Bydd y Prawf cyntaf yn cael ei gynnal yn Stadiwm Allianz, Sydney am 10.45 amser Cymru ddydd Sadwrn y 6ed o Orffennaf. Bydd yr ornest yn cael ei dangos yn fyw ar Sky.
Bydd yr ail brawf yn cael ei chynnal ym Melbourne y Sadwrn canlynol cyn i Gymru gwblhau’r daith wrth wynebu’r Queensland Reds yn Brisbane.
Dewi Lake fydd yn arwain y Cymry ddydd Sadwrn – ac mae saith newid o’r 15 ddechreuodd yn y golled o 41-13 yn erbyn De Affrica yn Twickenham ar yr 22ain o Fehefin.
Tîm Cymru i wynebu Awstralia
15. Liam Williams (Kubota Spears – 90 cap)
14. Josh Hathaway (Caerloyw – heb gap)
13. Owen Watkin (Gweilch – 39 cap)
12. Mason Grady (Caerdydd – 12 cap)
11. Rio Dyer (Dreigiau – 20 caps)
10. Ben Thomas (Caerdydd – 2 cap)
9. Ellis Bevan (Caerdydd – 1 cap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 31 cap)
2. Dewi Lake (Gweilch – 13 cap) capten
3. Archie Griffin (Caerfaddon – 1 cap)
4. Christ Tshiunza (Caerwysg – 10 cap)
5. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 17 cap)
6. Taine Plumtree (Scarlets – 3 chap)
7. Tommy Reffell (Caerlŷr – 18 cap)
8. Aaron Wainwright (Dreigiau – 49 cap)
Eilyddion
16. Evan Lloyd (Caerdydd – 3 chap)
17. Kemsley Mathias (Scarlets – 3 chap)
18. Harri O’Connor (Scarlets – 2 cap)
19. Cory Hill (Secom Rugguts – 32 cap)
20. James Botham (Caerdydd – 11 cap)
21. Kieran Hardy (Gweilch – 21 cap)
22. Sam Costelow (Scarlets – 13 cap)
23. Nick Tompkins (Saraseniaid – 36 chap)