Neidio i'r prif gynnwys
Ffrainc a’r gwynt yn ormod i fechgyn o dan 20 Cymru

Nathan Bollengier o Ffrainc yn ymosod yn erbyn Cymru.(Llun gan Carl Fourie/World Rugby)

Ffrainc a’r gwynt yn ormod i fechgyn o dan 20 Cymru

Daeth breuddwyd tîm o dan 20 Cymru o ddod yn Bencampwyr y Byd i ben yn erbyn Ffrainc yn dilyn y golled o 29-11 yng nghwynt cryf Stadiwm Athlone.

Rhannu:

Colli o bwynt yn unig yn erbyn Seland Newydd gyda chic olaf y gêm oedd tynged y Ffrancwyr ddydd Iau –  olygodd eu bod nhw ar dân i ennill yr ornest heddiw – er mwyn cadw’u gobeithion o ennill y gystadleuaeth hon am y pedwerydd tro o’r bron yn fyw.

‘Roedd y tywydd yn Cape Town wedi bod yn erchyll wrth arwain at y gêm – gyda dros fil o dai yn yr ardal wedi eu chwalu gan yr elfennau.

‘Roedd Iwerddon i fod i wynebu Awstralia ar yr un maes ddwy awr a hanner cyn gêm Cymru a Ffrainc a chanslwyd honno o ganlyniad i gyflwr y cae.

Sychodd y maes yn wyrthiol mewn cyfnod byr gan olygu bod carfan Richard Whiffin yn gallu dechrau yr ornest, gan wybod y byddai eu buddugoliaeth gyntaf yn erbyn Ffrainc mewn chwe cyfarfyddiad yn sicrhau eu lle yn y rownd gynderfynol.

Wedi 3 munud yn unig – fe gymrodd y Cymry fantais o’r gwynt cryf oedd ar eu cefnau ac fe roddodd ymdrech syml Harri Ford driphwynt o fantais i’w dîm.

Ond bedwar munud yn ddiweddarch ‘roedd Ffrainc ar y blaen yn dilyn cais cyntaf yr asgellwr Hoani Bosmarin o’r gystadleuaeth a throsiad ardderchog y capten Hugo Reus o’r ystlys.

Y crysau gleision addasodd orau i’r elfennau hynod heriol. ‘Roedd ganddynt oruchafiaeth yn ardal y dacl a’r sgrym – ond fe wnaeth y gwynt hi’n anodd iddynt gyrraedd hanner Cymru.

Er na lwyddodd y Cymry – yn eu crysau gwynion – i fygwth llinell gais y Ffrancod – fe lusgodd ail gic gosb lwyddiannus Harri Ford o’r prynhawn, wedi bron i hanner awr o chwarae, ei dîm yn ôl o fewn pwynt.

Symbylu Ffrainc i fygwth wnaeth hynny – ac ar ymweliad prin â dwy ar hugain Cymru – manteisiodd y bachwr Thomas Lacombe ar fwlch yn yr amddiffyn i blymio am ail gais ei dîm o’r cyfnod cyntaf.

Wedi trosiad syml Reus – ‘roedd gan Ffrainc fantais o 8 pwynt – ond tyfodd y bwlch hwnnw i 15 pwynt wrth droi, gan i’r gleision fanteisio eilwaith ar amddiffyn llac y Cymry. Penllanw hynny oedd ail gais Bosmorin o’r prynhawn a thrydydd trosiad ardderchog Reus.

Hanner Amser Cymru 6 Ffrainc 21.

Ar faes Stadiwm Athlone yr enillodd Ffrainc eu trydedd Pencampwriaeth o’r bron y flwyddyn ddiwethaf ac yn dilyn tacl beryglus gan y bachwr Isaac Young dri munud wedi troi – doedd dim ffordd yn ôl i Gymru yn yr ornest hon.

Wedi llai na hanner munud o gyfnod gorfodol Young ar yr ystlys – hyrddiodd yr wythwr Mathis Castro-Ferreira ei gorff sylweddol dros linell gais Cymru i hawlio pwynt bonws dros ei wlad a chreu bwlch o 20 pwynt rhwng y timau. Yr unig gysur i fechgyn Ryan Woodman oedd y ffaith i Reus fethu ei drosiad cyntaf o’r prynhawn yn union o flaen y pyst.

Gan i’r Ffrancod ddangos aeddfedrwydd wrth ddefnyddio’r gwynt i gadw’r chwarae bron â bod yn gyfan gwbl yn hanner y Cymry yn ystod yr ail hanner – ‘roedd hi’n ychydig o syndod gweld Morgan Morse yn tirio cais dros Gymru gyda deng munud yn weddill.

Yr eilydd o gefnwr, Alex Desperes-Rigou gafodd y gair olaf o safbwynt y sgorfwrdd gyda chic gosb hwyr – i gadarnhau buddugoliaeth haeddiannol i fechgyn Ffrainc.

Siom felly i Richard Whiffin a charfan ifanc Cymru. Gorffen yn bumed fydd eu huchelgais yn y gystadleuaeth bellach.

Canlyniad: Cymru 11 Ffrainc 29

Wedi’r gêm, dywedodd Ryan Woodman, Capten Cymru: ”Fe chwaraeon nhw’n well na ni heddiw gan chwarae’r gêm yn ardaloedd cywir y maes.

“Wnaethon ni ddim defnyddio’r gwynt yn iawn yn ystod yr hanner cyntaf – tra iddyn nhw wneud y gorau o’u cyfleoedd nhw.

“Fe ildion ni ambell gais na ddylen ni fod wedi gwneud– ac ‘ry’n ni’n hynod o siomedig gyda’r canlyniad heddiw.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Ffrainc a’r gwynt yn ormod i fechgyn o dan 20 Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Ffrainc a’r gwynt yn ormod i fechgyn o dan 20 Cymru
Ffrainc a’r gwynt yn ormod i fechgyn o dan 20 Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Ffrainc a’r gwynt yn ormod i fechgyn o dan 20 Cymru
Rhino Rugby
Sportseen
Ffrainc a’r gwynt yn ormod i fechgyn o dan 20 Cymru
Ffrainc a’r gwynt yn ormod i fechgyn o dan 20 Cymru
Ffrainc a’r gwynt yn ormod i fechgyn o dan 20 Cymru
Ffrainc a’r gwynt yn ormod i fechgyn o dan 20 Cymru
Ffrainc a’r gwynt yn ormod i fechgyn o dan 20 Cymru
Ffrainc a’r gwynt yn ormod i fechgyn o dan 20 Cymru
Amber Energy
Opro
Ffrainc a’r gwynt yn ormod i fechgyn o dan 20 Cymru