Dros gyfnod o bythefnos yn ystod mis Gorffennaf – bydd y doniau ifanc mwyaf disglair o’r pedair gwlad yn cael y cyfle i herio’i gilydd, gan feithrin eu sgiliau yn y broses.
Aeth Menywod o dan 20 Cymru ar daith i Ganada’r llynedd – pan gurwyd y tîm cartref o 39-12 yn Ottowa wedi iddynt golli o bwynt yn unig o 28-27 yn erbyn UDA yng ngêm gyntaf y daith.
Bydd Liza Burgess, y Prif Hyfforddwr, yn gobeithio adeiladu ar y perfformiadau hynny yn erbyn UDA a Chanada – yn erbyn yr un timau – ond ar dir Cymru’r tro hwn.
Roedd cefnwr Cymru, Nel Metcalfe, yr wythwr Gwennan Hopkins, y mewnwr Sian Jones a’r bachwr Molly Reardon i gyd wedi chwarae ar y daith honno’r llynedd ac maent bellach wedi ennill capiau llawn dros eu gwlad.
Bydd y Cymry’n wynebu’r Unol Daleithiau ddydd Gwener, 19eg o Orffennaf ym Mharc yr Arfau Caerdydd, cyn iddyn nhw wedyn herio Canada yn yr un lleoliad bum niwrnod yn ddiweddarach.
Dywedodd Liza Burges, Prif Hyfforddwr Cymru dan 20: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Canada a’r Unol Daleithiau dros Fôr yr Iwerydd ac, wrth gwrs, ein cymdogion o Loegr ar cyfer cystadleuaeth gyffrous i ddangos y talentau ifanc gorau sydd gan y pedair gwlad i‘w harddangos.
“Mae Lloegr, Canada a’r UDA yn dimau cryf iawn ar y lefel yma ac rydym yn gwybod y bydd y gemau prawf hyn yn arwydd go iawn o ble rydym fel carfan.
“Fe wnaethon ni chwarae’r UDA a Chanada yr haf diwethaf ac fe brofodd hynny i fod yn werthfawr iawn yn natblygiad chwaraewyr fel Nel Metcalfe, Sian Jones, Gwennan Hopkins a Molly Reardon, a aeth ymlaen i ymddangos dros brif dîm Cymru yn ystod y Chwe Gwlad.
“Ennill un a cholli’r llall fu ein hanes ar y daith y llynedd – ond roedd y profiad yn amhrisiadwy i’r chwaraewyr, hyfforddwyr a’r staff. ‘Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at estyn croeso cynnes i’r tri thîm yma i Gymru’r haf hwn.
“Bydd y Gyfres yn dilyn ein Pencampwriaeth Chwe Gwlad yn Parma ar ddechrau mis Gorffennaf. Bydd yn fis anodd a heriol i’r chwaraewyr ond bydd yn brawf gwerthfawr o’u gwydnwch a’u doniau. Mae’n her yr ydym yn gyffrous iawn amdani.
“Ry’n ni’n gwybod ein bod ni’n mynd i ddysgu llawer am y chwaraewyr dros yr haf ac mae’r gemau hyn hefyd yn gyfle gwych i’r chwaraewyr sy’n ymuno gyda ni o’r garfan o dan ddeunaw i weld y naid mewn safon rhwng y gwahaol oedrannau ar y llwyfan rhyngwladol.”
Gemau Cyfres o dan 20
- UDA v Canada, Prifysgol Met Caerdydd, Dydd Sul, Gorffennaf 14eg (CG: 5.30pm)
- Lloegr v Canada, Parc yr Arfau, Caerdydd, Gwener, Gorffennaf 19eg (CG:5.30pm)
- Cymru v UDA, Parc yr Arfau, Gwener, Gorffennaf 19eg, (CG:7.30pm)
- Lloegr v UDA, Parc yr Arfau, Caerdydd, Mercher Gorffennaf 24ain, (CG:5.30pm)
- Cymru v Canada, Parc yr Arfau, Caerdydd, Mercher, Gorffennaf 24ain (CG: 7.30pm)