Neidio i'r prif gynnwys
Eddie James wedi’i alw i garfan Cymru

Fe berfformiodd Eddie James yn gampus ar Ddydd y Farn.

Eddie James wedi’i alw i garfan Cymru

Mae canolwr y Scarlets, Eddie James wedi cael ei alw i garfan ymarfer Cymru ar gyfer Gemau Cyfres yr Haf 2024 – sy’n codi nifer y chwaraewyr yn y garfan  i 37.

Rhannu:

Nid yw James wedi ennill cap dros ei wlad eto – ac ef yw’r pumed chwaraewr yn y garfan sydd eto i gynrychioli prif dîm Cymru – ynghŷd â Jacob Beetham ac Ellis Bevan (Caerdydd), Keelan Giles (Gweilch) a Josh Hathaway (Caerloyw).

Bydd Cymru’n teithio oddi-cartref i wynebu De Affrica yn Twickenham ar yr 22ain o Fehefin cyn teithio i Awstralia ar y 26ain o’r mis er mwyn chwarae dwy gêm brawf yn erbyn y Wallabies ac un ornest yn erbyn y Queensland Reds.

Bydd cadarnhad o’r 34 fydd yn teithio i Awstralia’n cael ei wneud maes o law yn dilyn yr ornest yn erbyn De Affrica.

CARFAN CYMRU AR GYFER GEMAU HAF 2024

Blaenwyr (22)

Corey Domachowski (Caerdydd – 10 cap)

Kemsley Mathias (Scarlets – 2 gap)

Gareth Thomas (Gweilch – 30 cap)

Elliot Dee (Dreigiau – 51 cap)

Dewi Lake (Gweilch – 12 cap)

Evan Lloyd (Caerdydd – 2 gap)

Sam Parry (Gweilch – 7 cap)

Keiron Assiratti (Caerdydd – 6 chap)

Archie Griffin (Caerfaddon – 1 cap)

Dillon Lewis (Harlequins – 57 cap)

Harri O’Connor (Scarlets – 1 cap)

Henry Thomas (Castres Olympique – 4 cap)

Ben Carter (Dreigiau – 11 cap)

Cory Hill (Secom Rugguts – 32 cap)

Dafydd Jenkins (Caerwysg – 17 cap)

Matthew Screech (Dreigiau – 1 cap)

Christ Tshiunza (Caerwysg – 10 cap)

Mackenzie Martin (Caerdydd – 3 chap)

Jac Morgan (Gweilch – 15 cap)

Taine Plumtree (Scarlets – 2 gap)

Tommy Reffell (Caerlŷr – 18 cap)

Aaron Wainwright (Dreigiau – 48 cap)

Olwyr (15)

Eddie James (Scarlets – heb gap)

Ellis Bevan (Caerdydd – heb gap)

Gareth Davies (Scarlets – 76 cap)

Kieran Hardy (Scarlets – 21 cap)

Sam Costelow (Scarlets – 12 cap)

Mason Grady (Caerdydd – 11 cap)

Ben Thomas (Caerdydd – 2 gap)

Nick Tompkins (Saraseniaid – 36 chap)
Owen Watkin (Gweilch – 38 cap)

Rio Dyer (Dreigiau – 19 cap)

Keelan Giles (Gweilch – heb gap)

Josh Hathaway (Caerloyw – heb gap)

Liam Williams (Kubota Spears – 89 cap)

Jacob Beetham (Caerdydd – heb gap)

Cameron Winnett (Caerdydd – 5 cap)

TREFN GEMAU

Sadwrn 22 Mehefin: De Affrica v Cymru

Twickenham

KO 14.00 BST

Sadwrn 6 Gorffennaf: Awstralia v Cymru

Allianz Stadium, Sydney

KO 10.55h BST / 19.55h amser lleol

Sadwrn 13 Gorffennaf: Awstralia v Cymru

Parc AAMI, Melbourne

KO 10.55 BST / 19.55h amser lleol

Gwener 19 Gorffennaf: Queensland Reds v Cymru

Stadiwm Suncorp, Brisbane

KO 10.55 BST / 19.55h amser lleol

 

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Eddie James wedi’i alw i garfan Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Eddie James wedi’i alw i garfan Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Eddie James wedi’i alw i garfan Cymru
Rhino Rugby
Sportseen
Eddie James wedi’i alw i garfan Cymru
Eddie James wedi’i alw i garfan Cymru
Eddie James wedi’i alw i garfan Cymru
Eddie James wedi’i alw i garfan Cymru
Eddie James wedi’i alw i garfan Cymru
Eddie James wedi’i alw i garfan Cymru
Amber Energy
Opro
Eddie James wedi’i alw i garfan Cymru