Neidio i'r prif gynnwys
Taine Plumtree

Taine Plumtree in action during the 1st Test in Sydney

Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer yr ail brawf yn erbyn Awstralia

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi enwi ei dîm ar gyfer ail brawf y daith fydd yn cael ei gynnal ym Mharc AAMI Melbourne ddydd Sadwrn y 13eg o Orffennaf. (10.45 Amser Cymru – yn fyw ar Sky).

Rhannu:

Mae pedwar newid – gan gynnwys dau newid safle – i’r tîm ddechreuodd y prawf cyntaf yn Sydney y penwythnos diwethaf.

Gan bod Aaron Wainwright wedi anafu ei goes – bydd Taine Plumtree’n symud i safle’r wythwr. Ni fydd Wainwright ar gael ar gyfer gêm olaf y daith yn erbyn y Queensland Reds chwaith.

Bydd James Botham yn dechrau fel blaenasgellwr ochr dywyll a Tommy Reffell fydd ar yr ochr agored.

Cameron Winnett sydd wedi ei enwi’n gefnwr gyda Liam Williams yn symud i’r asgell gyda Rio Dyer yn cadw ei le ar yr asgell arall.

Nid oedd modd ystyried Josh Hathaway ar gyfer yr ail brawf hon gan iddo anafu ei benelin yn ystod y prawf cyntaf yn Sydney.

Mae Mackenzie Martin wedi ei ddewis i ddechrau ar y fainc.

Dywedodd Warren Gatland: “Ry’n ni’n edrych ymlaen at gyfle arall i gystadlu hyd eitha’n gallu unwaith eto’r penwythnos hwn.

“Yr wythnos hon ‘ry’n ni wedi bod yn canolbwyntio ar ein prosesau gan adeiladu ar ein cryfderau a miniogi ambell agwedd o’n chwarae sydd angen ei wella.

“Bydd perfformiad Awstralia’n gryfach fyth ym Melbourne ac felly mae’n rhaid i ni ddechrau’n gadarn gan gadw ein disgyblaeth fel y gallwn gystadlu tan y diwedd un.”

Tîm Cymru i wynebu Awstralia

15. Cameron Winnett (Caerdydd – 6 chap)
14. Liam Williams (Kubota Spears – 91 cap)
13. Owen Watkin (Gweilch – 40 cap)
12. Mason Grady (Caerdydd – 13 chap)
11. Rio Dyer (Dreigiau – 21 cap)
10. Ben Thomas (Caerdydd – 3 chap)
9. Ellis Bevan (Caerdydd – 2 gap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 32 cap)
2. Dewi Lake (Gweilch – 14 cap) capten
3. Archie Griffin (Caerfaddon – 2 gap)
4. Christ Tshiunza (Caerwysg – 11 cap)
5. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 18 cap)
6. James Botham (Caerdydd – 12 cap)
7. Tommy Reffell (Caerlŷr – 19 cap)
8. Taine Plumtree (Scarlets – 4 cap)

Eilyddion

16. Evan Lloyd (Caerdydd – 4 cap)
17. Kemsley Mathias (Scarlets – 4 cap)
18. Harri O’Connor (Scarlets – 3 chap)
19. Cory Hill (Secom Rugguts – 33 cap)
20. Mackenzie Martin (Caerdydd – 4 cap)
21. Kieran Hardy (Gweilch – 22 cap)
22. Sam Costelow (Scarlets – 14 cap)
23. Nick Tompkins (Saraseniaid – 37 cap)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer yr ail brawf yn erbyn Awstralia
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer yr ail brawf yn erbyn Awstralia
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer yr ail brawf yn erbyn Awstralia
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer yr ail brawf yn erbyn Awstralia