Bydd bechgyn Warren Gatland yn herio sêr timau Ffiji, Awstralia a Phencampwyr y Byd, De Affrica ar dri phenwythnos o’r bron yn Stadiwm Principality.
Dyma fydd ymweliad cyntaf Ffiji â Chaerdydd ers 2021 a’r ornest honno fydd y gyntaf o’r gyfres. Bydd Cymru’n chwilio am fuddugoliaeth i’r cefnogwyr ddydd Sul y 10fed o Dachwedd (13:40) – bedwar mis ar ddeg wedi i garfan Gatland guro Ffiji o drwch blewyn yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc.
Dim ond ar gyfer rhai o dan 16 oed yr oedd gostyngiadau ym mhrisiau rhai tocynnau ar gael yn y gorffennol – ond gall pobl ifanc o dan 18 oed brynu unrhyw docyn yn y gwahanol gatergorïau ar gyfer gemau’r gyfres hon – sy’n golygu y gall teulu o ddau oedolyn a dau blentyn wylio’r gêm yn erbyn Ffiji yn Stadiwm Principality am gyfanswm o £60.
Bydd Cymru wedi herio Awstralia ar eu tomen eu hunain mewn dwy gêm brawf fis Gorffennaf cyn croesawu’r Wallabies i Stadiwm Principality ddydd Sul yr 17eg o Dachwedd (16:10). Bydd Cymru’n gobeithio am ganlyniad tebyg i’r fuddugoliaeth gofiadwy o 40-6 gafwyd yn erbyn Awstralia yn Nghrŵp C yng Nghwpan y Byd y flwyddyn ddiwethaf.
£30, £40 , a £60 yw prisiau tocynnau oedolion ar gyfer ymweliad Awstralia – gyda’r gostyngiad yn berthnasol yn y tri chategori ar gyfer y rhai o dan 18 oed.
Bydd Cyfres yr Hydref yn gorffen gyda thipyn o uchafbwynt wrth i Dde Affrica ymweld â’r Brifddinas ddydd Sul y 23ain o Dachwedd (17:40).
Bydd yr achlysur hwn yn gofnod o ben-blwydd y Stadiwm yn 25 oed gan mai’r Springboks oedd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yn y Stadiwm ym 1999. Cymru enillodd y diwrnod hwnnw – a fydd hanes yn ail-adrodd ei hun chwarter canrif yn ddiweddarach?
Dywedodd Warren Gatland: “Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at yr achlysur hwn yn erbyn Pencampwyr y Byd. Bydd yn dipyn o achlysur ond hefyd yn gyfle arall i ni gynyddu safon a hunan-gred ein carfan a’n perfformaidau.
“Roedd gan Dde Affrica barch mawr atom rai blynyddoedd yn ôl – ac ‘ry’n ni eisiau cyrraedd yn ôl i’r man hwnnw’n eu meddyliau.”
£50, £70, a £90 yw prisiau tocynnau oedolion ar gyfer ymweliad De Affrica – gyda’r gostyngiad yn berthnasol yn y tri chategori ar gyfer y rhai o dan 18 oed.
Bydd modd i gefnogwyr brynu tocynnau ar gyfer y tair gêm yn yr Ardal Ddi-alcohol am brisiau tocynnau Categori C.
Mae’r tocynnau ar gyfer Cyfres Hydref 2024 ar gael yma: WRU.WALES/TICKETS
Bydd modd i gefnogwyr hefyd brynu pecynnau lletygarwch amrywiol o £390 + TAW yn WRU.WALES/VIP
CYFRES HYDREF 2024 – GEMAU A PHRISIAU TOCYNNAU
CYMRU V FFIJI, SUL 10 TACHWEDD, STADIWM PRINCIPALITY, 13:40
CAT A £40 (o dan 18 £20), CAT B £30 (o dan 18 £15), CAT C £20 (o dan 18 £10), Di-Alc £20 (o dan 18 £10)
CYMRU V AWSTRALIA, SUL 17 TACHWEDD, STADIWM PRINCIPALITY, 16:10
CAT A £60 (o dan 18 £30), CAT B £40 (o dan 18 £20), CAT C £30 (o dan 18 £15), Di-Alc £30 (o dan 18 £15)
CYMRU V DE AFFRICA, SADWRN 23 TACHWEDD, STADIWM PRINCIPALITY, 17:40
CAT A £90 (o dan 18 £45), CAT B £70 (o dan 18 £35), CAT C £50 (o dan 18 £25), Di-Alc £50 (o dan 18 £25)