Neidio i'r prif gynnwys
Ryan Woodman

Ryan Woodman

Woodman i arwain tîm o dan 20 Cymru yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Byd

Mae Prif Hyfforddwr tîm o dan 20 Cymru, Richard Whiffin, wedi enwi ei garfan i herio Seland Newydd yn Stadiwm Athlone, Cape Town yn eu gêm gyntaf o’r gystadleuaeth  yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn (6pm).

Rhannu:

Wedi i anaf ei atal rhag cymryd rhan yn y Chwe Gwlad eleni, mae chwaraewr rheng ôl y Dreigiau yn dychwelyd i arwain y tîm – sy’n cynnwys dau gap newydd posib. Bydd canolwr Caerdydd Steff Emanuel a mewnwr y Scarlets Lucca Setaro yn ennill eu capiau cyntaf ar y lefel yma os y cawn nhw eu galw o’r fainc.

O’r 23 y mae Whiffin wedi eu henwi ar gyfer her y Crysau Duon, dim y ddau newydd-ddyfodiad, y bachwr Isaac Young a’r capten Woodman, wnaeth ddim ymddangos yn y Chwe Gwlad eleni. Er fod Setaro yn aelod o’r garfan – ni ddaeth i’r maes yn ystod y Bencampwriaeth.

Dywedodd Richard Whiffin: “Ry’n ni wedi dewis carfan gref – ac ‘rwy’n credu bod cryfder ar y fainc hefyd ar gyfer y gêm gyntaf hon.

“Mae ambell i benderfyniad anodd wedi cael ei wneud am rai o’r bechyn chwaraoedd nifer o gemau’n ystod y Chwe Gwlad. Maen nhw ar y fainc gan ein bod yn teimlo y gallan nhw greu argraff yn yr ail hanner.

“Mae’n grêt cael Woody’n ôl gyda ni. Bydd ei bresenoldeb corfforol a’i reolaeth o’r leiniau’n hynod o werthfawr i ni.”

​Isaac Young sydd wedi ei ddewis i ddechrau’n safle’r bachwr gan Richard Whiffin gan iddo ddal llygad yr hyfforddwr ers iddo ddychwelyd o anaf.

​“Mae e wedi ymarfer yn dda iawn. Mae’n ddyn mawr sy’n mwynhau ochr gorfforol y gêm a bydd y presenoldeb hwnnw’n rhoi pwysau ar y Crysau Duon wrth ymosod ac amddiffyn.” Ychwanegodd Whiffin.

“Ry’n ni wedi gwneud ein gwaith cartref ar Seland Newydd ac yn gwybod beth sydd o’n blaenau. Maen nhw wastad yn ddawnus iawn wrth symud y bêl yn gyflym, maen nhw’n chwim ac yn rymus ac fe fyddan nhw’n ceisio rheoli ardal y dacl. Bydd yn rhaid i ni ganolbwyntio ar ein cynllun chwarae ni a gweithredu hynny’n effeithiol a chlinigol.”

Cymru o dan 20 v Seland Newydd o dan 20, Cape Town, Sadwrn 29 Mehefin,6pm

15 Huw Anderson (Dreigiau)
14 Harry Rees-Weldon (Dreigiau)
13 Louie Hennessey (Caerfaddon)
12 Macs Page (Scarlets)
11 Aidan Boshoff (Bryste)
10 Harri Wilde (Caerdydd)
9 Ieuan Davies (Caerfaddon);
1 Josh Morse (Scarlets)
2 Isaac Young (Scarlets)
3 Sam Scott (Bryste)
4 Jonny Green (Harlequins)
5 Osian Thomas (Caerlŷr)
6 Ryan Woodman (Dreigiau – Capt)
7 Lucas de la Rua (Caerdydd)
8 Morgan Morse (Gweilch)

Eilyddion:

16 Harry Thomas (Scarlets)
17 Jordan Morris (Dreigiau)
18 Kian Hire (Gweilch)
19 Nick Thomas (Dreigiau)
20 Harry Beddall (Caerlŷr)
21 Lucca Setaro (Scarlets)*
22 Harri Ford (Dreigiau)
23 Steffan Emanuel (Caerdydd)*

*Heb gap.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Woodman i arwain tîm o dan 20 Cymru yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Byd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Woodman i arwain tîm o dan 20 Cymru yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Byd
Woodman i arwain tîm o dan 20 Cymru yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Byd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Woodman i arwain tîm o dan 20 Cymru yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Byd
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Woodman i arwain tîm o dan 20 Cymru yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Byd