Neidio i'r prif gynnwys
Cymru’n colli’r prawf cyntaf yn Awstralia

Awstralia'n sgorio eu cais cyntaf o'r noson.

Cymru’n colli’r prawf cyntaf yn Awstralia

Colli o 25-16 fu hanes Cymru yn y prawf cyntaf yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Allianz yn Sydney heddiw.

Rhannu:

Hon oedd wythfed colled Cymru’n olynol ar y llwyfan rhyngwladol – y rhediad hiraf ers i garfan Warren Gatland golli’r un nifer o gemau o’r bron yn ôl yn 2012.

Daeth unig fuddugoliaeth Cymru yn erbyn Awstralia ar eu tomen eu hunain o driphwynt yn unig ar Faes Criced Sydney ym 1969 – a gobaith Dewi Lake a’i gyd-chwaraewyr oedd atal y rhediad siomedig o golli’r 11 gêm ddiwethaf yn erbyn y Wallabies ar dir Awstralia.

Yr ornest hon yn Sydney oedd gêm gyntaf Joe Schmidt wrth y llyw – a her gyntaf ei dîm newydd ers i Gymru chwalu’r Wallabies o 40-6 yng Nghwpan y Byd yn Lyon y llynedd.

‘Roedd capten newydd Awstralia Liam Wright, yn dechrau ei gêm gyntaf dros ei wlad ac ‘roedd Schmidt wedi dewis 7 o chwaraewyr heb gapiau yn y 23.

Ond mynd ar ei hôl hi’n gynnar wnaeth Wright a’i dîm wrth i Ben Thomas hollti’r pyst o 40 llath yn nhrydydd munud y gêm.

Bedwar munud wedi hynny, ‘roedd Noah Lolesio wedi gwneud pethau’n gyfartal gyda chic gosb syml o flaen y pyst.

‘Roedd James Slipper yn ennill cap rhif 135 i Awstralia heddiw – y prop gyda’r nifer fwyaf o gapiau erioed wrth iddo guro record Gethin Jenkins. Fe ddangosodd Slipper a’i gyd-flaenwyr eu grym yn sgrym gyntaf y gêm wedi 10 munud – ac fe roddodd Lolesio y Wallabies ar y blaen gyda’r gic gosb ddeilliodd o hynny.

Yn ystod chwarter agoriadol y gêm – fe hawliodd Awstralia 85% o diriogaeth yr ornest ac ar eu trydydd ymweliad â dwy ar hugain Cymru – fe hyrddiodd y cawr Taniela Tupou ei gorff sylweddol dros y llinell gais i gofnodi cais cyntaf y prynhawn. Ychwanegodd Lolesio y ddeubwynt a danfonwyd Gareth Thomas i’r cell cosb am drosedd cyn i Tupou dirio am ei gais.

Fe ddangosodd y Cymry wir gymeriad wrth i Thomas eistedd ar yr ystlys – ac yn dilyn cyd-chwarae effeithiol o lein ymosodol – dyfarnwyd cais cosb i’r Crysau Cochion a cherdyn melyn i’r blaenasgellwr Fraser McReight am geisio tynnu’r sgarmes symudol i’r tir. Dim ond triphwynt oedd rhwng y timau o’r herwydd gyda chwarter awr o’r cyfnod cyntaf ar ôl – ac felly’r oedd hi wrth droi o safbwynt y sgôr.

Hanner Amser Awstralia 13 Cymru 10

Er gwaethaf eu record simsan ar dir Awstralia, ‘roedd Cymru wedi curo’r Wallabies ym mhedair o’r pum gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm cyn heddiw – ac wedi dechrau hyderus i’r ail hanner – gydag Aaron Wainwright ar flaen y gad ar achlysur ei hanner canfed cap – fe holltodd Ben Thomas y pyst am yr eildro i’w gwneud hi’n 13-13.

Wythfed colled o’r bron i Gymru wrth i Aaron Wainwright ennill ei 50fed cap.

Symbylu Awstralia i ymosod wnaeth y ffaith bod Cymru wedi llusgo eu hunain yn gyfartal – ac wedi 11 munud o’r ail hanner – fe ddangosodd Filipo Daugunu ei gryfder a’i gyflymdra i sgorio ail gais ei wlad yn y gornel.

Yn union wedi hynny, camodd James Botham o’r fainc a gyda’i gyffyrddiad cyntaf o’r gêm ‘roedd yn credu ei fod wedi dod â Chymru’n gyfartal – ond ar achlysur ei brif gêm brawf gyntaf yn y canol – penderfynodd Pierre Brousset – bod Christ Tshiunza wedi troseddu yn y sgarmes symudol.

Gydag 17 o funudau’n weddill daeth Tom Lynagh i’r maes i ennill ei gap cyntaf dros y tîm cartref. Dylai’r cyfenw fod yn gyfarwydd gan fod ei dad Michael wedi ennill Cwpan y Byd gydag Awstralia – ac fe chwaraeodd ei frawd Louis dros Yr Eidal yn eu buddugoliaeth yn erbyn Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness eleni.

Ond Cymru gafodd sgôr nesa’r ornest wrth i gicio cywir Ben Thomas gau’r bwlch i ddeubwynt yn unig gyda chwarter awr o’r gêm ar ôl.

Chymerodd hi ddim yn hir i Lynagh wneud ei farc ar y llwyfan rhyngwladol gan i’w bas yn ddwfn o dir ei hun ryddhau cefnwr y Brumbies Tom Wright – ac wedi iddo osgoi tacl yr eilydd Nick Tompkins – ‘roedd rhwydd hynt ganddo at y llinell gais i hawlio trydydd cais Awstralia o’r noson.

Cofnododd Lynagh ei hun ei bwyntiau cyntaf ar y llwyfan rhyngwladol wrth iddo lwyddo’n hyderus gyda’r trosiad gydag ychydig dros 10 munud yn weddill i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Wallabies.

Colled siomedig arall i’r Cymry – ond bydd cyfle buan i dalu’r pwyth wrth iddynt deithio i Melbourne ar gyfer yr ail brawf y Sadwrn nesaf.

Canlyniad: Awstralia 25 Cymru 16

Wedi’r ornest dywedodd Capten Cymru Dewi Lake: “Mae’n rhaid i mi ganmol calon ac ymdrech ein bechgyn ni heddiw. Mae hynny am fynd â ni yn bell ymhen amser ond allwn ni ddim gadel gymaint o gyfleoedd lithro o’n gafael os y’n ni am ennill gemau.

“Roedd methu â chaniatáu cais James Botham yn drobwynt o safbwynt momentwm y gêm er mae’n rhaid i ni barchu penderfyniad y dyfarnwr.

“Ry’n ni’n garfan agos iawn at ein gilydd. Ry’n ni’n gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau y byddwn ni’n gystadleuol ac yn ennill y gêm yr wythnos nesaf.”

Ychwanegodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: “Fe frifon ni ein hunain wrth ildio’r meddiant yn rhy aml ond fe ddangoson ni gymeriad i aros yn gystadleuol trwy gydol y gêm.

“Roedd hi’n ornest gystadleuol a chorfforol ac er fy mod yn deall y pwysau sy’n dod yn sgîl y ffaith ein bod ar rediad gwael o ran canlyniadau – mae gennym lawer o addewid wrth i ni edrych ymlaen at Gwpan y Byd.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru’n colli’r prawf cyntaf yn Awstralia
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru’n colli’r prawf cyntaf yn Awstralia
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru’n colli’r prawf cyntaf yn Awstralia
Rhino Rugby
Sportseen
Cymru’n colli’r prawf cyntaf yn Awstralia
Cymru’n colli’r prawf cyntaf yn Awstralia
Cymru’n colli’r prawf cyntaf yn Awstralia
Cymru’n colli’r prawf cyntaf yn Awstralia
Cymru’n colli’r prawf cyntaf yn Awstralia
Cymru’n colli’r prawf cyntaf yn Awstralia
Amber Energy
Opro
Cymru’n colli’r prawf cyntaf yn Awstralia