Page sgoriodd dri o bum cais y Crysau Cochion – ac er mai pum cais sgoriodd yr Awstraliaid ifanc hefyd – fe brofodd eu cicio mwy cywir – ar faes trwm – yn werthfawr iawn iddynt yn y pendraw.
O’r herwydd byddant yn wynebu Ariannin i weld pwy fydd yn gorffen yn bumed – tra gornest rhwng Cymru a’r tîm cartref De Affrica fydd yn penderfynu pwy fydd yn hawlio’r seithfed safle.
‘Roedd Cymru’n ennill o 12-7 cyn i’r mewnwr Rhodri Lewis dderbyn cerdyn melyn. Fe brofodd hynny’n allweddol oherwydd erbyn yr amser iddo ddychwelyd i’r maes – ‘roedd gan Awstralia fantais o 24-12.
‘Roedd hynny’n siom enfawr gan fod y bachwr Isaac Young wedi rhoi’r dechrau delfrydol i’r Cymry – cyn i Harvey Corducks fanteisio ar fwy nac un camgymeriad llac gan y Crysau Cochion.
Fe gasglodd Macs Page adlamiad caredig cyn rhedeg 50 metr i sgorio’i gais cyntaf o’r noson – ac yn dilyn trosiad Harri Wilde – ‘roedd bechgyn Richard Whiffin ar y blaen o 12-7.
Tra bo Lewis yn y cell callio – fe groesodd Kadin Pritchard ac Archie Saunders am geisiau cyn i Harry McLaughlin-Phillips ymestyn eu mantais i 24-12 ychydig cyn yr egwyl.
Fe roddodd gais Toby MacPherson flaenoriaeth o 17 pwynt i Awstralia cyn i’r Cymry ifanc lusgo eu hunain yn ôl i mewn i’r ornest.
Yn dilyn gwaith celfydd Aidan Boshoff – fe groesodd Matty Young am gais yng nghysgod y lluman – ond fe ail-sefydlodd Awstralia eu mantais wrth i’r mewnwr Dan Nelson dirio’n hyderus i’w gwneud hi’n 36-17 i’w dîm.
Dyfal donc oedd agwedd gadarnhaol y Cymry ac yn dilyn cic ymosodol gampus Ford – fe groesodd Page am ei ail gais cyn iddo gydweithio’n wych gyda Louie Hennessey i dirio am ei drydydd.
Yn dilyn trosiad Ford – dim ond seithpwynt oedd rhwng y timau gydag wyth munud yn weddill.
Er i fechgyn Richard Whiffin wneud popeth o fewn eu gallu i chwilio am drosgais fyddai wedi mynd â’r gêm i amser ychwanegol – fe lwyddodd Awstralia i warchod eu llinell gais a’u mantaid hyd y chwiban olaf.