Neidio i'r prif gynnwys
Y Gweilch i greu nyth yn Sain Helen

Sain Helen, yn hytrach na Maes y Bragdy ym Mhenybont fydd cartref y Gweilch.

Y Gweilch i greu nyth yn Sain Helen

Mae’r Gweilch wedi cyhoeddi mai maes Sain Helen yn Abertawe fydd y lleoliad ar gyfer eu stadiwm newydd o’r tymor 25/26 ymlaen.

Rhannu:

Yn dilyn cyfnod o ymchwilio a phendroni trylwyr wrth ystyried Sain Helen a Maes y Bragdy ym Mhen-y-bont ar Ogwr – penderfynwyd mai Abertawe oedd y lleoliad mwyaf addas ar gyfer y dyfodol.

Yn eu datganiad swyddogol, diolchodd y Gweilch i Gyngor Bwrdeistref Pen-y-bont am eu “cefnogaeth ragorol yn ystod ein cyfnod o ymchwilio.”

Eglurodd y Gweilch bod “symud i Sain Helen nid yn unig yn ein cadw’n agos at y rhan fwyaf o’n cefnogwyr a’n noddwyr, ond mae hefyd yn ein galluogi i weithio gyda Chyngor Dinas a Sir Abertawe i greu pennod newydd a chyffrous yn hanes maes enwog Sain Helen – y maes lle chwaraeodd Cymru eu gêm rygbi ryngwladol gyntaf erioed yn 1882.

“Bydd ein buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn y safle yn golygu gosod cae 4G newydd, creu stondinau a siopau newydd, ailwampio adeilad y clwb, a chyflwyno ardal arbennig ar gyfer y cefnogwyr hefyd. Y nod yw cynnig profiad diwrnod gêm heb ei ail i gefnogwyr a datblygu cyfleoedd newydd ar gyfer digwyddiadau fydd yn sicrhau buddsoddiad pellach yn y clwb o ddigwyddiadau y tu hwnt i ddiwrnod gêm.”

Bydd Clwb Rygbi Abertawe a Phrifysgol Abertawe yn parhau i chwarae ar y maes, a gobaith y Gweilch yw cynnal nifer cynyddol o gemau cymunedol yn Sain Helen hefyd.

Mae Clwb Criced Abertawe wedi cael eu cynnwys yn y trafodaethau o’r dechrau’n deg, a bydd cyhoeddiad ynghylch ble y byddant yn chwarae eu gemau nhw yn y dyfodol yn cael ei wneud maes o law.

Dywedodd Lance Bradley, Prif Weithredwr y Gweilch: “Bydd symud i leoliad y byddwn yn gallu ei alw’n gartref yn newid popeth i bawb sy’n ymwneud â’r clwb – gan gynnwys chwaraewyr, staff, cefnogwyr a noddwyr.

“Mae ein buddsoddiad yn dangos ein hyder nid yn unig yn y cynlluniau sydd gennym ar y cae ac oddi arno, ond hefyd ein ffydd yn nyfodol rygbi Cymru a’r cynlluniau sy’n cael eu datblygu gan Undeb Rygbi Cymru.”

Mae Maes Chwaraeon Sain Helen yn eiddo i Gyngor Abertawe, sydd â chynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu’r ardal gyfan yn barc chwaraeon elît.

Roedd Rob Stewart, arweinydd y cyngor, yn falch o benderfyniad y Gweilch i ddewis lleoliad arall yn Abertawe fel eu cartref newydd.

Dywedodd: “Rydym wrth ein bodd gyda chyhoeddiad y Gweilch; mae’n rhywbeth y bydd llawer o’r  cefnogwyr yn gyffrous iawn yn ei gylch.”

Bydd y Gweilch yn parhau i chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm Swansea.com yn ystod tymor 24/25 – cyn symud i’w cartref newydd y tymor canlynol.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Y Gweilch i greu nyth yn Sain Helen
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Y Gweilch i greu nyth yn Sain Helen
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Y Gweilch i greu nyth yn Sain Helen
Rhino Rugby
Sportseen
Y Gweilch i greu nyth yn Sain Helen
Y Gweilch i greu nyth yn Sain Helen
Y Gweilch i greu nyth yn Sain Helen
Y Gweilch i greu nyth yn Sain Helen
Y Gweilch i greu nyth yn Sain Helen
Y Gweilch i greu nyth yn Sain Helen
Amber Energy
Opro
Y Gweilch i greu nyth yn Sain Helen