Mae gan dros hanner aelodau’r garfan sy’n cynnwys 37 o chwaraewyr ar hyn o bryd, 10 cap neu lai – gydag Eddie James (Scarlets), Josh Hathaway (Caerloyw), Keelan Giles (Gweilch) ac Ellis Bevan a Jacob Beetham (Caerdydd) yn gobeithio cynrychioli eu gwlad am y tro cyntaf.
Dywedodd Warren Gatland: “Ry’n ni’n hapus gyda’r garfan ‘ry’n ni wedi ei dewis gan ein bod yn ceisio cadw rhywfaint o gysondeb gan hefyd barhau i symud i’r cyfeiriad cywir. Y prif beth yw creu dyfnder yn ein carfan a chystadleuaeth am safleoedd hefyd wrth gwrs.
“Ro’n i’n awyddus i chwarae gymaint o gemau ag oedd yn bosib dros yr haf. ‘Roedd sôn am chwarae Samoa hefyd a bydden i wedi bod wrth fy modd gyda her arall, gan bod y bois ifanc angen gymaint o brofiadau o’r math yma ag sy’n bosib.
“Rwy’n derbyn bod ein hamserlen dros yr haf yn golygu lot fawr o waith i’n tîm hyfforddi – ond maen nhw’n deall yn iawn bod yn rhaid i ni gynnig pob cyfle i’r chwarewyr yma gael mwy o gyfleoedd i wella ymhellach – gan bod cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol yn hynod o galed.
“Ry’n ni’n cydnabod bod ambell fan ac agwedd o’n chwarae sydd angen eu cryfhau – a dyna pam ‘ry’n ni’n edrych ar wahanol chwaraewyr dros y misoedd nesaf – er mwyn creu mwy o gystadleuaeth ym mhob safle yn ein carfan.”
Bydd Cymru’n teithio oddi-cartref i Twickenham i herio De Affrica cyn teithio i Awstralia ar gyfer dwy gêm brawf – ac un un ornest ranbarthol yn erbyn y Queensland Reds. Ni fydd capiau’n cael eu cynnig ar gyfer y gêm hon.
Nid Joe Schmidt oedd yn hyfforddi’r Wallabies y tro diwethaf i’r ddwy wlad herio’i gilydd – pan enillodd bechgyn Warren Gatland o 40-6 yn Lyon yn Rownd Wyth Olaf Cwpan y Byd 2023 ac mae record gartref Awstralia’n cynnig hyder pellach i’r hyfforddwr newydd.
Er i Gymru ennill y gêm gyntaf un o 19-16 ar Faes Criced Sydney ym 1969 – y Wallabies sydd wedi ennill pob un o’r 11 gêm brawf ers hynny.
Ond cyn teithio i bendraw’r byd – herio Pencampwyr y Byd yn Twickenham fydd sialens gyntaf carfan Warren Gatland ar Fehefin yr 22ain. Er na fydd saith o chwaraewyr sy’n chwarae eu rygbi gyda chlybiau yn Lloegr ar gael ar gyfer yr ornest hon – mae Warren Gatland yn edrych ymlaen yn fawr at yr her.
Dywedodd: “Mae cael herio Pencampwyr Byd yn achlysur llawn cyffro a’n gobaith ni yw sicrhau bod ein carfan yn credu yn eu hunain a bod yr hunan-gred hwnnw’n cynyddu wrth gystadlu yn erbyn y goreuon.
“Mae’n debygol y bydd ambell wyneb cyfarwydd ar goll iddyn nhw hefyd – ond mae un peth yn sicr – fe fyddan nhw’n dîm mawr a chorfforol – a dyna’r math o heriau ‘ry’n ni eu hangen.
“Ry’n ni eisiau ad-ennill gwir barch y Springboks – a chreu perfformiadau a chanlyniadau cadarnhaol iawn yn eu herbyn yn y dyfodol agos.
“Mae agwedd meddyliol ein chwaraewyr ein hunain yn mynd i fod yn factor fawr yn hynny – gan bo’r chwaraewyr newydd yn dod i mewn i garfan sydd heb brofi llawer o ganlyniadau positif yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
“Ry’n ni’n gweithio’n galed er mwyn meithrin yr hyder a’r hunan-gred hwnnw’n ein chwaraewyr gan mai canlyniadau sy’n bwysig ar y llwyfan rhyngwladol yn y pendraw.
“Ry’n ni angen sicrhau buddugoliaethau er mwyn creu hyder a chodi ychydig o bwysau oddi-ar y chwaraewyr.
“Dy’n ni heb gyrraedd y man hwnnw eto – ond ‘ry’n ni ar y trywydd cywir.”