Neidio i'r prif gynnwys
Cyn chwaraewr a dadansoddwr Cymru Alun Carter wedi marw

Cyn chwaraewr a dadansoddwr Cymru Alun Carter wedi marw

Mae cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru Alun Carter wedi marw yn 59 oed.

Rhannu:

Yn ogystal â chwarae dros ei wlad ar y llwyfan rhyngwladol – bu’n ddylanwadol oddi ar y maes hefyd wrth iddo gyflwyno dadansoddi perfformiad i’r tîm rhyngwladol.

Bu’n gapten ar dîm Ysgolion Cymru enillodd y Gamp Lawn ym 1983 ac fe chwaraeodd dros 300 o gemau dosbarth cyntaf dros Bont-y-pŵl, Casnewydd, SO Millau ac Athrofa Caerdydd.

Enillodd ddau gap dros Gymru ym 1991 ac fe gynrychiolodd dîm ‘A’ ei wlad a XV y Byd ym 1999 yn ogystal â’r Barbariaid, Heddlu Prydain a Myfyrwyr Cymru.

Bu’n blismon gyda Heddlu Gwent am bum mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw ‘roedd yn chwarae dros Gasnewydd.

Wedi i’w yrfa ar y maes chwarae ddod i ben fe enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Astudiaethau Symudiadau’r Corff Dynol a Chwaraeon fel myfyriwr aeddfed yn Athrofa Morgannwg.

O dan ddylanwad ei fentor Dr Keith Lyons fe ymchwiliodd yn y Ganolfan Ddadansoddi newydd – arweiniodd at gyfle iddo weithio fel dadansoddwr yn ystod Cwpan Pêl-droed y Byd ym 1994.

Bu Lyons a Carter yn allweddol wrth ddadansoddi perfformiadau tîm Hoci Merched Prydain rhwng 1995-97 ac wedi hynny daeth Carter yn brif ddadansoddwr Hoci Lloegr rhwng 1996-98 aeth ag ef i Gemau’r Gymanwlad yn Kuala Lumpur ym 1998 a Chwpan y Byd yn Utrecht.

Wedi hynny y daeth ei gyfle i ddadansoddi ar ran Undeb Rygbi Cymru a gweithiodd fel Prif Ddadansoddwr i chwech o Hyfforddwyr Cenedlaethol Cymru – Kevin Bowring, Graham Henry, Steve Hansen, Mike Ruddock, Scott Johnson a Gareth Jenkins. Teithiodd gyda Henry a’r Llewod ar y daith i Awstralia yn 2001.

Cyn diwedd ei yrfa amrywiol bu’n rheolwr ar dîm Caerwrangon, yn Brif Weithredwr Pont-y-pŵl a thu hwnt i’r byd rygbi fe weithiodd ar gynlluniau solar a HS2 cyn dychwelyd i Met Caerdydd i ddarlithio ar Berfformiad Chwaraeon fel eu prif ddadansoddwr.

Mae’n ddifyr nodi hefyd iddo chwarae am wyth mis  gyda chlwb Olympique Millau ym 1990 ac fel rhan o’i gytundeb fe weithiodd i gwmni caws Roquefort Societe yn ystod y cyfnod hwnnw.

Bu’n ysgrifennu erthyglau i’r Independent a’r Western Mail ac ef oedd awdur ‘Seeing Red: Twelve Tumultuous Years in Welsh Rugby’. Carter hefyd oedd cyd-awdur ‘The Good, the Bad and the Ugly: The Rise and Fall of Pontypool RFC’.

10.01.91 – y capiau newydd Alun Carter, Neil Jenkins, Scott Gibbs a Glenn George.

Ym 1991, o dan arweiniad y Prif Hyfforddwr Ron Waldron, fe enillodd Alun Carter ei gap cyntaf yn erbyn Lloegr. Felly hefyd ei gyd-chwaraewr rheng ôl yng Nghasnewydd Glenn George a Neil Jenkins a Scott Gibbs hefyd.

“Roedd canu’r anthem yn anhygoel ac ‘roeddwn yn bloeddio ei chanu hi bob tro pan yn chwarae neu yn dadansoddi.

“Roedd tîm Lloegr o dan arweiniad Will Carling yn anhygoel gyda Guscott, Underwood, Winterbottom, Brian Moore, Ackford, Dooley, Dean Richards a Teague yn ein herbyn. Do fe golllon ni o 25-6 ond fe allai pethau fod wedi bod yn wahanol pe bydden ni wedi cicio pum neu chwe gôl gosb ar y diwrnod.”

Enillodd Carter ai ail gap a’i gap olaf yn Yr Alban yn ystod yr un Bencampwriaeth ac fe gafodd dalu’r pwyth yn ôl rywfaint i’r Saeson wrth i’w ddanansoddi gyfrannu at fuddugoliaeth yn erbyn yr Hen Elyn yn Wembley ym 1999 ac wrth i Gymru ennill y Gamp Lawn yn 2005.

Hoffai Undeb Rygbi Cymru estyn pob cydymdeimlad i deulu a chyfeillion Alun Carter.

Alun Jonathan Carter: Cap Rhif: 887 (2 gap); Ganed: 13 Rhagfyr 1964 ym Malpas; Bu farw: 2 Awst 2024.

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cyn chwaraewr a dadansoddwr Cymru Alun Carter wedi marw
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cyn chwaraewr a dadansoddwr Cymru Alun Carter wedi marw
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cyn chwaraewr a dadansoddwr Cymru Alun Carter wedi marw
Rhino Rugby
Sportseen
Cyn chwaraewr a dadansoddwr Cymru Alun Carter wedi marw
Cyn chwaraewr a dadansoddwr Cymru Alun Carter wedi marw
Cyn chwaraewr a dadansoddwr Cymru Alun Carter wedi marw
Cyn chwaraewr a dadansoddwr Cymru Alun Carter wedi marw
Cyn chwaraewr a dadansoddwr Cymru Alun Carter wedi marw
Cyn chwaraewr a dadansoddwr Cymru Alun Carter wedi marw
Amber Energy
Opro
Cyn chwaraewr a dadansoddwr Cymru Alun Carter wedi marw