Neidio i'r prif gynnwys
Y Scarlets yn dathlu Dydd y Farn wrth drechu’r Dreigiau

'Roedd y Scarlets yn rhy gryf i'r Dreigiau ar Ddydd y Farn.

Y Scarlets yn dathlu Dydd y Farn wrth drechu’r Dreigiau

 Ar ôl colli o bwynt yn erbyn y Dreigiau Ddydd Calan – y Scarlets gipiodd y fuddugoliaeth ar Ddydd y Farn o 32-15 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Rhannu:

Fe gadarnhaodd y ffaith i fechgyn Dwayne Peel drechu bois Dai Flanagan, bod y Scarlets yn gorffen uwchben y Dreigiau yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig gyda Zebre yn gorffen y tymor o dan y ddau dîm.

Yn dilyn tacl anghyfreithlon gan Sam Lousi ar y cyn Sgarlad Rhodri Jones wedi 7 munud o chwarae – llwyddodd Will Reed gyda’i ymdrech gyntaf o’r prynhawn at y pyst i agor y sgorio.

7 munud yn ddiweddarach efelychodd Sam Costelow y gamp honno i godi llef cefnogwyr y crysau cochion yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bydd Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan i herio De Affrica a theithio i Awstralia brynhawn ‘fory (Llun) – ac ‘roedd e’n bresennol yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn cadw llygad ar chwaraewyr o’r pedwar rhanbarth trwy gydol Dydd y Farn.

Mae Kemsley Mathias eisoes wedi ennill dau gap dros Gymru – a gyda bron i hanner awr o’r ornest wedi ei chwarae – fe enillodd y prop grymus gic gosb i’r Scarlets gyda’i sgrymio pwerus.

Mynd am y gornel wnaeth Sam Costelow – ac yn syth o dafliad cywir Ryan Elias – fe hyrddiodd Mathias y sgarmes symudol dros y gwyngalch i hawlio cais agoriadol y gêm. Y dilyn trosiad Costelow ‘roedd gan y Scarlets wir fomentwm yn eu chwarae a mantais o 7 pwynt ar y sgorfwrdd.

Er i Eddie James weld cerdyn melyn am dacl uchel ar Aneurin Owen funud yn unig wedi hynny – pedwar dyn ar ddeg y Scarlets hawliodd weddill y pwyntiau’n y cyfnod cyntaf.

Ddau funud cyn troi – bylchodd Tomi Lewis yn effeithiol ac er i gefnogwyr y Dreigiau hawlio bod ei bas at Dan Davis wedi mynd ymlaen – fe benderfynodd y dyfarnwr Craig Evans bod y bas wedi dod allan o gefn ei law’n wreiddiol ac felly ‘roedd mantais bois y Sosban yn 14 pwynt wrth droi yn dilyn trosiad yr eilydd Ioan Lloyd.

‘Roedd angen gwelliant sylweddol ar y Dreigiau wedi’r ail-ddechrau – ond wedi llai na 4 munud o’r ail hanner – fe fentrodd Rio Dyer yn ormodol gyda phas ddall – ac fe fanteisiodd Tomi Lewis i’r eithaf ar hynny i redeg yn ddi-wrthwynebiad o dan y pyst am drydydd cais ei dîm.

Yn dilyn trydedd cic gywir Costelow o’r prynhawn, ‘roedd y bwlch wedi ei ymestyn i 21 o bwyntiau – a doedd dim ffordd yn ôl i’r Dreigiau.

Profodd Lewis i fod yn ddraenen bellach yn ystlys y Dreigiau 10 munud yn ddiweddarach wrth iddo hawlio ei ail gais o’r prynhawn – ei bedwerydd cais cynghrair o’r tymor – a phwynt bonws haeddiannol i’w dîm hefyd. Yn anffodus i Lewis bu’n rhaid iddo adael y maes gydag anaf i’w goes cyn diwedd yr ornest.

Byddai cefnogwyr mwyaf selog y Dreigiau’n derbyn bod y tymor hwn wedi bod yn siomedig i’r rhanbarth – ond wrth i’r cloc agosau at awr o chwarae fe gawson nhw gais i’w ddathlu. Ar achlysur ei 100fed ymddangosiad yn y cynghrair dros y Scarlets a’r Dreigiau – fe arweiniodd pas gywir Steff Hughes at gais i’w gyd-eilydd Sio Tomkinson yn y gornel.

Fe diriodd yr asgellwr eilwaith gydag ychydig dros 10 munud yn weddill yn dilyn pas ddeallus Will Reed ac wedi i’r maswr drosi’r cais hwnnw ‘roedd y sgorfwrdd wedi parchuso ymhellach i 29-15.

Gan bo’r Dreigiau o fewn dwy sgôr bellach – fe benderfynodd Sam Costelow gymryd y triphwynt oedd ar gael iddo gyda 7 munud ar ôl er mwyn gwneud yn siwr bod y Scarlets yn gorffen eu tymor gyda buddugoliaeth – a dyna’n union wnaeth y maswr gyda’i bedwaredd ymdrech lwyddiannus tuag at y pyst yn ystod y prynhawn.

Buddugoliaeth gampus i’r Scarlets ar ddiwedd tymor rhwystredig iddynt – a diweddglo siomedig i dymor siomedig i Dai Flanagan a’r Dreigiau.

Yn dilyn y chwiban olaf dywedodd Seren y Gêm – clo’r Scarlets Alex Craig: “Mae hi’n braf gorffen tymor anodd gyda buddugoliaeth a phwynt bonws. Dyna oedd ein nôd ni heddiw – gorffen ar nodyn uchel – a dyna wnaethon ni. ‘Dy’n ni heb gael ein haeddiant y tymor yma. Mae gennym griw gwych o fois yn y garfan – ac mae’n rhaid i ni edrych ymlaen yn fawr at y tymor nesaf.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Y Scarlets yn dathlu Dydd y Farn wrth drechu’r Dreigiau
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Y Scarlets yn dathlu Dydd y Farn wrth drechu’r Dreigiau
Y Scarlets yn dathlu Dydd y Farn wrth drechu’r Dreigiau
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Y Scarlets yn dathlu Dydd y Farn wrth drechu’r Dreigiau
Rhino Rugby
Sportseen
Y Scarlets yn dathlu Dydd y Farn wrth drechu’r Dreigiau
Y Scarlets yn dathlu Dydd y Farn wrth drechu’r Dreigiau
Y Scarlets yn dathlu Dydd y Farn wrth drechu’r Dreigiau
Y Scarlets yn dathlu Dydd y Farn wrth drechu’r Dreigiau
Y Scarlets yn dathlu Dydd y Farn wrth drechu’r Dreigiau
Y Scarlets yn dathlu Dydd y Farn wrth drechu’r Dreigiau
Amber Energy
Opro
Y Scarlets yn dathlu Dydd y Farn wrth drechu’r Dreigiau