Y capten Ryan Woodman, Jonny Green a Morgan Morse yw’r unig chwaraewyr fydd yn dechrau eu trydedd gêm o Bencampwriaeth eleni.
Enillwyr pob grŵp a’r tîm ail safle gorau fydd yn cyrraedd y rownd gynderfynol. Cymru yw’r ail dîm gorau ar hyn o bryd gyda saith pwynt. Byddai buddugoliaeth i Gymru yn eu gweld yn cyrraedd y pedwar olaf, ond byddai buddugoliaeth i Ffrainc yn gweld y pencampwyr presennol yn cyrraedd y rownd gynderfynol.
“Mae hon yn gêm enfawr i’r bechgyn gan fod ein tynged yn ein dwylo ein hunain,” meddai Richard Whiffin.
“Rydym yn wynebu her enfawr yn erbyn y pencampwyr presennol. Wedi eu colled o drwch blewyn yn erbyn Seland Newydd fe fyddan nhw ar dân i berfformio’n well yn ein herbyn ni.’ Ry’n ni’n gwybod beth i’w ddisgwyl gan Ffrainc ac ry’n ni wedi paratoi’n dda. ‘Rwyf wedi dewis tîm all herio’r Ffrancod yn hyderus.”
Roedd y Prif Hyfforddwr yn falch o fod wedi sicrhau pwyntiau llawn yn erbyn Sbaen yn eu gêm ddiwethaf – sydd wedi cadw eu gobeithion o ennill y gystadleuaeth yn fyw. Er mwyn parhau gyda’r freuddwyd honno – mae’n rhaid trechu Ffrainc ddydd Mawrth. Bydd hynny’n dipyn o her gan eu bod wedi ennill y gystadleuaeth hon deirgwaith o’r bron.
“Fe gawson ni lawer o feddiant yn yr ail hanner yn erbyn Sbaen. Er y dylen ni fod wedi sgorio mwy o bwyntiau ac ennill gyda mwy o fwlch – fe lwyddon ni i ennill gyda phwynt bonws – sef ein nod ar ddechrau’r ornest.
“Er mwyn rhoi’r cyfle gorau i’n hunain i guro Ffrainc mae angen i’n disgyblaeth fod yn well, yn enwedig ar ddechrau’r gêm. Mae ein diffyg disgyblaeth ar ddechrau’n dwy gêm hyd yma wedi rhoi’r cyfle i’n gwrthwynebwyr reoli’r meddiant a’r diriogaeth. Mae’n rhaid i ni newid hynny ddydd Mawrth.”
Er gwaethaf gwneud nifer o newidiadau o’r gêm yn erbyn Sbaen, mae Whiffin yn fodlon bod ganddo garfan all achosi problemau i unrhyw dîm.
“Rwy’n hapus iawn gyda’r doniau a’r dyfnder sydd gennym yn y garfan. Mae pob un o’r 30 chwaraewr bellach wedi cael chwarae eu rhan ar y cae, amu ‘mlaen yn y gystadleuaeth. ”
Cymru dan 20 v Ffrainc dan 20, Stadiwm Chwaraeon Athlone, Dydd Mawrth 9 Gorffennaf, 3.30 amser Cymru
1 Josh Morse (Scarlets)
2 Isaac Young (Scarlets)
3 Sam Scott (Bryste)
4 Jonny Green (Harlequins)
5 Osian Thomas (Caerlŷr)
6 Ryan Woodman (Dreigiau – Capt)
7 Lucas De La Rua (Caerdydd)
8 Morgan Morse (Gweilch)
9 Ieuan Davies (Caerfaddon)
10 Harri Ford (Dreigiau)
11 Aidan Boshoff (Bryste)
12 Steffan Emanuel (Caerdydd)
13 Louie Hennessey (Caerfaddon)
14 Macs Page (Scarlets)
15 Matty Young (Caerdydd)
Eilyddion
16 Harry Thomas (Scarlets)
17 Jordan Morris (Dreigiau)
18 Kian Hire (Gweilch)
19 Nick Thomas (Dreigiau)
20 Owen Conquer (Dreigiau)
21 Rhodri Lewis (Scarlets)
22 Harri Wilde (Caerdydd)
23 Elias Evans (Caerdydd)
Bydd y gêm yn cael ei ffrydio’n fyw ar Rugby Pass TV