Neidio i'r prif gynnwys
Ian Buckett wedi marw’n 56 oed

Ian Buckett wedi marw’n 56 oed

Bu farw cyn brop Cymru, Abertawe, Prifysgol Rhydychen a’r Cymry yn Llundain –  Ian Buckett yn 56 oed.

Rhannu:

Cynrychiolodd y gŵr o’r gogledd ei wlad ar bob lefel oedran cyn ennill 3 chap llawn dros Gymru.

Chwaraeodd ar 9 achlysur arall pan nad oedd capiau’n cael eu cynnig yn y gemau hynny.

Ymddangosodd 186 o weithiau dros Abertawe dros gyfnod o 10 mlynedd gan gynnwys y gemau’n erbyn Seland Newydd (1989) a De Affrica (1994).

Cynrychiolodd y Barbariaid am y tro cyntaf ym 1990 cyn teithio gyda Chymru i Namibia a Zimbabwe ym 1993. Fe sgoriodd gais ar ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn ail dîm Zimbabwe.

Fe enillodd ei gap llawn cyntaf flwyddyn yn ddiweddarach ym muddugoliaeth Cymru yn Tonga cyn ennill ei ddau gap arall wrth guro Canada a’r Unol Daleithiau ar daith ym 1997.

Hoffai Undeb Rygbi Cymru estyn pob cydymdeimlad i deulu a chyfeillion Ian Buckett.

Ian Martin Buckett  Cap 914 / 3 Chap

Ganed 23:12:67  Bu farw: 07:07:24

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Ian Buckett wedi marw’n 56 oed
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Ian Buckett wedi marw’n 56 oed
Ian Buckett wedi marw’n 56 oed
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Ian Buckett wedi marw’n 56 oed
Rhino Rugby
Sportseen
Ian Buckett wedi marw’n 56 oed
Ian Buckett wedi marw’n 56 oed
Ian Buckett wedi marw’n 56 oed
Ian Buckett wedi marw’n 56 oed
Ian Buckett wedi marw’n 56 oed
Ian Buckett wedi marw’n 56 oed
Amber Energy
Opro
Ian Buckett wedi marw’n 56 oed