Neidio i'r prif gynnwys
Ioan Cunningham

Wales Women head coach, Ioan Cunningham

Menywod Cymru ar fin wynebu’r Alban ac Awstralia

Mae Cymru wedi cyhoeddi dwy gêm Brawf fawr yn erbyn yr Alban ac Awstralia cyn eu hymgyrch ar gyfer yr WXV2 yn Ne Affrica yn ystod mis Medi.

Rhannu:

Roedd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru, wedi arwain ei  garfan i fuddugoliaeth o wyth cais 52-20 dros Sbaen gan gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn Lloegr 2025 a’r WXV2 yn Cape Town.

Roedd y fuddugoliaeth wedi cadarnhau lle Cymru yng Nghwpan Byd y Menywod, a lle yn ail dymor twrnamaint yr WXV.

Bydd Cymru’n paratoi ar gyfer eu hymgyrch WXV2 gyda dwy gêm Brawf yn erbyn yr Alban yng Nghaeredin a’r Wallaroos yng Nghasnewydd.

Cymru, Yr Alban, Awstralia, Yr Eidal, Japan a De Affrica yw’r chwe Gwlad sydd wedi cymhwyso ar gyfer WXV2, a fydd yn un gystadleuol.

Gemau Prawf Cymru cyn WXV2:

  • Gwener, 6 Medi Yr Alban v Cymru, The Hive, Caeredin (Y Gic Gyntaf am 7pm)
  • Gwener, 20 Medi Cymru v Awstralia, Rodney Parade, Casnewydd (Y Gic Gyntaf am 7pm)

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Ar ôl cymhwyso ar gyfer WXV2 a Chwpan y Byd 2025, mae’r chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r staff wedi haeddu seibiant byr, cyfle i gael hoe fach ac amser i fyfyrio ar dymor sydd wedi bod yn un hir.

“Roedd y perfformiad yn erbyn Sbaen wedi dangos beth rydyn ni wedi bod yn gweithio arno ers i’r Cwpan y Byd diwethaf ddwyn ffrwyth, ac rydyn ni’n gwybod bod gennym ni’r ddawn i gymysgu ein gêm a chroesi i gael wyth cais.

“Byddwn yn dod at ein gilydd ddiwedd mis Gorffennaf i ddechrau paratoi ar gyfer y tymor mwyaf cyffrous yn hanes rygbi menywod, gyda Chwpan y Byd yn Lloegr ar y gorwel.

“Bydd ein paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd yn dechrau ddiwedd mis Gorffennaf, ac rydyn ni’n gwybod bod cnewyllyn ein carfan gyda ni, ond mae angen cystadleuaeth am leoedd ac adeiladu’r dyfnder yn y garfan cyn Lloegr 2025.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Menywod Cymru ar fin wynebu’r Alban ac Awstralia
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Menywod Cymru ar fin wynebu’r Alban ac Awstralia
Menywod Cymru ar fin wynebu’r Alban ac Awstralia
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Menywod Cymru ar fin wynebu’r Alban ac Awstralia
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Menywod Cymru ar fin wynebu’r Alban ac Awstralia