Bydd Cymru’n wynebu Ffiji, Awstralia a De Affrica ar dri phenwythnos wedi’i gilydd ym mis Tachwedd.
Bydd cefnogwyr sy’n prynu eu tocynnau yn uniongyrchol gan eu clwb rygbi lleol yn helpu’r clwb hwnnw i hawlio comisiwn am y gwerthiant gan hefyd o bosib, sicrhau profiad anhygoel i aelodau iau y clwb hwnnw.
Bydd y tri chlwb sy’n gwerthu’r nifer fwyaf o docynnau ar gyfer Cyfres yr Hydref erbyn 23.59 ar y 4ydd o Fedi yn sicrhau cyfle i 30 o’u chwaraewyr mini neu ieuenctid – yn ferched neu yn fechgyn – i gerdded i faes Stadiwm Principality gyda’r timau ac aros yno i ymuno gyda gweddill y dorf i ganu Hen Wlad Fy Nhadau.
Bydd un clwb penodol yn cael y profiad o ddarparu 30 o bobl ifanc ar gyfer un o’r tair gêm yn ystod Cyfres yr Hydref.
Bydd yr holl arian gaiff ei gasglu o ganlyniad i’r ymgyrch hon yn cael ei ail-fuddsoddi yn Rygbi Cymru.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, Geraint John: “Ry’n ni wastod yn argymell bod cefnogwyr yn prynu eu tocynnau gan eu clybiau lleol gan bod hynny’n cefnogi’r gamp ar lawr gwlad yng Nghymru.
“Ry’n ni’n hapus iawn ein bod yn gallu cynnig y cyfle gwych yma i bobl ifanc brofi’r wefr unigryw o gerdded i faes anhygoel Stadiwm Principality ar ddiwrnod gêm ryngwladol gyda rhai o’u hoff chwaraewyr.”
TREFN GEMAU CYFRES YR HYDREF 2024
Sul 10 Tachwedd: Cymru v Fjiji
Stadiwm Principality
13:40
Sul 17 Tachwedd: Cymru v Awstralia
Stadiwm Principality
16.10
Sadwrn 23 Tachwedd: Cymru v De Affrica
Stadiwm Principality
17:40
MANYLION TOCYNNAU
Gyda’r datblygiad newydd bod tocynnau rhatach ar gael i bobl ifanc o dan 18 yn hytrach na’r rhai o dan 16, mae tocynnau ar gyfer gêm Ffiji ar gael am £10 yn unig. Prisiau’r tri chategori gwahanol ar gyfer oedolion yw £20, £30 a £40 – sy’n golygu y gall teulu gyda 2 oedolyn a 2 blentyn wylio’r gêm ryngwladol hon yn Stadiwm Principality am £60 yn unig.
Prisiau tocynnau oedlolion ar gyfer ymweliad Awstralia yw £30, £40 and £60 – gyda phobl ifanc o dan 18 oed yn gallu mynychu’r ornest fawr hon am £15, £20 a £30 yn y gwahanol gategorïau.
Penllanw Cyfres yr Hydref fydd ymweliad Pencampwyr y Byd, De Affrica ddydd Sadwrn y 23ain o Dachwedd (17:40). Hon fydd yr ail ornest rhwng y ddwy wlad eleni – tipyn o ffordd i gau’r llen ar Gyfres yr Hydref 2024. Bydd y gêm hon hefyd yn rhan o ddathliadau pen-blwydd y Stadiwm yn 25 oed. De Affrica oedd gwrthwynebwyr cyntaf erioed Cymru yn y Stadiwm yn 1999 wrth gwrs a’r diwrnod hwnnw fe enillodd y Cymry am y tro cyntaf erioed yn erbyn y Springboks.
Prisiau’r tocynnau ar gyfer y gêm arbennig hon yn erbyn De Affrica yw £50, £70 a £90 (oedolion) a £25, £35 a £45 ar gyfer rhai o dan 18. Bydd modd i gefnogwyr brynu tocynnau ar gyfer y tair gêm yn yr Ardal Ddi-alcohol am brisiau Categori C.