Ar achlysur eu capiau cyntaf fe sgoriodd y prop Ioan Emanuel a’r canolwr Elijah Evans ddau o bedwar cais eu gwlad – ond sgôr Kian Hire yn y munud cyntaf roddodd fechgyn Richard Whiffin ar ben ffordd.
Wedi i drosiad Harri Ford roi Cymru ar y blaen o 7 pwynt wedi dim ond dau funud o chwarae – daeth tro ar fyd ddau funud yn ddiweddarach wrth i Owen Conquer weld cerdyn melyn. Diolch i’r drefn – dim ond triphwynt o droed Gonzalo Otamendi lwyddodd y Sbaenwyr i’w cofnodi yn ystod y cyfnod y bu Conquer yn cynhesu cadair y cell cosb.
Wedi i Elijah Evans hawlio’i gais wedi 27 munud – tro’r Cymry oedd cael dyn o fantais am gyfnod wrth i Nicolas Infer gael gorffwys gorfodol am 10 munud. Ond yn ystod y cyfnod hwnnw – fe sgoriodd Pablo Guirado unig gais ei dîm o’r prynhawn ac o ganlyniad i drosiad Otamendi – dim ond un sgôr oedd yn gwahanu’r timau ym mhum munud olaf yr hanner cyntaf.
Penderfynodd y prop Ioan Emanuel newid hynny gyda thri munud o’r cyfnod agoriadol yn weddill cyn cynnig y cyfle i Ford drosi – i’w gwneud hi’n 24-10 wrth droi.
Fe sgoriodd brawd Emanuel, Steff am ei gais cyntaf ef – yn ei ymddangosiad cyntaf yntau hefyd – yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn – ac ef drosodd unig gais Cymru’n yr ail hanner wedi i Ieuan Davies groesi wedi awr o chwarae. Fe sicrhaodd hynny’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws i Ryan Woodman a’i gyd-chwaraewyr.
Cymru 31 Sbaen 10.
Bydd tynged Cymru’n y gystadleuaeth yn cael ei benderfynu ddydd Mawrth pan fyddant yn dychwelyd i Stadiwm Athlone yn Cape Town i herio Ffrainc – sydd wedi ennill Pencampwriaeth y Byd deirgwaith yn olynol.