Mae’r canolwr Jenna De Vera a Jess Rogers o’r rheng ôl – wedi eu henwi’n gyd-gapteiniaid ar gyfer yr ornest yn y Stadio Sergio Lanfranchi yn Parma a bydd Nel Metcalfe yn symud o safle’r cefnwr i’r asgell.
Mae Metcalfe – sydd wedi ennill tri chap dros brif dîm y menywod, yn un o bum chwaraewr fydd yn dechrau eu trydedd gornest o’r Bencampwriaeth yn Parma eleni.
Rogers, Amy Williams (asgellwr), Cadi-Lois Davies (prop) a Lucy Isaac (blaenasgellwr) yw’r lleill.
Bu Maisie Davies, Cadi-Lois Davies, Alaw Pyrs (clo), Hanna Marshall (maswr) a Seren Singleton (mewnwr), yn ymarfer gyda’r brif garfan ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness eleni – ac maen nhw’i gyd yn dechrau yn Parma ddydd Sul.
Mae Cymru wedi colli eu dwy gêm gyntaf yng Nghyfres yr Haf – yn erbyn dau o dimau gorau’r byd – Ffrainc a Lloegr. Serch hynny – mae’r perfformiadau wedi bod yn addawol ac mae’r Cymry wedi sgorio chwech o geisiau.
Mae’r garfan hon yn cynnwys 21 o chwaraewyr oedd yng ngharfanau Brython Thunder a Gwalia Lightning ar gyfer yr Her Geltaidd y tymor diwethaf.
Dywedodd Liza Burgess, Prif Hyfforddwr tîm o dan 20 Menywod Cymru: “Ry’n ni wedi dysgu llawer iawn o’r profiad o fod yma a does dim amheuaeth ein bod wedi cryfhau fel carfan ers i ni fod yma. ‘Ry’n ni gyd yn edrych ymlaen at wynebu’r Eidal yn ein gêm olaf ddydd Sul.
“Mae agwedd ein chwaraewyr wedi bod yn gampus ac er ein bod yn siomedig gyda’r canlyniad yn erbyn Lloegr yn enwedig – fe berfformion ni’n dda – gan sgorio 4 cais yn erbyn un o dimau gorau’r byd ar y lefel yma.
“Roedd agwedd a dycnwch y garfan yn amlwg i bawb ei weld – a bydd angen i ni arddangos yr un cryfderau hynny yn erbyn tîm da arall – fydd yn chwarae ar eu tomen eu hunain – o flaen eu cefnogwyr eu hunain.
“Ry’n ni’n chwilio am berfformiad mawr i orffen Cyfres yr Haf – ac mae cael y cyfleoedd yma i ddatblygu ein carfan yn hynod o werthfawr.”
Tîm o dan 20 Cymru v Yr Eidal:
Eleanor Hing, Nel Metcalfe, Kelsie Webster, Jenna De Vera (cyd-gapten), Amy Williams, Hanna Marshall, Seren Singleton; Maisie Davies, Molly Wakely, Cadi-Lois Davies, Erin Jones, Alaw Pyrs, Lily Terry, Lucy Isaac, Jess Rogers (cyd-gapten)
Eilyddion: Abi Meyrick, Cana Williams, Lowri Williams, Milly Summer, Katie Bevans, Freya Bell, Savannah Picton Powell.