caerwysg – 10 cap)
Mackenzie Martin (Caerdydd – 3 chap)
Jac Morgan (Gweilch – 15 cap)
Taine Plumtree (Scarlets – 2 gap)
Tommy Reffell (Caerlŷr – 18 cap)
Aaron Wainwright (Dreigiau – 48 cap)
Olwyr (14)
Ellis Bevan (Caerdydd – heb gap)
Gareth Davies (Scarlets – 76 cap)
Kieran Hardy (Scarlets – 21 cap)
Sam Costelow (Scarlets – 12 cap)
Mason Grady (Caerdydd – 11 cap)
Ben Thomas (Caerdydd – 2 gap)
Nick Tompkins (Saraseniaid – 36 chap)
Owen Watkin (Gweilch – 38 cap)
Rio Dyer (Dreigiau – 19 cap)
Keelan Giles (Gweilch – heb gap)
Josh Hathaway (Caerloyw – heb gap)
Liam Williams (Kubota Spears – 89 cap)
Jacob Beetham (Caerdydd – heb gap)
Cameron Winnett (Caerdydd – 5 cap)
TREFN GEMAU
Sadwrn 22 Mehefin: De Affrica v Cymru
Twickenham
KO 14.00 BST
Sadwrn 6 Gorffennaf: Awstralia v Cymru
Allianz Stadium, Sydney
KO 10.55h BST / 19.55h amser lleol
Sadwrn 13 Gorffennaf: Awstralia v Cymru
Parc AAMI, Melbourne
KO 10.55 BST / 19.55h amser lleol
Gwener 19 Gorffennaf: Queensland Reds v Cymru
Stadiwm Suncorp, Brisbane
KO 10.55 BST / 19.55h amser lleol