Er mwyn cynnig seibiant o chwarae i asgellwr Caerdydd – ni ystyriwyd ei ddewis ar gyfer Taith yr Haf i Awstralia fel y gallai wella’n llwyr o’r anafiadau y dioddefodd i’w benglin a’i goes.
Dywedodd Josh Adams: “Mae hi wedi bod yn braf gallu ymlacio rhywfaint am gyfnod. ‘Ro’n i angen cyfnod heb chwarae er mwyn gwella’n llwyr o anafiadau’r tymor diwethaf.
“Fe gefais y driniaeth arbenigol a’r seibiant yr oedd eu hangen arnaf ac felly mae’r problemau oedd yn fy mhoeni’r tymor diwethaf wedi eu gwella.”
‘Roedd chwarae’r rhan fwyaf o’r tymor diwethaf yn anodd i Adams, sydd bellach wedi ennill 59 o gapiau, gan nad oedd yn teimlo’n gwbl holliach am gyfnodau helaeth o’r tymor. Ond mae bellach yn ôl yn ymarfer yn llawn ac yn anelu at ddychwelyd i Gaerdydd yn erbyn Zebre ar yr 20fed o Fedi ar gyfer gêm agoriadol ei glwb o dymor y Bencampwriaeth Unedig.
Ychwanegodd Josh Adams: “Er bod y penderfyniad i beidio â theithio i Awstralia yn un anodd – fydden i ddim wedi gallu ymroi’n llwyr wrth ymarfer na chwarae – ac felly aros gartre’ oedd y peth cywir i’w wneud.
“Roedd gennyf broblem gyda fy mhenglin trwy gydol y Chwe Gwlad – ac wedi cyfnod o seibiant – fe wellodd y broblem o’r benglin yn llanw gyda gwaed yn naturiol heb driniaeth benodol.
“Rwy’n teimlo’n dda ac yn hyderus bod y broblem honno wedi ei sortio ac mae’r hernia gefais hefyd i weld wedi gwella’n iawn. ‘Roedd yr hernia’n pwyso ar nerf yn rhan uchaf fy nghoes ond wedi cyfnod o bum wythnos o orffwys – ‘rwy’n teimlo’n holliach unwaith eto.
“Fues i yn Pathos am wythnos gyda’r teulu ac i Disneyland gyda fy merch dair oed fel anrheg pen-blwydd. Fe ges i’r cyfle i fynd gyda rhai o fy ffrindie am ychydig ddyddiau hefyd – ac fe wyliais bob un o gemau Cymru dros yr haf hefyd wrth gwrs.
“Mae’n rhaid i mi ddiolch i glwb Caerdydd am y ffordd y maen nhw wedi edrych ar fy ôl i dros yr haf yn enwedig. ‘Roedden nhw’n gweld bod angen seibiant arna’i . Mae hynny wedi gwneud lles mawr i mi – a nawr fi methu aros i wneud gy ngorau dros y clwb y tymor hwn.”