Neidio i'r prif gynnwys
Cymru D20

Cyhoeddi tîm o dan 20 Cymru i herio Sbaen yn ail gêm Pencampwriaeth y Byd

Mae Prif Hyfforddwr tîm o dan 20 Cymru, Richard Whiffin, wedi enwi ei dîm i wynebu Sbaen  ym Mhencampwriaeth y Byd ddydd Iau. Bydd ail gêm Cymru, fel eu gornest gyntaf yng Ngrŵp A yn erbyn Seland Newydd, yn digwydd yn Stadiwm Athlone yn Cape Town (1pm amser Cymru).

Rhannu:

Mae Whiffin wedi gwneud newidiadau ysgubol i’r tîm gollodd o drwch blewyn yn erbyn y Crysau Duon yn y gêm agoriadol ddydd Sadwrn – gyda dim ond pedwar o’r chwaraewyr yn dechrau eu hail gêm o’r gystadleuaeth eleni. Yr asgellwr Harry Rees-Weldon, y capten Ryan Woodman, y clo Jonny Green a’r chwaraewr rheng-ôl amryddawn Morgan Morse, yw’r unig rai i gael eu galw i ddechrau’r ail gêm.

Bydd Cymru’n cymryd cryn dipyn o hyder o’u perfformiad di-ildio yn erbyn Seland Newydd a’r ffaith iddynt hawlio dau bwynt bonws er gwaetha’u colled o saith pwynt. Fe all hynny brofi’n allweddol wrth i garfan Richard Whiffin geisio halwio’u lle yn y rownd gynderfynol.

Dywedodd Richard Whiffin: “Roedden ni wastad yn teimlo y bydden ni’n gorffen y gêm yn gryf – gan bod gennym gryfder ar y fainc. Ond i fod yn onest ‘roedden ni’n siomedig bod Seland Newydd wedi creu bwlch o dri sgôr ar un adeg – oedd yn cynnwys ceisiau o ddyfnder y dylem ni fod wedi eu hatal. Mae Seland Newydd yn dîm dawnus wrth gwrs – ond fe berfformiodd ein bechgyn ni’n ddewr iawn ddydd Sadwrn – yn enwedig wrth daro’n ôl yn hwyr yn yr ornest.

“Roeddwn i’n meddwl bod y newidiadau wnaethon ni wedi’r egwyl wedi gweithio’n dda gan roi cur pen i Seland Newydd.

“Fe gawson ni ddau bwynt bonws wrth gwrs sy’n cadw’n gobeithion o gystadlu yn y rownd gynderfynol yn fyw. Mae hynny’n rhoi rhywbeth penodol i ni anelu tuag ato.

“Fe welon ni Sbaen yn rhoi perfformiad egnïol a chorfforol yn erbyn Ffrainc – ac fe gymerodd hi amser hir i Ffrainc sicrhau’r fuddugoliaeth.

“Mae gan y Sbaenwyr egni pendant yn eu chwarae a byddan nhw’n achosi problemau i ni, ond fe ddaethon ni i’r gystadleuaeth hon wedi paratoi’n hunain i wynebu pob her yn hyderus a threfnus. Bydd hynny’n wir pan fyddwn ni’n wynebu Sbaen ddydd Iau.

“Roedd hi’n fwriad o’r dechrau i gynnig amser ar y cae i fwyafrif y garfan yn ystod ein dwy gêm agoriadol – ac ‘rwy’n hyderus y bydd y tîm fydd yn ein cynrychioli ddydd Iau yn gwneud eu gwaith yn wych.”

Cymru dan 20 v Sbaen Dan 20, Iau 4 Gorffennaf, Stadiwm Athlone, Cape Town, 1pm Amser Cymru.

1 Ioan Emanuel (Caerfaddon)
2 Harry Thomas (Scarlets)
3 Kian Hire (Gweilch)
4 Jonny Green (Harlequins)
5 Nick Thomas (Dreigiau)
6 Ryan Woodman (Dreigiau – Capt)
7 Morgan Morse (Gweilch)
8 Owen Conquer (Dreigiau)
9 Rhodri Lewis (Scarlets)
10 Harri Ford (Dreigiau)
11 Kodi Stone (Caerdydd)
12 Steff Emanuel (Caerdydd)
13 Elias Evans (Caerdydd)
14 Harry Rees-Weldon (Dreigiau)
15 Matty Young (Caerdydd)

Eilyddion

16 Isaac Young (Scarlets)
17 Jordan Morris (Dreigiau)
18 Sam Scott (Bryste)
19 Osian Thomas (Caerlŷr)
20 Will Austin (Sale)
21 Ieuan Davies (Caerfaddon)
22 Harri Wilde (Caerdydd)
23 Louie Hennessey (Caerfaddon)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cyhoeddi tîm o dan 20 Cymru i herio Sbaen yn ail gêm Pencampwriaeth y Byd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cyhoeddi tîm o dan 20 Cymru i herio Sbaen yn ail gêm Pencampwriaeth y Byd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cyhoeddi tîm o dan 20 Cymru i herio Sbaen yn ail gêm Pencampwriaeth y Byd
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cyhoeddi tîm o dan 20 Cymru i herio Sbaen yn ail gêm Pencampwriaeth y Byd