Neidio i'r prif gynnwys
Lansio citiau newydd Cymru

Lansio citiau newydd Cymru

Heddiw, fe lansiodd Undeb Rygbi Cymru a Macron, sy’n bartner gyda’r Undeb ers 2021, y citiau cartref ac oddi-cartref newydd a fydd yn cael eu gwisgo gan dimau dynion a menywod hŷn Cymru yn ystod y tymor nesaf.

Rhannu:

Mae’r gwaith o ddylunio a chynhyrchu’r citiau wedi eu gwneud gan Macron, ac mae’r faner genedlaethol wedi ysbrydioli’r cynnyrch newydd hwn.

Menywod Cymru fydd yn gwigo’r cit cartref am y tro cyntaf – wrth wynebu Awstralia yn Rodney Parade yn eu hail gêm baratoadol ar gyfer y WXV2. Bydd yr ornest yng Nghasnewydd yn digwydd ar yr 20fed o Fedi.

Dyw hi’n ddim syndod mai’r coch traddodiadol yw prif liw’r crys cartref newydd, gyda’r gwddf gwyn wedi’i addurno gan ddwy linell denau – un goch ac un aur. Mae’r un cyfuniad i’w weld ar gyffion y llewys, tra bo’r llewys eu hunain ac ochrau’r crys yn cynnwys effaith optegol sy’n cynrychioli fflamau’r ddraig. Mae’r motiff unigryw hwn hefyd yn ffurfio cefndir y label ar ochr fewnol y coler, tra bod dyluniad y ddraig eiconig wedi’i gweu’n gynnil ar waelod cefn y crys.

Am y tro cyntaf yma yng Nghymru, bydd gan dimau’r dynion a’r menywod gyfuniadau gwahanol o siorts a sanau:

Siorts gwyn gyda llinyn a bandiau ochr aur a choch fydd gan y dynion. Bydd hyd eu sanau’n goch gyda’r gwyn yn amlwg ar y rhan uchaf o’r hosan. Bydd hefyd stribed aur yn amlwg ar draws y sanau.

Siorts coch â sanau gwynion fydd gan y menywod. Wedi trafod y pwnc o bryder mislif gyda’r garfan – gwnaed y penderfyniad i ddewis y siorts coch.

Dywedodd capten Menywod Cymru, Hannah Jones: “Mae gwisgo’r crys coch wastad yn foment falch ac arbennig, gan ein bod yn gwybod ein bod yn cynrychioli’r genedl, ein teuluoedd a’n ffrindiau, yn ogystal â’r chwaraewyr sydd wedi ein harwain ni at y pwynt yma yn ein hanes. ‘Ry’n ni hefyd yn gwybod ein bod yn cynrychioli pob un o’n cefnogwyr sy’n fraint anhygoel.

“Mae’r ffaith mai tîm y menywod fydd yn cael y cyfle cyntaf i wisgo’r crysau newydd yn erbyn Yr Alban ac Awstralia hefyd yn gyffrous ac yn anrhydedd – wrth i ni baratoi ar gyfer y WXV2 yn Ne Affrica.”

Dywedodd Dewi Lake, a fu’n gapten ar dîm dynion Cymru ar eu taith ddiweddar i Awstralia: “Bob tro ry’ch chi’n gwisgo’r crys coch mae’n brofiad balch ac arbennig iawn. Mae chwarae dros eich gwlad yn deimlad breintiedig iawn ac mae’n anrhydedd enfawr cael eich dewis i wisgo’r crys. Rwy’n gwybod y bydd pob aelod o’r garfan yn edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Stadiwm Principality yng Nghyfres yr Hydref er mwyn cynrychioli ein cefnogwyr, ein teuluoedd a’n ffrindiau – a hynny gyda balchder mawr.”

Mae’r ail grys yn wyn ac mae’r band ar y coler yn wyrdd gyda llinell goch. Dyma’r tro cyntaf ers 2004/2005 i grys amgen Cymru fod yn wyn – a gwnaed y penderfyniad i’w ddefnyddio eto’r tro hwn er mwyn ymdrechu i osgoi gwrthdaro lliwiau timau wrth chwarae –  sy’n gallu amharu ar brofiad cefnogwyr sydd â nam golwg neu sy’n lliwddall.

Bydd y cit gwyn newydd i’w weld am y tro cyntaf ar gefnau’r menywod wrth iddyn nhw chwarae gêm oddi-cartref baratoadol ar gyfer y WXV2 yn erbyn Yr Alban ar y 6ed o Fedi. Ddydd Sadwrn y 23ain o Dachwedd fydd y tro cyntaf i’r dynion gael gwisgo’r ‘ail grys’, pan fyddant yn wynebu De Affrica yng ngêm olaf Cyfres yr Hydref yn Stadiwm Principality.

Mae cyffiau llawes yr ail grys hefyd yn wyn, gyda dwy linell goch a gwyrdd mân ar yr ymylon. Mae bandiau coch llydan, gyda bandiau gwyrdd culach, i’w cael yr ochrau. Mae’r label y tu mewn i’r coler wedi’i addasu yn yr un modd â’r crys cartref ac mae gwaelod cefn y crys hefyd yn cynnwys cynllun cynnil o’r ddraig.

Bydd modd hefyd sicrhau siorts gwyrdd gyda manylion coch a gwyn ar yr ochrau. Bydd gan y rhain linyn gwyn gyda choch ar ben y llinyn hwnnw. Daw’r sanau mewn dau gynllun gwahanol hefyd: gwyn gyda thri band coch llydan, a gwyn gyda dwy stribed goch/werdd, un yn agos at ran uchaf yr hosan a’r llall uwchben y ffêr.

Mae’r crysau newydd, ynghyd â fersiynau ‘replica’ – yn ogystal ag amrywiaeth ardderchog o ddillad hyfforddi a hamdden, ar gael i’w prynu nawr o £44 i blant, o £64 ar gyfer meintiau ieuenctid gyda’r prisiau ar gyfer oedolion yn dechrau am £80. Mae’r rhain ar gael yn Siop URC ar Heol y Porth, Caerdydd neu ar-lein.

Mae’r crysau wedi’u gwneud o Eco Ffabrig unigryw Macron , deunydd polyester sydd wedi ei greu’n gyfan gwbl o blastig wedi’i ailgylchu, gan ddangos ein hymrwymiad ar y cyd gyda Macron i barchu a diogelu’r amgylchedd.

Mae’r crysau newydd wedi eu cynllunio i adlewyrchu siap y corff ac maen nhw wedi eu cynhyrchu wrth ddefnyddio elfennau o Eco-Armevo gyda mewnosodiadau Eco-Boditex a mesh Eco Strong. Mae’r deunyddiau hyn yn sicrhau cryfer gwirioneddol y cynnych yn ogystal â chaniatáu iddynt deimlo’n ysgafn wrth eu gwisgo ac anadlu’n effeithiol hefyd o dan wahanol amodau.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Lansio citiau newydd Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Lansio citiau newydd Cymru
Lansio citiau newydd Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Lansio citiau newydd Cymru
Rhino Rugby
Sportseen
Lansio citiau newydd Cymru
Lansio citiau newydd Cymru
Lansio citiau newydd Cymru
Lansio citiau newydd Cymru
Lansio citiau newydd Cymru
Lansio citiau newydd Cymru
Amber Energy
Opro
Lansio citiau newydd Cymru