Neidio i'r prif gynnwys
Cymru’n curo Sbaen i gyrraedd y WXV2 a Chwpan y Byd 2025

Alex Callender yn agor y sgorio i Gymru.

Cymru’n curo Sbaen i gyrraedd y WXV2 a Chwpan y Byd 2025

Fe sicrhaodd Menywod Cymru eu lle yn y WXV2 a Chwpan y Byd yn Lloegr y flwyddyn nesaf trwy guro Sbaen o 52-20 yn dilyn perfformiad ail hanner arbennig ar Barc yr Arfau.

Rhannu:

Yn dilyn eu canlyniadau siomedig ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness eleni, ‘roedd yn rhaid i garfan Ioan Cunningham herio Sbaen mewn gêm ail-gyfle er mwyn sicrhau eu lle yn ail haen y WXV yn Ne Affrica fis Medi – a hefyd yng Nghwpan y Byd 2025.

Ar achlysur ei 50fed cap dros Gymru, fe gafodd y canolwr Kerin Lake y fraint o arwain y tîm i’r maes gyda’i mab Jacob – ac ‘roedd Lake a’i chyd-chwaraewyr yn arbennig o fodlon gyda’r modd y dechreuodd y crysau cochion yr ornest.

Gyda dim ond 3 munud ar y cloc – fe grëodd pas glyfar Beth Lewis le i Alex Callender roi’r dechrau gorau posib i’w thîm wrth iddi groesi yng nghysgod y pyst.

Gwaith hawdd o’r herwydd oedd gan Keira Bevan i droi’r pum pwynt yn saith.

Er bod Cymru’n uwch na’r Sbaenwyr ymhlith detholion y byd – dim ond 2/10 gornest gystadleuol rhwng y ddwy wlad yr oedd y Cymry wedi eu hennill cyn y cyfarfyrddiad yma.

Serch hynny fe arweiniodd grym a thempo chwarae’r Cymry at ail gais y crysau cochion wedi 12 munud wrth i Abbie Fleming hyrddio ei hun dros y llinell gais. Llwyddodd Bevan gyda’r trosiad am yr eildro i sicrhau mantais o 14 pwynt i dîm Ioan Cunningham wedi prin 14 munud o chwarae.

Sbarduno crysau melyn Sbaen wnaeth y sgôr hwnnw ac wedi 22 munud fe darodd Carys Cox y bêl ymlaen yn fwriadol yn ôl y dyfarnwr Aurélie Groizeleau.

Wrth iddi dreulio 10 munud ar yr ystlys fe sgoriodd yr ymwelwyr 15 pwynt gan gipio’r flaenoriaeth yn y gêm.

Hawliodd Amalia Argudo gic gosb i ddechrau, cyn iddi drosi cais y prop pen rhydd Ines Antolinez gyda chwarter awr o’r cyfnod cyntaf yn weddill.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Cymry wrth i’r cefnwr Claudia Pena gwblhau symudiad cofiadwy i Sbaen chwe munud yn ddiweddarach – i’w rhoi nhw ar y blaen am y tro cyntaf.

Er i asgellwr Sbaen Claudia Perez fanteisio ar amddiffyn llac Cymru gyda munud o’r cyfnod cyntaf yn weddill i dirio trydydd cais ei gwlad o’r prynhawn – y tîm cartref oedd ar y blaen wrth droi – gan bod Alisha Butchers wedi defnyddio ei bôn braich i sgorio trydydd cais y cochion o’r hanner cyntaf bedwar munud ynghynt a bod anel berffaith Keira Bevan at y pyst wedi parhau.

Hanner Amser Cymru 21 Sbaen 20.

‘Roedd hi’n amlwg bod pregeth hanner amser Ioan Cunningham yn dal i’w chlywed yng nghlustiau carfan Cymru wrth i’r ail hanner ddechrau gan i Carys Cox wneud yn iawn am ei cherdyn melyn yn gynharach wrth iddi garlamu am bedwerydd cais ei thîm chwe munud wedi troi. Yn dilyn pedwerydd trosiad Bevan o’r prynhawn roedd dwy sgôr yn gwahanu’r ddwy wlad.

Wyth munud yn ddiweddarach, llwyddodd y mewnwr gyda’i phumed trosiad o’r ornest wedi i Alisha Butchers dirio ei hail gais hi o’r prynhawn o dan bentwr o gyrff blinedig y Sbaenwyr. Y Cymry ar y blaen o 15 pwynt o’r herwydd.

Gydag ychydig mwy na chwarter awr yn weddill, gwelwyd un o ymosodiadau mwyaf creadigol Cymru ers rhai gemau wrth i’r olwyr redeg a thrafod yn gampus – arweiniodd at ail gais Carys Cox yn y gornel. Tipyn o brynhawn i’r asgellwr!

Gan bo’r fuddugoliaeth yn ddiogel bellach, fe ymlaciodd yr olwyr a lledu’r chwarae ar bob cyfle. Gyda 10 munud yn weddill – fe ddangosodd y cefnwr Jenny Hesketh o glwb Bryste ei chyflymdra i sgorio ei chais cyntaf dros Gymru.

Wedi ei siom yn yr hanner cyntaf – fe gafodd Carys Cox ail gyfnod i’w chofio. Yn dilyn cic letraws wych gan yr eilydd Robyn Wilkins – fe hawliodd hi ei thrydydd cais o’r prynhawn i gymryd Cymru at yr hanner can pwynt. Trosodd Lleucu George i gau pen y mwdwl ar ail hanner arbennig gan Fenywod Cymru.

Wyth cais i Gymru felly mewn gornest gofiadwy – ond yn y pendraw y fuddugoliaeth oedd y prif beth i fwyafrif y dorf o 2436 ddaeth i Barc yr Arfau.

Yn dilyn rhediad o golli 7 gêm o’r bron tan i Gymru guro’r Eidal o 22-20 yn ngornest olaf y Chwe Gwlad eleni – mae tîm Ioan Cunningham bellach wedi ennill dwy’n olynol gan sicrhau eu lle yn y WXV2 gyda’r Eidalwyr, Awstralia, Siapan, Yr Alban a’r tîm cartref yn Ne Affrica fis Medi.

Mae’r perfformiad ail hanner hyderus hefyd wedi sicrhau lle’r garfan yng Nghwpan y Byd yn Lloegr y flwyddyn nesaf.

Canlyniad Cymru 52 Sbaen 20.

Fe sgoriodd y Cymry 8 o geisiau.

Yn dilyn y chwiban olaf – dywedodd Seren y Gêm Alisha Butchers: “Roedden ni’n haeddu’r fuddugoliaeth honno. ‘Roedd hi’n braf dangos beth ry’n ni’n gallu ei wneud yn yr ail hanner a rhoi’r Chwe Gwlad y tu ôl i ni. Mae’n rhaid i ni edrych ymlaen yn hyderus at y WXV2 nawr.

“Fe roddodd fy chwaer enedigaeth i fachgen bach hyfryd o’r enw Guss y bore ‘ma ac felly mae wedi bod yn ddiwrnod da!”

Ychwanegodd Hannah Jones, capten Cymru: “Fi’n hapus iawn gan bod y merched wedi gweithio mor galed dros amser mor hir. Mae’r blaenwyr yn dda iawn am roi llwyfan i ni – ac fe ddangoson ni beth ni’n gallu gwneud gyda’r bêl yn yr ail hanner heddiw. Bydd hi’n grêt cadw’r momentwm yma i fynd ar gyfer y WXV2.”

Prif Hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham gafodd y gair olaf: “Fi mor falch o’r tîm. Mae wedi bod yn dymor hir iawn ac anodd iawn ar adegau. Mae ganddon ni chwaraewyr gwych – ond mae’n rhaid i ni fagu mwy o gysondeb wrth i ni edrych mlaen at y WXV2 yn Ne Affrica a Chwpan y Byd yn Lloegr flwyddyn nesaf hefyd wrth gwrs.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru’n curo Sbaen i gyrraedd y WXV2 a Chwpan y Byd 2025
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru’n curo Sbaen i gyrraedd y WXV2 a Chwpan y Byd 2025
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru’n curo Sbaen i gyrraedd y WXV2 a Chwpan y Byd 2025
Rhino Rugby
Sportseen
Cymru’n curo Sbaen i gyrraedd y WXV2 a Chwpan y Byd 2025
Cymru’n curo Sbaen i gyrraedd y WXV2 a Chwpan y Byd 2025
Cymru’n curo Sbaen i gyrraedd y WXV2 a Chwpan y Byd 2025
Cymru’n curo Sbaen i gyrraedd y WXV2 a Chwpan y Byd 2025
Cymru’n curo Sbaen i gyrraedd y WXV2 a Chwpan y Byd 2025
Cymru’n curo Sbaen i gyrraedd y WXV2 a Chwpan y Byd 2025
Amber Energy
Opro
Cymru’n curo Sbaen i gyrraedd y WXV2 a Chwpan y Byd 2025