Er bod Joyce-Butchers bellach wedi cymryd rhan mewn tair Gemau Olympaidd, dod nôl yn waglaw wnaeth hi o Rio a Tokyo ar ôl i Brydain Fawr orffen yn bedwerydd ar y ddau achlysur. Eleni, yn eu gêm olaf yn y grŵp, sgoriodd y gwibiwr o Gymru ddau gais ym muddugoliaeth Prydain Fawr yn erbyn De Affrica o 26 i 17 i gyrraedd y chwarteri.
Er mai Prydain Fawr wnaeth sgorio gyntaf yn erbyn UDA, roedd natur gorfforol yr Americanwyr yn ormod i dîm dewr Prydain ac fe aethant ymlaen i ennill o 17-7.
Mewn gêm gorfforol a llawn cyffro, Ellie Boatman sgoriodd gyntaf i Brydain ond llwyddodd Naya Tapper, Kristi Kirshe a Sammy Sullivan sgorio dri chais yn olynol i UDA wrth iddyn nhw frwydro nôl i ennill eu lle yn y rownd gynderfynol.
Daeth Ilona Maher yn agos at sgorio pedwerydd cais ond cafodd ei thaclo gan Joyce-Butchers ar y llinell.
“Dwi ddim yn gwybod sut rwy’n teimlo. Mae dod yma a methu â chyrraedd y pedwar uchaf yn siomedig iawn,” meddai Joyce-Butchers, “Fe wnaeth pob un ohonon ni wneud ein gorau glas.”