Hon oedd trydedd colled carfan Liza Burgess yn eu tair gêm yng Nghyfres Haf y Chwe Gwlad.
‘Roedd y Cymry ar y blaen o 14-5 ar yr egwyl ond fe brofodd gwres llethol gogledd yr Eidal yn ormod i’r Crysau Cochion yn y pendraw.
Fe sgoriodd Maisie Davies ddau gais yn gynnar yn yr ornest a chais a dau drosiad Nel Metcalfe fu’n gyfrifol am weddill pwyntiau Cymru.
Gweld datblygiad yn chwarae ei charfan oedd prif obaith y Prif Hyfforddwr Liza Burgess yn ystod y gyfres – ac fe welwyd gwir welliant ac addewid mewn agweddau o’r chwarae yn y ddwy ornest yn erbyn Ffrainc a Lloegr. Er y gobaith gwirioneddol o guro’r Eidal wrth droi – fe brofodd y tîm cartref yn rhy gryf i Fenywod Cymru yn ystod yr ail gyfnod.
Fe ddechreuodd pump o’r Cymry y tair gêm yn Parma – Metcalfe, y cyd-gapten Jess Rogers, yr asgellwr Amy Williams, y prop Cadi-Lois Davies a’r blaenasgellwr Lucy Isaac.
Cafwyd dechrau da o safbwynt Gymreig i’r gêm nos Sul – gan i Maisie Davies dirio ddwywaith a gan i Nel Metcalfe drosi ddwywaith o fewn yr 20 munud agoriadol. Rhaid canmol gwaith deallus Seren Singleton yng nghyd-destun yr ail gais gan mai ei meddwl chwim hi – grëodd y sgôr i Davies.
Wedi hynny – fe groesodd Yr Eidal am bedwar cais heb ateb gan y Cymry – cyn i Nel Metcalfe barchuso’r sgôr wrth groesi eiliadau cyn y chwiban olaf. Ond fe wnaeth Yr Eidal fynnu cael y gair olaf wrth groesi eto gyda symudiad ola’r gêm i selio’r fuddugolaieth.
Gobaith Liza Burgess a’i thîm hyfforddi yw y bydd nifer fawr o aelodau’r garfan hon wedi dysgu llawer o’r profiad o gystadlu yng Nghyfres Haf y Chwe Gwlad ac y byddant yn manteisio ar y ffaith y bydd yr Her Geltaidd y tymor nesaf yn cynnwys gemau cartref ac oddi-cartref yn erbyn y gwrthwynebwyr.