Jump to main content
Prif weithredwr URC yn amlinellu strategaeth newydd bum mlynedd ‘Cymru’n Un’

WRU CEO Abi Tierney and WRU Chair Richard Collier-Keywood at the press conference to announce the WRU One Wales Strategy

Prif weithredwr URC yn amlinellu strategaeth newydd bum mlynedd ‘Cymru’n Un’

Mae strategaeth newydd ar gyfer rygbi Cymru o’r enw ‘Cymru’n Un – ble mae ‘rygbi’n fwy na gêm’ wedi cael ei gyhoeddi yng nghartref Rygbi Cymru – Stadiwm Principality,  a hynny ar ben-blwydd y lleoliad eiconig yn 25 oed.

Share this page:

Cyhoeddwyd y strategaeth gan Brif Weithredwr URC, Abi Tierney a’r Cadeirydd Richard Collier-Keywood – yn dilyn tri chyngerdd enfawr yn y Stadiwm, i rannu’r weledigaeth am gynlluniau ar gyfer dyfodol y gêm yng Nghymru.

Richard Collier-Keywood yw’r Cadeirydd Annibynnol cyntaf erioed i’w benodi ar y gêm yng Nghymru ac fe ddechreuodd wrth amlinellu cyd-destun y strategaeth:

“Mae Bwrdd newydd Undeb Rygbi Cymru wedi bod yn ei le ers chwe mis bellach. Mae Abi wedi bod wrth y llyw ers ychydig dros bum mis ac mae hi wedi bod yn siapio ei thîm gweithredol – gan gynnwys ei Phrif Swyddog Cyllid newydd – Leighton Davies.

“Rydym wedi gosod safonau clir o safbwynt ein diwylliant gwaith a’r hyn sy’n ddisgwyliedig ac yn dderbyniol o safon ymddygiad staff yr Undeb.

“Roedd Undeb Rygbi Cymru’n gwneud colled o £15m y flwyddyn oedd yn cael ei gyllido gan waredu asedau – fyddai’n lleihau ein potensial i greu incwm yn y dyfodol.

“Byddwn yn cyhoeddi’r fersiwn terfynol o’n cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol ddaeth i ben ar y 30ain o Fehefin 2023 yn fuan. Bydd yn cynnwys rhai newidiadau sylweddol fydd yn cynnig sylfaen ariannol cadarn i ni allu fod yn gynaliadwy.

“Mae Covid wedi costio’n ddrud i’r gêm broffesiynol a’r gêm gymunedol – ac er bo Llywodraeth Cymru wedi cynnig cyfanswm o £13m mewn grantiau i’r pedwar rhanbarth a’r Undeb, ‘rydym wedi ei chael hi’n anodd adfer y sefyllfa sydd wedi gweld dyled o £20m yn ein gêm yma yng Nghymru.

“Mae’r strategaeth wedi’i chreu ar y cyd gyda’n prif rhanddeiliaid a’n gweledigaeth yw gweithio’n llawer agosach a mwy effeithiol gyda’r pedwar tîm proffesiynol a’n clybiau cymunedol.

WRU Chair Richard Collier-Keywood during the press conference to announce the WRU One Wales Strategy

“Yn olaf, mae’r strategaeth yn cael ei harwain gan ddata pan fo hynny’n berthnasol – i gynnig tystiolaeth a mewnbwn i’r broses o wneud penderfyniadau.

“Bydd y strategaeth yn ddogfen fyw, fydd yn datblygu ac esblygu’n barhaus.

“Wrth ystyried gweithredu’r strategaeth yn llawn, mae rhai penderfyniadau allweddol i’w gwneud o hyd. Bydd cynllun manwl ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn ei le erbyn yr Hydref hwn a byddwn yn gweithio’n agored a thryloyw gyda’n rhanddeiliaid trwy gydol gweddill y broses.

Mae’r cynllun pum mlynedd yn dechrau gyda’r weledigaeth i ‘uno pobl ac ysbrydoli angerdd yn ein cenedl rygbi’.

Mae’r manteision cymdeithasol o chwarae rygbi wedi eu cyhoeddi mewn adroddiad diweddar gan World Rugby*. Mae’n cadarnhau’r modd y mae’r gamp yn helpu creu cymunedau cryf, croesawgar ac amrywiol, yn ogystal â’r buddion iechyd corfforol a meddyliol sydd i’w cael wrth ymwneud â’r gêm. Mae’n gymorth hefyd i ostwng cyfraddau gordewdra mewn plant, cynyddu hyder a chreu gwell ymdeimlad o lesiant.

Mae’r weledigaeth hon yn seiliedig ar genhadaeth ac ymrwymiad i ‘Weithio gyda’n gilydd i greu profiadau a chyfleoedd eithriadol i bawb drwy ein gêm.” Nid yn unig i warchod ein gêm genedlaethol, ond hefyd i wneud cyfraniad pwysig i greu Cymru sy’n fwy llewyrchus, gwydn ac iach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae pedwar egwyddor strategol wedi eu datgan i arwain y gwaith hwn.

  • Datblygu Clybiau a Thimau Cenedlaethol cystadleuol sy’n cyffroi.
  • Meithrin gêm gymunedol sy’n ffynnu a chynaliadwy.
  • Cyflymu systemau datblygiad rygbi menywod a merched
  • Dal dychymyg, creu cysylltiad cryf a thyfu ein cynulleidfa rygbi trwy frandiau, profiadau a naratif cadarnhaol.

Bydd llwyddiant cychwynnol yr egwyddorion hyn yn cael ei fesur yn erbyn pum nod allweddol ar gyfer 2029: gweld timau dynion a menywod cenedlaethol Cymru yn gyson ymhlith y pum tîm uchaf yn y byd; i glybiau rhanbarthol Cymru fod yn gyson gystadleuol wrth i’r prif gystadlaethau domestig dynnu at eu terfyn; parhau i gynyddu nifer y bobl sy’n cymryd rhan weithredol yn y gêm; sicrhau cynaliadwyedd ariannol ar gyfer pob lefel o’r gêm ac i dyfu’r teimlad a’r agwedd gadarnhaol tuag at Rygbi Cymru ar bob lefel.

Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: Ni yw’r wlad leiaf ym mhrif haen rygbi’r byd, ond ‘ry’n ni’n credu y gallwn weithredu’r strategaeth hon o ganlyniad i angerdd ein cefnogwyr. Mae rygbi yn bwysicach i ni yng Nghymru, ac rydym wedi gosod y cyfrifoldeb hwn wrth galon ein strategaeth,”

“Ein hundod yma yng Nghymru fydd ein cryfder ac mae’r weledigaeth yn y strategaeth yn adlewyrchu lleisiau pawb sy’n gysylltiedig â’r gêm.

“Rydyn ni wedi creu rhywbeth y gallwn ni i gyd fod yn falch iawn ohono, rhywbeth a fydd yn ein gweld ni’n codi i uchelfannau newydd erbyn 2029 – a hynny mewn modd cynaliadwy.

“Rydym wedi herio ein hunain i fod yn uchelgeisiol, ond hefyd yn realistig ac yn drylwyr wrth wneud penderfyniadau.

“Un agwedd gyffrous sydd wrth wraidd y strategaeth yw ymrwymiad ar draws pob elfen o’r gêm broffesiynol i rannu adnoddau ac arbenigedd, sy’n golygu y byddwn ni fel Undeb a’r Rhanbarthau, yn cydweithio’n agosach o lawer ar y cae ac oddi arno.

“Bydd hyn yn cynnwys y ‘Pennaeth Twf’ newydd, a fydd yn ein helpu i gynyddu buddsoddiad yn yr Undeb gan hefyd bontio’r diffyg yn y cyllid sy’n angenrheidiol i gynnal ein timau i’w caniatáu i ffynnu a chystadlu ar y lefel uchaf.

“Yn fwy na dim, byddwn yn sicrhau bod modd cyflawni holl agweddau ac ymrwymiadau’r strategaeth hon gan eu cyllido’n gyfrifol yn unol â’n blaenoriaethau. Byddwn yn gwbl dryloyw ac agored yn ystod y broses hon a byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion yn y misoedd i ddod.

“Mae gwella’n prosesau a’n disgyblaeth ariannol, a bod yn dryloyw am hyn yn un o’n blaenoriaethau cyntaf, gan ein bod yn gwybod ein bod wedi bod yn gwario mwy nag yr ydym wedi bod yn ei ennill yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae proffesiynoli pob agwedd o weithredoedd a llywodraethiant Undeb Rygbi Cymru yn greiddiol i’r strategaeth hon.

“Ynghyd â’r cynlluniau hyn i sicrhau bod ein gwariant yn cyd-fynd â’n hincwm, mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau twf yn ein meysydd crai – fe y gallwn ail-fuddsoddi ym mhob agwedd o’r gêm.”

Bydd URC yn asesu opsiynau ar gyfer twf ariannol trwy gynnal adolygiad o bob agwedd o’r gêm broffesiynol, a’r uchelgais yw gwneud dewisiadau blaengar i gryfhau’r gamp yng Nghymru.

Yn dilyn cyhoeddi egwyddorion y strategaeth heddiw, bydd manylion a phenderfyniadau pellach yn cael eu datgelu yn yr Hydref 2024, pan fydd y strategaeth a’r cynllun gweithredu yn cael eu rhannu yn eu cyfanrwydd.

Bydd y cynllun hwn yn sicrhau y bydd ein hincwm yn y dyfodol yn cyfateb gyda’n costau a’n buddsoddiad yn rygbi Cymru yn y dyfodol.

Datblygwyd y strategaeth yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan ystyried pwysigrwydd y gêm wrth ysgogi’r genedl i fod yn llewyrchus, gwydn, iach a chyfrifol yn fyd eang a chanddi ddiwylliant bywiog sy’n caniatáu i’r iaith Gymraeg ffynnu.

Mae rhai elfennau o Siarter y Ddaear ar gyfer datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn cael eu defnyddio hefyd, sy’n gosod egwyddorion cydraddoldeb rhywiol, iechyd a lles da, lleihau tlodi ac ysbrydoli twf economaidd wrth galon gweithredoedd.

WRU CEO Abi Tierney during the press conference to announce the WRU One Wales Strategy

Wrth gloi, dywedodd y Cadeirydd Richard Collier-Keywood: “Mae’n hanfodol bwysig i ni gydnabod rôl a chyfrifoldebau rygbi Cymru mewn cymunedau ledled ein gwlad.

“Mae’r Bwrdd wedi ymroi i barhau i weithio ar ein strategaeth gan ei gweithredu a’i gwireddu dros gyfnod o bum mlynedd. Mae’n rhaid i ni wneud hynny gan fod rygbi’n golygu mwy i bobl Cymru.”

Ychwanegodd Abi Tierney’r Prif Weithredwr:

“Mae’n rhaid i ni ailgynnau’r cariad tuag at rygbi Cymru gan helpu pawb i weld yr effaith gadarnhaol iawn y gall gêm lewyrchus ei chael ar gymdeithasau a chymunedau ledled  Cymru.

“Mae rygbi yn rhan o’n meddylfryd a’n hunaniaeth yma yng Nghymru, a nawr rydyn ni’n wynebu ein her fwyaf eto.

“Mae’n rhaid i ni fod yn gorff llywodraethu sy’n annog a gweithredu ymdeimlad o barch, perthyn, cydraddoldeb a chydweithio a fydd yn ysgogi, ysbrydoli, arloesi ac yn ennyn ymdeimlad o falchder gwirioneddol yn ein cenedl.

“Byddwn yn cyflawni hyn.

“Mae gennym gynllun y gwyddom y gall ac y bydd yn gweithio, ond rydym hefyd yn gwerthfawrogi bod hon yn daith a fydd yn cael ei rhannu gyda llawer iawn o bobl eraill.

“Rydym yn annog pawb yn y genedl rygbi unigryw hon i ymuno â ni a chefnogi uchelgeisiau a nodau strategaeth newydd Cymru’n Un… fel y gallwn ddangos i’r byd fod rygbi’n fwy na gêm yma yng Nghymru.”

Partners and Suppliers

Principal Partners
Principality
Admiral
Prif weithredwr URC yn amlinellu strategaeth newydd bum mlynedd ‘Cymru’n Un’
Vodafone
Go.Compare
Official Broadcast Partners
S4C
BBC Cymru/Wales
Official Partners
Guinness
Prif weithredwr URC yn amlinellu strategaeth newydd bum mlynedd ‘Cymru’n Un’
Prif weithredwr URC yn amlinellu strategaeth newydd bum mlynedd ‘Cymru’n Un’
Heineken
Prif weithredwr URC yn amlinellu strategaeth newydd bum mlynedd ‘Cymru’n Un’
The Indigo Group
Prif weithredwr URC yn amlinellu strategaeth newydd bum mlynedd ‘Cymru’n Un’
Official Suppliers
Gilbert
Prif weithredwr URC yn amlinellu strategaeth newydd bum mlynedd ‘Cymru’n Un’
Rhino Rugby
Sportseen
Prif weithredwr URC yn amlinellu strategaeth newydd bum mlynedd ‘Cymru’n Un’
Prif weithredwr URC yn amlinellu strategaeth newydd bum mlynedd ‘Cymru’n Un’
Princes Gate
Prif weithredwr URC yn amlinellu strategaeth newydd bum mlynedd ‘Cymru’n Un’
Amber
Opro
Total Energies
Seat Unique
Nocco
Castell Howell
Glamorgan Brewing
Ted Hopkins
Hawes & Curtis
Prif weithredwr URC yn amlinellu strategaeth newydd bum mlynedd ‘Cymru’n Un’