Neidio i'r prif gynnwys
Munster yn dod â thymor y Gweilch i ben

Keelan Giles yn curo Antoine Frisch i sgorio unig gais y Gweilch.

Munster yn dod â thymor y Gweilch i ben

Daeth tymor y Gweilch i ben yn Limerick wrth i Bencampwyr presennol y cynghrair ennill yr ornest ail-gyfle o 23-7 er gwaethaf ymdrech lew bechgyn Toby Booth.

Rhannu:

Doedd y Gweilch heb ennill ar Barc Thomond ers y 27ain o Fedi 2017 ac o flaen torf angerddol arferol Munster, fe sgoriodd y Gwyddelod ddau gais hanner cyntaf – osododd y sylfaen ar gyfer buddugoliaeth rhif 31 iddynt o’r 49 gornest rhwng y ddau dîm dros y blynyddoedd.

Wedi i’r Gweilch grafu i mewn i’r gemau ail-gyfle’r penwythnos diwethaf trwy drechu Caerdydd a sicrhau pwynt bonws hollbwysig – bu’n rhaid i Toby Booth wneud un newid – gyda’r maswr Owen Williams yn dechrau ar draul Dan Edwards gafodd ei anafu yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Camodd y ddau dîm i’r maes i sain Zombie gan y Cranberries – ac wedi dim ond 82 eiliad doedd amddiffyn yr ymwelwyr ddim yn ddigon effro – ac ‘roedd cryfder y bytholwyrdd Simon Zebo yn ormod i dacl Keelan Giles. Llwyddodd Jack Crowley gyda’i gynnig cyntaf o’r noson tuag at y pyst – y dechrau gwaethaf posib i’r Gweilch.

Ond o fewn 3 munud ‘roedd yr ymwelwyr wedi tawelu Parc Thomond gyda chais cofiadwy eu hunain. Owen Watkin grëodd y cyfle yng nghanol y cae ac wedi i Morgan Morris gadw’r symudiad yn fyw – fe wnaeth Giles yn iawn am ei gam funudau’n gynharach – wrth hedfan at y llinell gais – gan gynnig cyfle syml i Owen Williams wneud pethau’n gyfartal. Yn anffodus o safbwynt y Cymry – dyna brofodd i fod yn sgôr ola’r Gweilch o’r noson.

Cyn yr ornest hon ‘roedd Munster wedi ennill eu 9 gêm flaenorol eleni – ac fe lwyddon nhw i fynd yn ôl ar y blaen wedi 17 o funudau. Yn dilyn cyfnod helaeth o gadw’r bêl yn dynn ymhlith y blaenwyr – plymiodd y bachwr Niall Scannell dros y llinell am ail gais ei dîm. Ychwanegwyd y ddeubwynt am yr eildro gan Crowley.

Parhau wnaeth record gicio berffaith maswr Iwerddon gyda bron i hanner awr o chwarae – wrth i’w gic gosb syml agor bwlch o 10 pwynt rhwng y timau.

Y Gweilch gafodd y gorau ar ddeng munud ola’r cyfnod cyntaf – ond er i’r ymwelwyr fygwth llinell gais Munster droeon – methiant fu eu holl ymdrechion i groesi’r gwyngalch ac felly 17-7 oedd hi wrth droi.

Wrth i’r glaw gyrraedd Limerick ar yr egwyl ‘roedd angen dechrau da i’r ail gyfnod ar yr ymwelwyr – ond amddiffyn eu llinell gais yn arwrol fu eu gorchwyl am drydydd chwarter yr ornest. Er mai 10fed pwynt Crowley o’r noson oedd yr unig ychwanegiad at y sgorfwrdd yn ystod y cyfnod hwnnw – ‘roedd y fuddugoliaeth ymhellach o afael y Gweilch wedi’r gic.

Parhau wnaeth ei anel gampus ddau funud yn ddiweddarach gan olygu bod y Cymry dair sgôr ar ei hôl hi er gwaethaf eu chwarae corfforol a chystadleuol.

Er iddo fethu gyda’i chweched ymdrech o’r noson – fe adawodd y maes yn wên o glust i glust gan iddo gael ei ddewis yn Seren y Gêm.

Perfformiad llawn ymroddiad gan y Gweilch – ond ‘roedd Munster yn gryfach na nhw yn y rhanfwyaf o agweddau o chwarae ac felly’n llawn haeddu eu lle yn y rownd gyn-derfynol pan fyddant yn wynebu naill ai Glasgow neu’r Stormers wrth iddyn nhw geisio cadwu’u gafael ar eu coron.

Wedi’r ornest dywedodd Dewi Lake: “Mae Munster yn Bencampwyr am reswm ond ry’n ni wedi dangos ein bod yn agos fel grŵp ac ‘roedden ni’n credu y bydden ni wedi gallu ennill heno.

“Mae’r bois wedi rhoi popeth i mewn i’r tymor ac ‘rwy’n prowd iawn o bob un ohonyn nhw.

“Doedd pobl ddim yn credu y bydden ni’n dod mor bell â hyn y tymor yma – ac er bod colli heno’n anodd – ‘ry’n ni wedi cael tymor da.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Munster yn dod â thymor y Gweilch i ben
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Munster yn dod â thymor y Gweilch i ben
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Munster yn dod â thymor y Gweilch i ben
Rhino Rugby
Sportseen
Munster yn dod â thymor y Gweilch i ben
Munster yn dod â thymor y Gweilch i ben
Munster yn dod â thymor y Gweilch i ben
Munster yn dod â thymor y Gweilch i ben
Munster yn dod â thymor y Gweilch i ben
Munster yn dod â thymor y Gweilch i ben
Amber Energy
Opro
Munster yn dod â thymor y Gweilch i ben