Mae’r Prif Hyfforddwr Richard Whiffin wedi enwi ei dîm i wynebu Awstralia yn rownd gynderfynol y 5ed safle ym Mhencampwriaeth y Byd – fydd yn cael ei chynnal yn Stadiwm Danie Craven ddydd Sul (6pm amser Cymru).
Bydd wythwr y Gweilch Morgan Morse yn chwarae yn ei 23ain gêm ryngwladol o dan 20 nos Sul – gan ymuno â chyn-asgellwr y Scarlets, Ryan Conbeer, fel y Cymro sydd wedi cynrychioli Cymru amlaf ar y lefel yma.
“Mae natur y gystadleuaeth – gyda dim llawer o amser rhwng y gemau’n golygu bod yn rhaid gwneud newidiadau eithaf cyson o un ornest i’r llall” meddai Whiffin.
“Mae Harry Beddall yn ôl yn ffit nawr ac felly mae wedi ei ddewis i roi egni mawr i ni. Mae hynny’n rhoi cyfle i Lucas de la Rua gael effaith sylweddol pan gaiff ei alw oddi ar y fainc.
“Ry’n ni wedi gwneud newidiadau ymhlith yr olwyr a byddwn yn disgwyl gweld gwelliant wrth i ni geisio rheoli’r tir a’r meddiant.
“Gan nad yw pawb yn holliach i gael eu ar gyfer y gêm bwysig yma – ac felly rwyf wedi gorfod gwneud ambell newid – r’yn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddydd Sul.”
Er mor bwysig yw datblygu’r perfformiad ddydd Sul, mae Whiffin yn bendant bod angen anelu at sicrhau canlyniad ffafriol hefyd:
“Ry’n ni mewn pencampwriaeth fawr a dyw’r bechgyn yma ddim yn cael lot o gyfleoedd i chwarae yn erbyn timau hemisffer y de – sy’n dueddol a chwarae gyda gwahanol arddull i ni. Ein her yw ceisio eu curo gan wneud hynny’n gyson, fel y bydd ein chwaraewyr ni wedi arfer maeddu timau o’r fath wrth gyrraedd y prif lwyfan rhyngwladol.
“Ry’n ni wedi rhoi ychydig o bwysau ar y bechgyn i sicrhau canlyniadau cofiadwy yn ystod y ddwy gêm nesaf. Wrth gwrs ein bod eisiau gweld perfformiadau da – ond ry’n ni eisau gweld y perfformaidau addawol diweddar yn troi i mewn i fuddugoliaethau pwysig.”
Cymru dan 20 v Awstralia Dan 20, rownd gynderfynol y 5ed safle, Stadiwm Danie Craven, nos Sul 14 Gorffennaf, 6pm Amser Cymru
1 Jordan Morris (Dreigiau)
2 Isaac Young (Scarlets)
3 Sam Scott (Bryste)
4 Jonny Green (Harlequins)
5 Nick Thomas (Dreigiau)
6 Ryan Woodman (Dreigiau – Capt)
7 Harry Beddall (Caerlŷr)
8 Morgan Morse (Gweilch)
9 Rhodri Lewis (Scarlets)
10 Harri Wilde (Caerdydd)
11 Aidan Boshoff (Bryste)
12 Louie Hennessey (Caerfaddon)
13 Macs Page (Scarlets)
14 Kodie Stone (Caerdydd)
15 Matty Young (Caerdydd)
Eilyddion
16 Harry Thomas (Scarlets)
17 Ioan Emmanuel (Caerfaddon)
18 Kian Hire (Gweilch)
19 Gethyn Cannon (Dreigiau)
20 Lucas de la Rua (Caerdydd)
21 Lucca Setaro (Scarlets)
22 Harri Ford (Clwb Rygbi y Dreigiau)
23 Steffan Emanuel (Rygbi Caerdydd) |