Neidio i'r prif gynnwys
Y Gweilch yn curo Caerdydd ac yn crafu mewn i’r gemau ail-gyfle

Luke Morgan yn hawlio pwynt bonws i'r Gweilch.

Y Gweilch yn curo Caerdydd ac yn crafu mewn i’r gemau ail-gyfle

Gan i nifer o ganlyniadau eraill fynd o’u plaid cyn y gic gyntaf – ‘roedd curo Caerdydd o 33-29 a hawlio pwynt bonws yn ddigon i sicrhau lle’r Gweilch yn y gemau ail-gyfle y penwythnos nesaf.

Rhannu:

Bydd carfan Toby Booth yn teithio i Munster – orffennodd ar frig y tabl ac o’r herwydd yn hawlio’r fraint o groesawu’r wythfed detholion i Barc Thomond.

Dyma fydd y tro cyntaf ers pum mlynedd i un o dimau Cymru gyrraedd y gemau ail-gyfle.

Ar achlysur ei gêm olaf dros y Gweilch ar dir Cymru– cyn iddo ymuno gyda Chaerlŷr – fe diriodd y prop Nicky Smith am ddau o bum cais ei dîm. Daeth y cyntaf o’r rheiny wedi 7 munud yn unig – ond tarodd Theo Cabango’n ôl yn syth dros dîm y brifddinas gyda rhediad cofiadwy o 40 metr.

Ddeng munud cyn troi – fe ddangosodd Justin Tipuric ei fod yn parhau i fod yn chwip o chwaraewr – gan iddo gwblhau symudiad campus gan y Gweilch, ddechreuwyd gan Max Nagy cyn i Jac Morgan a Dan Edwards greu’r cyfle i Tipuric dirio yn y pendraw.

Yr wythnos hon fe arwyddodd Mason Grady gytundeb newydd gyda Chaerdydd – ac er y golled – fe gafodd ddiwrnod cofiadwy ar lefel bersonol – gan iddo hawlio dau gais dros ei glwb. Daeth y cyntaf ddiwedd yr hanner cyntaf i’w gwneud hi’n 12-12 wrth droi – ac fe sicrhaodd ei gais hwyr – ynghŷd ag ymdrech Gabe Hamer-Webbe yn amser yr amen – ddau bwynt bonws i dîm Matt Sherratt er gwaetha’u colled.

Fe brofodd diffyg disgyblaeth Caerdydd yn ystod yr ail hanner yn broblem gan iddynt dderbyn dau gerdyn melyn a cherdyn coch i Seb Davies.

Daeth eiliad allweddol yr ornest o safbwynt y Gweilch gydag 17 munud ar ôl pan diriodd Luke Morgan bedwerydd cais ei ranbarth – ddaeth â’r pwynt bonws allweddol yn ei sgîl.

Cais cosb gyda 4 munud yn weddill a phum pwynt o droed Dan Edwards oedd sgoriau eraill y Gweilch yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Buddugoliaeth Caerdydd yn erbyn y Gweilch ar Ddydd y Farn ym mis Ebrill y llynedd yw’r unig dro yn ystod yr 8 gêm ddiwethaf y mae bechgyn y brifddinas wedi curo’r Gweilch bellach.

Ond yn bwysicach na thalu’r pwyth am y golled honno’r tymor diwethaf – mae’r Gweilch wedi hawlio’u lle yn y gemau ail-gyfle ac yn teithio i Limerick y penwythnos nesaf.

Dywedodd Seren y Gêm Nicky Smith: “Fe dafodd Caerdydd bopeth atom ni chwarae teg iddyn nhw – ond dwi mor falch o’r bois am wneud beth oedd angen ei wneud a chyrraedd y gemau ail-gyfle – sef beth ry’n ni’n ei haeddu.”

Ychwanegodd Justin Tipuric: “Bydd fawr o neb yn rhoi unrhyw obaith i ni ennill yr wythnos nesaf – ond dyna pryd ry’n ni ar ein gorau!”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Y Gweilch yn curo Caerdydd ac yn crafu mewn i’r gemau ail-gyfle
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Y Gweilch yn curo Caerdydd ac yn crafu mewn i’r gemau ail-gyfle
Y Gweilch yn curo Caerdydd ac yn crafu mewn i’r gemau ail-gyfle
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Y Gweilch yn curo Caerdydd ac yn crafu mewn i’r gemau ail-gyfle
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Y Gweilch yn curo Caerdydd ac yn crafu mewn i’r gemau ail-gyfle